Datrys hafaliadau sy’n cynnwys ffracsiynau

curriculum-key-fact
I ddatrys hafaliadau sy’n cynnwys ffracsiynau, rhaid i ti wneud yr un peth i ddwy ochr yr hafaliad i gael yr ateb. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer datrys unrhyw fath o hafaliad.

Er enghraifft, edrycha ar yr hafaliad hwn:

\[\frac{x}{2} = {3}\]

Os lluoswn ni’r ddwy ochr â \({2}\) fe gawn ni’r ateb hwn:

\[{x} = {6}\]

Question

Datrysa’r hafaliad \({2x} - {3} = \frac{1}{2}\).

Y rhif ar y gwaelod ydy \({2}\), felly lluosa’r ddwy ochr â \({2}\). Cofia fod rhaid lluosi pob term ar y ddwy ochr â \({2}\), i roi:

\[{4x} - {6} = {1}\]

Adia \({6}\) at y ddwy ochr i roi:

\[{4x} = {7}\]

Rhanna’r ddwy ochr â \({4}\) i roi:

\[{x} = \frac{7}{4}\]

\[{x} = {1}\frac{3}{4}\]