Hafaliadau sy’n cynnwys cromfachau

curriculum-key-fact
I ehangu cromfachau, lluosa bopeth y tu mewn i’r cromfachau â’r rhif sydd y tu allan.

Enghraifft

Ehanga’r cromfachau: \({2}({3a} + {5})\)

Lluosa bopeth y tu mewn i’r cromfachau â’r rhif sydd y tu allan i roi:

\[({2}\times{3a})+({2}\times{5})\]

Symleiddia hyn i:

\[{6a} + {10}\]

Dyma enghraifft arall:

Ehanga \({-3}({2b} - {4})\).

Lluosa bopeth y tu mewn i’r cromfachau â’r rhif sydd y tu allan i roi:

\[{-3}\times{2b} + {-3}\times{-4}\]

Symleiddia hyn i:

\[{-6b} + {12}\]

Question

Datrysa’r hafaliad \({3}({5x} - {4}) = {2}({2x} + {5})\).

Yn gyntaf, ehanga’r cromfachau:

\[{15x} - {12} = {4x} + {10}\]

Tynna \({4x}\) o’r ddwy ochr:

\[{11x} - {12} = {10}\]

Adia \({12}\) at y ddwy ochr:

\[{11x} = {22}\]

Rhanna ag \({11}\) i roi:

\[{x} = {2}\]