Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol fathau o hafaliadau, sut i gydbwyso hafaliadau, ac ar hafaliadau mwy cymhleth ar ffurf ax + b = c.
Datrysa’r hafaliad \({5x} - {2} = {12} - {2x}\).
Rwyt ti angen cael pob rhif anhysbys \({x}\) ar un ochr i’r hafaliad yn unig, felly dechreua drwy adio \({2x}\) at y ddwy ochr: \({7x} - {2} = {12}\)
Wedyn, adia \({2}\) at y ddwy ochr: \({7x} = {14}\)
Ac yn olaf, rhanna â \({7}\) i roi \({x} = {2}\).
Galli di wirio dy ateb yn yr hafaliad gwreiddiol. Felly rho \({2}\) yn lle \({x}\) yn yr hafaliad \({5x} - {2} = {12} - {2x}\).
\[({5}\times{2}) - {2} = {12} - ({2}\times{2})\]
\[{10} - {2} = {12} - {4}\]
\[{8} = {8}\]
Mae hyn yn gwneud synnwyr, felly mae’r gwerth \({x} = {2}\) yn gywir.
Datrysa’r hafaliad \({4x} = {10} - {x}\).
Adia \({x}\) at y ddwy ochr i roi \({5x} = {10}\).
I ganfod \({x}\), rhanna’r ddwy ochr â \({5}\) i gael \({x} = {2}\).
Datrysa’r hafaliad \({4x} + {1} = {2x} + {5}\).
Dechreua drwy dynnu \({2x}\) o’r ddwy ochr i’r hafaliad i roi:
\[{2x} + {1} = {5}\]
Wedyn tynna \({1}\) o’r ddwy ochr i roi:
\[{2x} = {4}\]
Rhanna’r ddwy ochr â \({2}\) i roi:
\[{x} = {2}\]