Ffactorau cymdeithasol

Mae tua 67 o ddinasoedd mawr, pob un â phoblogaeth o dros 100,000, yn agos at ardaloedd folcanig. Mae nifer y bobl sydd mewn perygl oherwydd daeargrynfeydd a tsunami hyd yn oed yn fwy. Po fwyaf yw’r boblogaeth gyfagos, po fwyaf yw’r bygythiad i bobl.

Un o’r ardaloedd sydd â’r risg fwyaf yw Cylch Tân y Môr Tawel. Mae dros 450 o losgfynyddoedd byw y byd wedi’u lleoli yma – ardal â thros 1 biliwn o bobl.

Map o’r byd yn dangos ardal Cylch Tân y Môr Tawel a llosgfynyddoedd byw eraill.

Ffactorau economaidd

Mae pobl mewn gwledydd incwm isel (LIC) yn fwy agored i fygythiad peryglon tectonig oherwydd gwasanaethau iechyd gwael, prinder gwasanaethau brys ac adeiladau a strwythurau wedi’u hadeiladu’n wael. Yn Shillong, dinas yng ngogledd-ddwyrain India, mae dros 90,000 o’r 400,000 o drigolion mewn perygl o ddioddef effeithiau daeargrynfeydd oherwydd eu bod yn byw mewn adeiladau aml-lawr, wedi’u hadeiladu am gost isel, na fyddant yn gallu gwrthsefyll effeithiau daeargryn. Mae llawer ohonyn nhw ar ochrau mynyddoedd serth a byddent yn dymchwel yn hawdd iawn, gan wasgu pawb fyddai y tu mewn iddyn nhw.

Rhesi o dai â tho tun yn Meghalaya, yn India.
Mae’n hawdd iawn i dai o wneuthuriad gwael yn India gael eu difrodi gan ddaeargryn

Ffactorau economaidd-gymdeithasol

Weithiau mae ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn gorgyffwrdd. Mewn daearyddiaeth mae’r rhain yn cael eu galw’n ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Tlodi

Mae tlodi yn broblem fawr ar hyd a lled y byd. Byddai pobl sydd ar incwm isel, neu bobl sy’n dibynnu ar aelodau o’r teulu am gynhaliaeth, yn cael anhawster i amddiffyn eu hunain ac i gynyddu eu gallu i ddygymod â thrychineb naturiol.

Tir ymylol

Mewn rhai rhannau o’r byd, mae ffermio’n anodd oherwydd dulliau ffermio gwael, hinsawdd anodd a phriddoedd tenau. Yn aml iawn, y bobl mewn darnau ymylol o dir sy’n dioddef fwyaf mewn daeargryn, oherwydd eu bod yn methu â fforddio adeiladau cryf i fyw ynddyn nhw, ac oherwydd nad oes ganddyn nhw gysylltiadau cyfathrebu da.

Trafnidiaeth a chyfathrebu

Mae’n anodd iawn i bobl a gwasanaethau fynd i ardaloedd anghysbell ac ardaloedd llai datblygedig sy’n cael eu heffeithio gan drychinebau naturiol os yw’r systemau trafnidiaeth a chyfathrebu yn wael.

Agosrwydd at ffatrïoedd/diwydiant

Pan fydd trychinebau naturiol fel tsunami a daeargrynfeydd yn digwydd, gallai problemau eilaidd fod yn gysylltiedig â hwy. Gallai’r rhain effeithio ar swyddi a busnesau, oherwydd gallai trychineb effeithio ar ffatrïoedd a diwydiannau. Yn ogystal, gallai rhai o’r diwydiannau hyn achosi problemau amgylcheddol ehangach, fel arllwysiadau a gollyngiadau, sydd hefyd yn gallu effeithio ar fywydau pobl leol.

Llun o tsunami 2011 wedi ei dynnu o orsaf bŵer niwclear Fukushima Rhif 1. Mae tonnau anferth yn agosáu at yr orsaf bŵer.
Cafodd gorsaf bŵer niwclear Fukushima yn Japan ei heffeithio’n ddrwg gan tsunami 2011 a bu bron iddi gael ei dinistrio. Cafodd hyn effaith fawr ar fywydau llawer o bobl gan fod ymbelydredd wedi gollwng i’r ardaloedd cyfagos.

Lefel addysg

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng addysg a chyfoeth. Pobl sydd wedi cael addysg wael, neu sydd heb gael llawer o addysg, yw’r rhai mwyaf agored i niwed mewn trychineb naturiol oherwydd mae’n bosibl na fyddan nhw’n gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Yn ogystal, efallai y byddan nhw’n byw mewn cymunedau tlawd lle mae tai a thrafnidiaeth yn wael.