Beth mae Iddewiaeth yn ei ddysgu am fywyd wedi marwolaeth?

Er bod Iddewiaeth wedi dysgu erioed fod yna fywyd wedi marwolaeth, mae manylion hyn yn aneglur ac yn destun dadlau maith.

Pan ysgrifennwyd yr ysgrythurau Iddewig cynnar, roedd llawer o Iddewon yn credu y byddai pawb, wedi iddyn nhw farw, yn disgyn i le tywyll o’r enw Sheol. Wrth i Iddewon ddod i gysylltiad â dylanwadau eraill, datblygodd dysgeidiaethau pellach, gan gynnwys dysgeidiaethau ar Gan Eden a Gehenna. Wedyn daeth Sheol yn fan puro, neu aros, cyn i’r unigolyn gael ei anfon ymlaen naill ai i Gan Eden neu i gael ei ddifa’n llwyr.

Tuag adeg y Phariseaid a’r rabïaid cynnar cafodd dysgeidiaethau am fywyd wedi marwolaeth eu datblygu ymhellach. Dysgodd y rabïaid cynnar y byddai’r rhai oedd yn byw yn ôl yr halakhah yn cael eu gwobrwyo mewn byd i ddod, sef Olam Ha-Ba mewn Hebraeg.

Roedd dysgeidiaethau diweddarach am fywyd wedi marwolaeth yn cynnwys y syniad y deuai dydd barn wedi dyfodiad y Mashiach. Ar y pwynt hwn roedd rhai’n dysgu y câi’r enaid a’r corff eu haduno, a elwid weithiau’n atgyfodiad y corff, tra bod eraill yn credu mai’r enaid fyddai’n dragwyddol, cred a elwid yn anfeidroldeb yr enaid. Wedyn byddent yn cael cosb neu wobr am y ffordd yr oeddent wedi byw, ond doedd dim dysgeidiaeth glir am union natur Nefoedd nac Uffern.

Mae Iddewiaeth yn dysgu mai’r hyn sy’n bwysig yw sut y mae rhywun yn byw ei fywyd ac y dylid gadael yr hyn sy’n digwydd wedi marwolaeth i Dduw. Dylid gwneud troeon da er eu mwyn eu hunain. Yn y Mishnah dywedir:

quote
Na fyddwch fel gweision sy’n gwasanaethu eu meistr er mwyn derbyn gwobr.Moeseg y Tadau 1:3