Mae siapiau 2D yn fflat. Bydd penseiri’n tynnu lluniau 2D – uwcholygon, blaenolygon ac ochrolygon – i weld sut y bydd adeilad yn edrych o bob ochr. Mae gan bedrochrau bedair ochr a phedair cornel.
Mae’r tabl hwn yn dangos priodweddau gwahanol fathau o bedrochrau.
Sgwâr
Pedrochr rheolaidd ydy sgwâr.
Mae pob ongl yn hafal (\({90}^\circ\)).
Mae hyd pob ochr yn hafal.
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae’r croeslinau’n haneru ei gilydd ar \({90}^\circ\).
Mae’r croeslinau’n hafal o ran hyd.
Rhombws
Mae’r onglau cyferbyn yn hafal.
Mae pob ochr yn hafal o ran hyd.
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae’r croeslinau’n haneru ei gilydd ar \({90}^\circ\).
Petryal
Mae pob ongl yn hafal (\({90}^\circ\)).
Mae’r ochrau cyferbyn yn hafal o ran hyd.
Mae’r croeslinau’n hafal o ran hyd.
Mae ochrau cyferbyn yn baralel.
Paralelogram
Mae’r onglau croesgornel yn hafal.
Mae’r ochrau cyferbyn yn hafal o ran hyd.
Mae’r ochrau cyferbyn yn baralel.
Mae’r croeslinau’n haneru ei gilydd.
Trapesiwm
Mae un pâr o ochrau cyferbyn yn baralel.
Barcud
Mae dau bâr o ochrau cyfagos yn hafal o ran hyd.
Mae un pâr o onglau cyferbyn yn hafal.
Dim ond un groeslin sy’n cael ei haneru gan y llall.
Mae’r croeslinau’n croesi ar \({90}^\circ\).