Symud dy gorff

Mae symud ar y llwyfan yn ymwneud â symud dy gorff yn effeithiol. Bydd angen i ti feddwl am safle, graddfa a faint o symud sy’n argyhoeddi. Mae angen i symudiadau hefyd fod mewn perthynas ag eraill ar y llwyfan. Gallai fod cyswllt sylweddol rhyngddyn nhw, ee yng nghynhyrchiad Steven Berkoff o Oedipus yn 2011, lle mae’r cymeriadau i gyd ar y llwyfan yn gweithio gyda’i gilydd.

Criw o ddynion mewn gwisg cyfnod tlawd a chapiau fflat yn eistedd ar lawr a chymeriad ar ei draed yn estyn llaw atynt
Actorion yn perfformio Oedipus gan Steven Berkoff LLUN: Helen Warner

Gall symudiadau fod yn gwbl realistig, neu’n arddulliedig a chynrychioliadol. Mae hyn yn dibynnu ar y math o symudiadau mae cyd-destun dy gynhyrchiad yn gofyn amdanynt.