Goresgyniad y Rheindir, Mawrth 1936

Map yn dangos lleoliad yr Almaen, Awstria, y Rheindir a SudetenlandMap yn dangos lleoliad y Rheindir ar ffin ddwyreiniol yr Almaen

Ers blynyddoedd roedd ardal y Rheindir wedi bod yn rhanbarth diwydiannol allweddol o’r Almaen, yn cynhyrchu adnoddau glo, dur a haearn.

Roedd y Rheindir hefyd yn ffurfio gwahanfur naturiol rhwng yr Almaen a’i chymydog a’i chystadleuydd, Ffrainc. Os digwyddai rhyfel, byddai Afon Rhein, o’i hamddiffyn yn iawn, yn rhwystr anodd i lu ymosodol ei groesi.

Un o delerau Cytundeb Versailles oedd na chai’r Almaenwyr gadw lluoedd milwrol mewn llain 50 km o’r Rheindir. Roedd yn gas gan Hitler yr amod hon gan ei bod yn gadael yr Almaen yn agored i ymosodiad. Roedd yn benderfynol o chwyddo’i allu milwrol a chryfhau ei ffiniau.

Yn 1935 datgelodd Hitler ei fod wedi datblygu llu awyr ac wedi llofnodi’r Cytundeb Llyngesol Eingl-Almaenaidd a ganiatâi iddo gynyddu ei luoedd llyngesol.

Yn 1936 martsiodd Hitler 22,000 o filwyr Almaenaidd i mewn i’r Rheindir, yn hollol groes i Gytundeb Versailles. Cynigiodd Hitler gytundeb 25 mlynedd i beidio ag ymosod ar Ffrainc a Phrydain, gan honni ‘nad oedd gan yr Almaen ddim hawliadau tiriogaethol i’w gwneud yn Ewrop’.