Amcanion polisi tramor

Roedd gan Hitler dri phrif nod yn ei bolisi tramor:

  • diwygio Cytundeb Versailles
  • uno’r holl bobl Almaeneg eu hiaith mewn un Reich
  • ehangu tua’r dwyrain i sicrhau Lebensraum

Mae haneswyr wedi anghytuno ynglŷn ag amcanion Hitler. Dadleuodd A J P Taylor nad aeth Hitler ati’n fwriadol i geisio rhyfel dinistriol. Yn hytrach, oportiwnydd oedd Hitler a enillodd dir yn ei bolisi tramor drwy weithredu uniongyrchol â hyfdra.

Mae Hugh Trevor-Roper wedi dadlau bod gan Hitler gynllun tymor hir – rhaglen o drefedigaethu Dwyrain Ewrop a rhyfel o goncwest yn y Gorllewin. Arweiniodd y Stufenplan, y polisi graddol hwn, at ryfel.

Mae’n debyg mai’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol yw bod Hitler yn gyson yn ei amcanion, ond ei fod hefyd yn oportiwnydd a oedd yn hyblyg yn ei strategaeth.

Roedd tri cham i’w bolisi tramor:

  • Polisi cymedrol hyd at 1935
  • Gweithgarwch cynyddol rhwng 1935 ac 1937
  • Polisi tramor mwy hyderus ar ôl 1937, yn y sicrwydd na fyddai fawr ddim gwrthwynebiad i’w gynlluniau

Ailarfogi a chonsgripsiwn

Roedd ailarfogi’n fodd i greu swyddi yn y diwydiant arfau gan wthio’r syniad ‘gynnau cyn menyn’. Dechreuwyd ailarfogi bron cyn gynted ag y daeth Hitler i rym ond fe’i cyhoeddwyd i’r byd a’r betws yn 1935.

Gyda chyflwyno gwasanaeth cenedlaethol byddai pob dyn ifanc yn treulio chwe mis yn y RAD ac wedyn yn cael eu consgriptio i’r fyddin. Erbyn 1939, roedd 1.4 miliwn o ddynion yn y fyddin, felly nid oeddent yn cael eu cyfri’n ddi-waith.

Yn Ionawr 1935, cafodd poblogaeth ardal lofaol Saar, a wahanwyd oddi wrth yr Almaen gan gytundebau ar ôl y rhyfel, yr hawl i bleidlais gwlad, a dangosodd fod dros 90 y cant o'r boblogaeth eisiau ail-uno â'r Almaen. Gwelodd Hitler hyn fel buddugoliaeth fawr oherwydd dyma'r anghyfiawnder cyntaf i'w wrthdroi yn sgil Cytundeb Versailles.