Gellir defnyddio'r clip hwn fel sbardun ar gyfer gwaith llafar yn ymwneud ag agweddau ar lygredd yn enwedig llygredd aer a achosir gan ddiwydiant a’r dadleuon ynglŷn â thanwydd orimwlsiwn. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel sbardun i gyfoethogi gwybodaeth a chasglu tystiolaeth ar gyfer ymateb ysgrifenedig ar ffurf anllenyddol fel erthygl, traethawd neu lythyr ffurfiol.