Enghreifftiau o derfysg yn ystod streic y glowyr ym 1984. Gwelir lorïau glo'n teithio ar hyd yr M4, terfysgoedd yn Swydd Efrog, Arthur Scargill yn nwylo'r heddlu ac Ian MacGregor yn cael ei wthio i'r llawr.

This clip is from:
BBC Cymru

Mae hwn yn glip gellir ei ddefnyddio wrth orffen gwaith ar y Chwyldro Diwydiannol. Byddai’n bosibl ei ddangos hefyd i enghreifftio’r thema o drais yn ystod streic y glowyr ac fel ysgogiad i drafod a ydy hi’n iawn i ddefnyddio trais pan fo’r achos yn gyfiawn. Ceir cyfle i drafod gwahanol ddehongliadau o’r streic, ee gellir cyferbynnu safbwynt y llywodraeth gyda barn y glowyr mai brwydr gyfiawn i achub eu swyddi oedd y streic.