Gellir defnyddio’r clip hwn i gyflwyno ffeithiau am Ganolfan y Mileniwm fel rhan o waith am ddiwylliant Cymru. Byddai’n bosibl rhoi taflen eirfa i’r disgyblion a gofyn iddyn nhw wneud tasg gwrando a deall wedi ei seilio ar y clip. Gallai’r clip fod yn sbardun posibl ar gyfer trafodaeth am rôl Caerdydd fel prifddinas Cymru, a’i phwysigrwydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gellir defnyddio’r clip hwn fel rhan o waith ar thema ardal hefyd, gan ganolbwyntio ar Gaerdydd a’r atyniadau sydd yno. Mae cyfle i osod tasg ymchwil a gofyn i ddisgyblion ddarganfod gwybodaeth am yr adnoddau a’r atyniadau eraill sydd yng Nghaerdydd ac i gymharu’r ardal leol gyda’r brifddinas.