Dyma glip y gellir ei ddefnyddio fel symbyliad ar gyfer creu adroddiad newyddiadurol ar lafar am adeilad neu atyniad twristaidd lleol tebyg. Gellir hefyd ei ddefnyddio i greu erthygl papur newydd ar Hafod Eryri. Ceir yma gyfle i drafod enwau atyniadau twristaidd Cymreig - beth sy'n gwneud enw da? Mae'n cynnig cyfle i greu storïau dychmygol ar lafar i esbonio enwau lleoedd yng Nghymru yn null storïau onomastig yr hen gyfarwyddiaid a chwedleuwyr. Gellir annog y disgyblion i greu darn disgrifiadol ar y testun 'O Ben yr Wyddfa Fawr'.