Gellir ei ddefnyddio ar gyfer astudiaeth o leoedd anhygoel y byd. Mae’r clip yn cynnig y cyfle i gael y disgyblion i ystyried beth sy’n gwneud byw neu ymweld ag ardal fynyddig fel gwersyll cyntaf wrth droed Everest mor anodd. Mae’r clip yn cynnig y cyfle i’r disgyblion feddwl am nodweddion megis yr hinsawdd eithafol, tirwedd garw'r ardal a’r lefelau is o ocsigen fel rhesymau posib.