Byddai’n bosibl defnyddio’r clip hwn i gyflwyno'r Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o waith am ddiwylliant Cymru. Gellir gosod tasg ymchwil i ddisgyblion a gofyn iddyn nhw ddarganfod mwy am rôl y Llyfrgell ac am y trysorau sy’n cael eu cadw yno. Mae cyfle i osod tasg gwrando a deall wedi ei seilio ar y clip a’i defnyddio fel sbardun i drafodaeth am bwysigrwydd y Llyfrgell i Gymru. Gellir defnyddio’r clip hefyd wrth ymdrin â thema hamdden. Mae’n cynnig cyfle i drafod hoffter y disgyblion o ddarllen a'r math o lyfrau sydd orau ganddyn nhw. Hefyd, byddai’n bosibl trafod beth mae’r disgyblion yn hoffi ei wneud yn ystod oriau hamdden. Mae'n gyfle i ofyn i ddisgyblion ddarllen llyfrau Cymraeg ac i osod tasgau darllen a deall.