Beth yw ffactorau?

Morgrug yn rhannu eu hunain i grwpiau i esbonio sut mae ffactorau'n gweithio.

Beth yw ffactorau?

Rhifau sy’n rhannu i mewn i rif arall yn union yw ffactorau.

Er enghraifft, dyma ffactorau 8:

1, 2, 4, 8

Gellir dangos ffactorau yn barau. Mae pob pâr yn lluosi i wneud 8.

Dyma barau ffactorau 8:

1 x 8 = 8

2 x 4 = 8