Materion personol
Beth i'w wneud os wyt ti'n cael dy fwlio
Un pryder cyffredin wrth symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yw y gallet gael dy fwlio.
Gair i gall:
- Os bydd rhywun yn ceisio dy fwlio, paid ag ymateb yn negyddol a gwylltio
- Siarada â dy ffrindiau, rhieni neu ofalwr neu dy athro/athrawes, efallai y bydd yn gallu dy gysuro a chynnig cyngor i ti.
- Paid â dioddef yn dawel
Cyngor ychwanegol:
- Os wyt ti’n gallu, dal dy dir gyda’r bwlis a rheoli’r sefyllfa - mae bwlis yn hoffi teimlo'n bwerus felly os byddi di'n rheoli’r sefyllfa bydd ganddynt lai o bŵer.
- Paid â gadael i’r bwlio gael y gorau arnat ti - os nad yw'n effeithio arnat ti does dim i’w ennill mewn dy fwlio.
- Cofia mai’r bwlis sydd â phroblem, nid ti - maen nhw'n ceisio teimlo'n fawr ac yn bwerus drwy dy fychanu di.
- Cofia NAD dy fai di ydyw.
Cael trafferth ffitio i mewn
Mae gan Leo, o'r gyfres Our School, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) oedd yn ei gwneud yn anodd iddo gael ffrindiau a theimlo'n rhan o'i ysgol uwchradd newydd. Doedd ei gyd-ddisgyblion ddim yn deall pam fod Leo yn ymddwyn mewn ffordd arbennig nes i’w chwaer wneud ffilm am ei gyflwr, a oedd yn golygu bod ei gyd-ddisgyblion yn llawer mwy cefnogol. Yma, mae Leo yn cynnig cyngor i fyfyrwyr sy'n cael trafferth ffitio i mewn a sut mae ei brofiad wedi ei helpu i fagu hyder a mwynhau ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd.
Cyngor Leo:
- Siarada â dy ffrindiau neu gyd-ddisgyblion am sut wyt ti’n teimlo a pham ei bod yn anodd i ti ffitio i mewn, efallai y byddant yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i ti.
- Dweud wrth dy athro/athrawes sut wyt ti’n teimlo, efallai y bydd yn gallu dy gyflwyno di i fyfyrwyr eraill a wnaiff dy gyflwyno di i’w ffrindiau nhw.
- Bydd yn ti dy hun ac fe wnei di ffrindiau tebyg i ti dy hun.
Cyngor ychwanegol:
- Teimlo'n wahanol a dim cysylltiad sydd wrth wraidd cael trafferth ffitio i mewn. Ceisia ddod o hyd i un person rwyt ti’n mwynhau ei cwmni nhw i ddechrau (galli ddod o hyd i fwy pan fyddi di'n barod)
- Rho gynnig ar weithgareddau nad wyt ti wedi rhoi cynnig arnyn nhw o’r blaen gan y bydd hynny’n dy helpu i gwrdd â phobl newydd a thebyg i ti
- Cofia barhau i wenu a dweud helo wrth dy gyd-ddisgyblion
- Po fwyaf y risgiau y byddi di’n eu cymryd i gwrdd â phobl newydd y gorau y byddi di'n teimlo (er y gall deimlo'n frawychus ar y dechrau)