So yn ysgol, nes i fethu un o gymwysterau Lefel A fi, ag oedd hwnna wedi dod a fi lawr bach.
Er hyn, be dwi ‘di ‘neud yw cymryd Lefel A arall, cymryd o fyny i wneud dau flwyddyn mewn un a gweithio’n really galed tuag ato fo, fel ar ddiwedd y ddwy flynedd, dwi ar yr un lefel a phawb arall.
Oedd o’n rhoi fi lawr.
Oedd o’n upsetting.
Ond er hyn, dwi ‘di gweithio’n really galed i weithio fo fyny a mynd o fanna.
Mae ‘di bod yn really da.
Pryd bynnag oedd unrhyw un yn gofyn i fi be o’n i eisiau ‘neud pan o’n i’n tyfu fyny, fysan nhw wedyn yn dilyn hwnna hefo’r cwestiwn, ti’n mynd i fod yn gerddor fel dy dad?
A ‘naeth hwnna really ‘neud yn sicr bod fi ddim eisiau bod yn gerddor fel fy nhad.
Felly, pan o’n i’n symud ymlaen i edrych ar gyrfaoedd gwahanol neu gyrsiau gwahanol, oeddwn i’n sicr bod ni eisiau rhywbeth o’n i really eisiau trwy edrych ar gyrsiau gwahanol, neu unrhyw beth fel hynny.
Nes i ffeindio y cwrs i fi, sef llenyddiaeth neu wleidyddiaeth.
Yn ysgol, o’n i’n gwybod bod fi ddim eisiau mynd i mewn i swydd tu ôl i ddesg.
Oedd o ddim yn siwtio fi o gwbl.
Felly, be nes i benderfynu ‘neud oedd mynd i’r awyr agored.
Oedd o’n rhywbeth oedd yn siwtio fi.
O’n i’n gallu bod yn uchel.
O’n i’n gallu symud o gwmpas.
O’n i’n gallu bod yn yr awyr agored.
Ag oedd o’n grêt i be o’n i eisiau gwneud.
Os ‘ych chi’n sicr chi eisiau mynd i’r brifysgol, mae’n rhaid i chi edrych tu fas i’r brifysgol.
Mae’n rhaid i chi edrych am yrfaoedd gwahanol, am brentisiaethau gwahanol.
Ac wedyn, os ‘ych chi’n gwybod, na, dyw hwnna ddim i fi, chi’n gwybod chi really eisiau mynd i’r brifysgol.