Creu adroddiad - Beth yw adroddiad?

Cynnwys y wers hon

  • Gwers 1 o 4 am sut i greu adroddiad

  • Testun yn egluro beth yw adroddiad

  • Dau weithgaredd addas

Lesson content

  • Lesson 1 of 4 on how to create a report

  • Text explaining what is a report

  • Two suitable activities

Beth yw adroddiad?

Ffordd o gyflwyno gwybodaeth am destun neu ddigwyddiad arbennig yw adroddiad.

Mae adroddiadau i'w gweld mewn sawl lle gwahanol, er enghraifft, mewn papur ysgol, papurau bro, cylchgronau neu bapurau newydd, ar y radio, y rhyngrwyd neu ar y teledu. Gohebydd sy'n creu adroddiadau. Mae’r gohebydd yn ysgrifennu adroddiad neu stori i’w rhoi ar-lein, mewn papur newydd neu i’w hadrodd ar deledu neu’r radio.

Mae ffordd arbennig o ysgrifennu adroddiadau ac mae'n bwysig eu hysgrifennu'n ddiddorol bob amser! Mae pob math o wahanol adroddiadau i'w cael. Dyma rai enghreifftiau:

  • Adroddiad sydd wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer papur newydd
  • Adroddiad ar gyfer gwefan neu ap newyddion
  • Adroddiad ar lafar ar y radio neu’r teledu. Mae’n rhaid cofio fod yr adroddiad wedi cael ei ysgrifennu ar bapur, neu yn ddigidol, cyn iddo gael ei ddarllen gan y gohebydd!
  • Adroddiad gan ohebwyr
  • Adroddiadau gan lygad-dystion
  • Adroddiadau manwl
  • Adroddiadau cryno

Mae ffurf yr adroddiad yn dibynnu ar y sefyllfa. Bydd gohebydd yn dewis y ffurf sy'n fwyaf addas i'r sefyllfa. Pe byddai'n ysgrifennu ar gyfer papur newydd byddai'r nifer o eiriau'n bwysig i'w ystyried fel ei fod yn ffitio ar dudalen y papur newydd. Pe byddai'n ysgrifennu ar gyfer bwletin newyddion, sef newyddion sy’n cael eu hadrodd mewn amser byr, byddai'r cyfanswm o funudau ac eiliadau'n bwysig fel ei fod yn ffitio i amser penodol y bwletin.

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Chwilia am wahanol adroddiadau i'w darllen, naill ai mewn papur newydd, ar wefan neu ap newyddion ar ffôn symudol neu dabled. Darllena’r gwahanol adroddiadau a rhestra’r nodweddion sy'n debyg ac yn wahanol rhyngddynt.

Sylwa faint o eiriau sydd ymhob un. Ydy’r adroddiadau yn fanwl neu’n gryno? Oes sylwadau gan lygad-dystion, sef pobl sydd wedi gweld rhywbeth yn digwydd ac yn medru ei ddisgrifio?

Help llaw – Beth am ddechrau ar wefan BBC Cymru Fyw

Search for various articles, either in a newspaper, website or news app. Read the articles and list the features that are similar, or different in each one.

Note the number of words in each article. Are they detailed or brief? Are there comments by witnesses?

Mae adroddiadau ar wahanol bynciau yn cael eu hysgrifennu bob dydd ar gyfer papurau newydd. Mae angen adroddiadau cyson, drwy gydol y dydd ar gyfer gwefannau newyddion. Efallai dy fod wedi ysgrifennu adroddiad papur newydd yn y dosbarth neu ar gyfer papur neu gylchgrawn ysgol. Mae nifer o bethau i'w cofio wrth ysgrifennu adroddiad papur newydd:

Penawdau

Mae'n bwysig fod gan bob adroddiad bennawd, sef teitl sy’n cael ei roi i ddenu sylw ac i ddangos beth yw’r cynnwys. Gallwn ni wneud hyn mewn sawl ffordd wahanol.

Maint y llythrennau yn y pennawd

Yn aml iawn mae maint y llythrennau sydd yn y pennawd yn llawer yn fwy na maint y llythrennau yn yr adroddiad ei hun. Rwyt ti’n gallu cip-ddarllen pob math o wahanol benawdau yn frysiog ac yn gyflym. Unwaith bydd pennawd wedi denu dy sylw yna fe alli di ddewis darllen yr adroddiad sydd wedi tynnu dy sylw di. Dydy pob adroddiad yn y papur ddim o ddiddordeb i bawb yn y teulu. Er enghraifft, ydy Mam neu Dad yn darllen am y gemau fideo diweddaraf? Wyt ti’n mwynhau darllen adroddiadau am sefyllfa ariannol pensiynwyr? Pwy a ŵyr!

Cyflythrennu

Mae penawdau da yn bwysig er mwyn tynnu sylw'r darllenydd. Mae'r gohebydd (sef y person sy’n ysgrifennu adroddiad, neu yn ei ddarllen ar deledu neu’r radio) yn gwneud hyn yn aml gan ddefnyddio geiriau sy'n dechrau gyda'r un llythyren. Cyflythrennu yw'r enw ar gyfer ail-adrodd llythrennau.

Dyma enghreifftiau:

Mae'n bosibl hefyd chwarae gyda geiriau. Mae hon yn ddawn arbennig! Dyma enghreifftiau:

'MWW'y o fwyd i wartheg Ynys Môn!

'Cwstard blas Mwstard! Be nesa!'

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Edrycha eto ar wahanol adroddiadau, naill ai mewn papur newydd neu ar-lein. Y tro yma, darllena’r penawdau yn ofalus. Ydy’r penawdau yn fyr ac yn denu dy sylw? Ydy’r penawdau yn cynnwys cyflythrennu? Pa rai sy’n fwyaf effeithiol? Pam?

Look again at various news articles, either in a newspaper or online. This time, read the headlines carefully. Are they short and did they draw your attention? Do the headlines use alliteration? Which ones are the most effective? Why?

Casglu gwybodaeth

Mae gohebwyr yn gwneud gwaith tebyg i dditectif drwy gasglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell (sef rhywun neu rywbeth sy’n rhoi gwybodaeth ar gyfer stori), er mwyn darganfod beth ddigwyddodd go iawn.

Mae'n bwysig bod gohebwyr yn gofyn y cwestiynau hyn:

  • Beth?
  • Ble?
  • Pryd?

Unwaith y byddi di wedi casglu'r wybodaeth, bydd angen i ti fanylu ar y ffeithiau, drwy sôn am rywbeth yn fanwl iawn.

Mae'n bwysig felly i ti ofyn:

  • Pam?

  • Sut?

Dyma enghraifft o adroddiad sy'n sôn am ddigwyddiad pwysig iawn.

Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Beth?

Yn dilyn Deddf Cymru a phasiwyd yn 2020, newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei henw ar ddydd Mercher, Mai 6ed, i ‘Senedd Cymru’ a ‘Welsh Parliament’. Mae’r newid enw yn dilyn hawliau pellach i Gymru i greu deddfau a phenderfynu ar drethi ein hunain.

Ble?

Mae Senedd Cymru wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd. Dyma brif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru a phrif ganolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru. Mae gan y sefydliad statws llawn fel senedd genedlaethol nawr, gyda phwerau deddfu a’r gallu i amrywio trethi, fel mae’r enw newydd yn ei adlewyrchu.

Pryd?

Mae Deddf Cymru 2017 yn trosglwyddo pwerau deddfu llawn a’r gallu i amrywio trethi o Lywodraeth San Steffan i Lywodraeth Cymru. Roedd Aelodau’r Cynulliad yn dadlau am fisoedd os dylent gadw neu newid enw Cynulliad Cymru. Yn Nhachwedd 2018, dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC, ei bod wedi penderfynu ar yr enw uniaith Gymraeg, 'Senedd' , ac awgrymodd alw Aelodau Cynulliad yn Aelodau'r Senedd. Gwrthwynebodd rhai aelodau’r penderfyniad, a galw am enw dwyieithog.

Yn ôl Ms Jones - sy'n gyfrifol am waith dyddiol y Senedd - mae'r mwyafrif o'r ACau yn cefnogi newid yr enw i Senedd. “Rwy’n gobeithio y bydd y newid yn chwarae rhan yn y broses o sicrhau bod mwy o bobl yn deall pwerau’r Cynulliad a’r rôl y mae’n ei chwarae yn eu bywydau.”

Sut?

Holodd Comisiwn y Cynulliad y cyhoedd pa enw fyddai orau. Daeth 2,821 o ymatebion yn ôl. Cytunodd 61% o’r cyhoedd gwnaeth ymateb fod angen newid yr enw, ac roedd 73% o blaid yr enw dwyieithog ‘Senedd Cymru/Welsh Parliament’.

Is-benawdau

Yn ogystal â phrif bennawd, yn aml mae yna is-benawdau o fewn y stori hefyd, sef teitlau ar gyfer yr adrannau o fewn y stori. Fel rydym wedi sôn yn barod, mae defnyddio penawdau ac is-benawdau da sy'n denu sylw'n bwysig. Er mwyn sicrhau trefn arbennig i dy adroddiad, ac i wneud yn siŵr fod popeth yn cael e rhoi yn y lle cywir, fe alli di ddefnyddio is-benawdau. Bydd hyn yn helpu’r darllenydd i wybod beth sy'n mynd i gael ei ddweud yn yr adran nesaf.

Dyma’r un adroddiad eto, ond y tro hwn mae'n cynnwys is-benawdau:

Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Enw newydd

Yn dilyn Deddf Cymru a phasiwyd yn 2017, newidiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei henw ar ddydd Mercher, Mai 6ed, i ‘Senedd Cymru’ a ‘Welsh Parliament’. Mae’r newid enw yn dilyn hawliau pellach i Gymru i greu deddfau a phenderfynu ar drethi ein hunain.

Statws llawn

Mae Senedd Cymru wedi ei leoli yng nghanol Bae Caerdydd. Dyma brif adeilad cyhoeddus Senedd Cymru a phrif ganolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru. Mae gan y sefydliad statws llawn fel senedd genedlaethol nawr, gyda phwerau deddfu a’r gallu i amrywio trethi, fel mae’r enw newydd yn ei adlewyrchu.

Pwerau newydd

Mae Deddf Cymru 2017 yn trosglwyddo pwerau deddfu llawn a’r gallu i amrywio trethi o Lywodraeth San Steffan i Lywodraeth Cymru. Roedd Aelodau’r Cynulliad yn dadlau am fisoedd os dylent gadw neu newid enw Cynulliad Cymru. Yn Nhachwedd 2018, dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC, ei bod wedi penderfynu ar yr enw uniaith Gymraeg, 'Senedd' , ac awgrymodd alw Aelodau Cynulliad yn Aelodau'r Senedd. Gwrthwynebodd rhai aelodau’r penderfyniad, a galw am enw dwyieithog.

Deall rôl y Senedd

Yn ôl Ms Jones - sy'n gyfrifol am waith dyddiol y Senedd - mae'r mwyafrif o'r ACau yn cefnogi newid yr enw i Senedd. “Rwy’n gobeithio y bydd y newid yn chwarae rhan yn y broses o sicrhau bod mwy o bobl yn deall pwerau’r Cynulliad a’r rôl y mae’n ei chwarae yn eu bywydau.”

Penderfyniad democrataidd

Holodd Comisiwn y Cynulliad y cyhoedd pa enw fyddai orau. Daeth 2,821 o ymatebion yn ôl. Cytunodd 61% o’r cyhoedd gwnaeth ymateb fod angen newid yr enw, ac roedd 73% o blaid yr enw dwyieithog ‘Senedd Cymru/Welsh Parliament’.

Y wers nesaf...

Rydyn ni am ganolbwyntio ar sut i gynllunio adroddiad yn y wers nesaf yn y casgliad, Creu adroddiad.

Bitesize - Cyfnod Sylfaen
Bitesize - Cyfnod Allweddol 2
Bitesize - Cyfnod Allweddol 3