Creu dyddiadur - Iaith mewn dyddiadur

Ffocws dysgu

Dysga ddangos gafael lled dda ar batrwm a chystrawennau naturiol y Gymraeg gan ddechrau saernïo dy iaith a meithrin cywirdeb wrth ysgrifennu, ee rhedeg berfau.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un clip sain
  • un gweithgaredd addas

Learning focus

Learn to demonstrate a fairly good grasp of natural Welsh syntax and sentence structures and begin to craft your language and write accurately, eg conjugate verbs.

This lesson includes:

  • one sound clip
  • one activity

For an English version of this lesson, scroll below.

Iaith mewn dyddiadur

Defnyddio'r berfenw

Gallwn ysgrifennu mewn ffurf nodiadau byrion mewn dyddiadur.

Er mwyn gwneud hyn, fe allwn ni ddefnyddio berfenwau, sef y ffurf symlaf ar y fferf (ee rhedeg, cerdded, gweld) yn lle defnyddio berfau.

Mae berfau yn golygu person yn gwneud rhywbeth (er enghraifft - rhedwch, dringaf).

Dydy berfenwau ddim yn cyfeirio at berson nag amser arbennig.

Dyma enghraifft o ferfenwau a berfau (person cyntaf unigol yn yr amser gorffennol).

Dyma enghraifft o nodiadau byrion sydd wedi cael eu hysgrifennu gan ddefnyddio berfau:

Enillais wobr yn y ras 100 medr heddiw ym mabolgampau'r ysgol! Teimlais mor falch. Pawb yn hapus drosta'i!

Pe baet eisiau ysgrifennu'n fyrrach eto yna fe allet ti ddefnyddio'r berfenw.

Dyma'r un wybodaeth eto, ond y tro hwn mae wedi cael ei ysgrifennu gan ddefnyddio'r berfenwau:

Ennill gwobr yn y ras 100 medr heddiw ym mabolgampau'r ysgol! Teimlo mor falch. Pawb yn hapus drosta'i!

Amser presennol a'r amser gorffennol

Pan rydyn ni'n ysgrifennu dyddiadur, mae'n bosibl i ni ysgrifennu yn yr amser presennol a'r amser gorffennol, er enghraifft:

Presennol

Rydw i wedi cael fy nghosbi.
Rydw i'n codi am naw.

Gorffennol

Cefais fy nghosbi.
Codais am naw.

Mae defnyddio'r gorffennol a'r presennol yn gywir pan rwyt ti'n ysgrifennu dyddiadur. Cofia dy fod yn cadw at yr un amser o fewn pob paragraff fel ei fod yn gwneud synnwyr!

Iaith y dyddiadur

Pan rydyn ni'n ysgrifennu dyddiadur, profiad personol yw hwn gan amlaf. Hynny yw, dydy'r athro neu'r athrawes ddim yn mynd i ddarllen a chywiro'r gwaith gyda beiro coch achos dydy e ddim yn gywir nag yn anghywir!

Gallet felly ysgrifennu'n naturiol heb orfod poeni'n ormodol am gywirdeb yr ysgrifennu.

Er hyn, mae ambell i beth sydd angen i ni ei gofio!

Iaith naturiol

Mewn dyddiadur, rwyt ti'n gallu ysgrifennu'n union fel rwyt ti'n siarad. Rydyn ni'n galw hyn yn iaith naturiol. Gallet ti gynnwys tafodiaith, sef geiriau sy'n perthyn i ardal arbennig. Dyma enghraifft:

Dydd Mercher, Rhagfyr 18

Ma’ hi fod yn Nadolig ond mae Mam a Dad wedi cwmpo mas fel ci a chath heddi.

Mae Mam yn grac achos bod Nain, mam Dad, yn dod atom ni dros ‘Dolig. Mae Dad yn grac achos mae e’n meddwl bod Mam yn bod yn gas amdan Nain.

Druan â Nain. Falle nagyw hi’n dishgwl ‘mlan i’r Nadolig. Mae’n cwyno am bopeth ers i Taid farw. Fi’n credu bod hi’n rili drist ac unig. Falle dyle hi brynu ci. Na’i awgrymu fe wrthi pan ddeith hi lawr o’r gogledd.

Clip sain

Gwranda ar ddarn byr o raglen Aled Hughes ar Radio Cymru sy’n trafod tafodiaith. Ceisia feddwl am eiriau tafodieithol rwyt ti’n defnyddio gyda’r teulu.

Trawsysgrif

Gwestai: Un o'r geirie dw i wedi etifeddu gan fy mam dw i'n meddwl ydi 'sblachyd'. Dw i ddim yn gwybod ydi sblachyd yn gyfarwydd i chi, Aled?

Aled Hughes: W na - sblachyd - dw i'n licio hwnna.

Gwestai: Mi fydda i'n cwyno'n aml os dw i wedi bod yn smwddio, dw i wedi rhoi y dillad yn dwt yn y cwpwrdd aerio, a fydda i'n mynd yn ôl yna wedyn, a mae 'na rywun wedi bod yn sblachyd y cwbl! Neu mi fydda i'n mynd allan i'r gwynt a fydd fy ngwallt i wedi sblachyd. Dyna'r ddau gyd-destun penodol fydda i'n defnyddio. Ond yr ystyr ydi 'chwalu' - gwneud rhywbeth yn anniben neu'n flêr.

Gweithgaredd

Darllena'r testun isod. Pa eiriau sydd yn dafodieithol yma? Gwna restr ohonyn nhw. Tybed wyt ti’n gallu ffeindio beth yw eu hystyr nhw?

Dydd Mercher, Rhagfyr 18

Ma’ hi fod yn Nadolig ond mae Mam a Dad wedi cwmpo mas fel ci a chath heddi.

Mae Mam yn grac achos bod Nain, mam Dad, yn dod atom ni dros ‘Dolig. Mae Dad yn grac achos mae e’n meddwl bod Mam yn bod yn gas amdan Nain.

Druan â Nain. Falle nagyw hi’n dishgwl ‘mlan i’r Nadolig. Mae’n cwyno am bopeth ers i Taid farw. Fi’n credu bod hi’n rili drist ac unig. Falle dyle hi brynu ci. Na’i awgrymu fe wrthi pan ddeith hi lawr o’r gogledd.

Clicia yma i weld yr atebion i'r gweithgaredd ar eiriau tafodieithol.

Iaith ddiddorol

Mae ysgrifennu gan ddefnyddio iaith ddiddorol hefyd yn bwysig. Mae hyn yn gwneud y darllen llawer iawn mwy diddorol wrth ddarllen ymhen wythnos, mis, blwyddyn neu ddegawd hyd yn oed.

Dyma ran o ddyddiadur Siwan, merch a gafodd y profiad o fyw o dan gyfyngiadau COVID19. Sylwa ar sut mae hi'n ysgrifennu'n ddiddorol.

Daeth yr ambiwlans bythefnos yn ôl a throi’r tai o’n cwmpas yn las fel y môr. Tra bod y parafeddygon yn trin Wncwl Arthur, roedd y stryd yn rhyfeddol o dawel - dim cŵn yn cyfarth, dim plant yn sgrechian, dim sŵn rhaglenni ffermio yn bloeddian o deledu Mr Jones rhif 10. Pipiodd ambell ben petrusgar o’u drysau, fel llygod bach, i weld i bwy oedd yr ambiwlans, ond gallwn ni fod wedi clywed pin yn cwympo.

Rydyn ni wedi clywed heddiw bod Wncwl Arthur wedi dod bant o’r peiriant anadlu ac yn gallu dod adref cyn bo hir.

Sylwa ar y ddwy gymhariaeth:

  • yn las fel y môr
  • fel llygod bach

Language in a diary

Using verb-nouns

We can write in brief note form in a diary.

In order to do this, we can use verb-nouns – the simplest form of verbs (eg run, walk, see) instead of verbs.

Verbs mean that someone is doing something (for example - you are running, I am climbing).

Verb-nouns don’t refer to a specific person or time.

Here’s an example of verb-nouns and verbs (first person singular in the past tense).

Here’s an example of some brief notes written using verbs:

Enillais wobr yn y ras 100 medr heddiw ym mabolgampau'r ysgol! Teimlais mor falch. Pawb yn hapus drosta'i!
(I won a prize in the 100 metres race in the school sports day today! I felt so proud. Everyone was happy for me!)

If you wanted to write even shorter notes, you could use verb-nouns.

Here’s the same information again, but written using verb-nouns this time:

Ennill gwobr yn y ras 100 medr heddiw ym mabolgampau'r ysgol! Teimlo mor falch. Pawb yn hapus drosta'i!
(Won a prize in the 100 metres in the school sports day today! Feel so proud. Everyone happy for me!)

The present and past tenses

When we write in a diary, we can write in the present and past tenses, for example:

Present

Rydw i wedi cael fy nghosbi. (I've been punished.)
Rydw i'n codi am naw. (I get up at nine.)

Past

Cefais fy nghosbi. (I was punished.)
Codais am naw. (I got up at nine.)

Using both past and present tenses is correct when writing a diary. Remember to try and stick to the same tense within each paragraph so that it makes sense!

Language of the diary

Writing a diary is usually a personal experience. This means that a teacher isn’t going to read it and correct the work, so it doesn’t matter if it’s right or wrong!

Therefore, you can write naturally without having to worry too much about how correct your writing is.

Saying that, there are a few things we need to remember!

Natural language

In a diary, you can write exactly as you speak. We call this natural language. You can include regional dialects, which are words belonging to a particular area. Here’s an example:

Dydd Mercher, Rhagfyr 18

Ma’ hi fod yn Nadolig ond mae Mam a Dad wedi cwmpo mas fel ci a chath heddi.

Mae Mam yn grac achos bod Nain, mam Dad, yn dod atom ni dros ‘Dolig. Mae Dad yn grac achos mae e’n meddwl bod Mam yn bod yn gas amdan Nain.

Druan â Nain. Falle nagyw hi’n dishgwl ‘mlan i’r Nadolig. Mae’n cwyno am bopeth ers i Taid farw. Fi’n credu bod hi’n rili drist ac unig. Falle dyle hi brynu ci. Na’i awgrymu fe wrthi pan ddeith hi lawr o’r gogledd.

Here's a translation of the text.

It's meant to be Christmas but Mum and Dad have been at each other’s throats today.

Mum is angry because Grandma, Dad’s mother, is coming to stay with us for Christmas. Dad's angry because he thinks Mum is being nasty about Grandma.

Poor Grandma. She may not be looking forward to Christmas. She complains about everything ever since Grandad died. I think she's really sad and lonely. Maybe she should buy a dog. I’ll suggest it to her when she comes down from the north.

Audio clip

Listen to a short extract from Aled Hughes on Radio Cymru discussing dialect. Try to think of dialect words you use with family.

Transcript

Gwestai: Un o'r geirie dw i wedi etifeddu gan fy mam dw i'n meddwl ydi 'sblachyd'. Dw i ddim yn gwybod ydi sblachyd yn gyfarwydd i chi, Aled?

Aled Hughes: W na - sblachyd - dw i'n licio hwnna.

Gwestai: Mi fydda i'n cwyno'n aml os dw i wedi bod yn smwddio, dw i wedi rhoi y dillad yn dwt yn y cwpwrdd aerio, a fydda i'n mynd yn ôl yna wedyn, a mae 'na rywun wedi bod yn sblachyd y cwbl! Neu mi fydda i'n mynd allan i'r gwynt a fydd fy ngwallt i wedi sblachyd. Dyna'r ddau gyd-destun penodol fydda i'n defnyddio. Ond yr ystyr ydi 'chwalu' - gwneud rhywbeth yn anniben neu'n flêr.

Here's a translation of the transcript:

Guest: One of the words I have inherited from my mother is ‘sblachyd’. I don’t know if you’re familiar with the word ‘sblachyd’, Aled?

Aled Hughes: Ooh no - sblachyd - I like that.

Guest: I often complain if I've been ironing and put the clothes neatly in the airing cupboard, then I go back later and someone has made a ‘sblachyd’ of everything! Or if I go out when it’s windy and my hair has got ‘sblachyd’. Those are the two specific contexts I use it in. But the definition is ‘to spoil’ - making something untidy or messy.

Activity

Read the text below. Which words are dialectal here? Make a list of them. Can you find out what they mean?

Dydd Mercher, Rhagfyr 18

Ma’ hi fod yn Nadolig ond mae Mam a Dad wedi cwmpo mas fel ci a chath heddi.

Mae Mam yn grac achos bod Nain, mam Dad, yn dod atom ni dros ‘Dolig. Mae Dad yn grac achos mae e’n meddwl bod Mam yn bod yn gas amdan Nain.

Druan â Nain. Falle nagyw hi’n dishgwl ‘mlan i’r Nadolig. Mae’n cwyno am bopeth ers i Taid farw. Fi’n credu bod hi’n rili drist ac unig. Falle dyle hi brynu ci. Na’i awgrymu fe wrthi pan ddeith hi lawr o’r gogledd.

Click here for the answers to the activity on dialectal words.

Interesting language

Using interesting language when writing is also important. This makes it much more entertaining when reading it back in a week, a month, a year, or even a decade.

Here’s an extract from Siwan’s diary, a girl who experienced living under the COVID19 restrictions. Notice how she writes in an interesting way.

Daeth yr ambiwlans bythefnos yn ôl a throi’r tai o’n cwmpas yn las fel y môr. Tra bod y parafeddygon yn trin Wncwl Arthur, roedd y stryd yn rhyfeddol o dawel - dim cŵn yn cyfarth, dim plant yn sgrechian, dim sŵn rhaglenni ffermio yn bloeddian o deledu Mr Jones rhif 10. Pipiodd ambell ben petrusgar o’u drysau, fel llygod bach, i weld i bwy oedd yr ambiwlans, ond gallwn ni fod wedi clywed pin yn cwympo.

Rydyn ni wedi clywed heddiw bod Wncwl Arthur wedi dod bant o’r peiriant anadlu ac yn gallu dod adref cyn bo hir.

Below is a translation of the above text.

The ambulance came two weeks ago and turned the houses around us as blue as the sea. While the paramedics were treating Uncle Arthur, the street was strangely quiet - no dogs barking, no children screaming, no farming programmes blaring from Mr Jones’s television at number 10. A few concerned people popped their heads out of their doors, like little mice, to see who the ambulance was for, but we could have heard a pin drop.

We heard today that Uncle Arthur has come off the ventilator and will be able to come home soon.

Notice the two similes:

  • yn las fel y môr (as blue as the sea)
  • fel llygod bach (like little mice)
Hafan BBC Bitesize
Cynnwys y tymor hwn
TGAU