Creu deialog - Gwella’r ddeialog

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio iaith sy’n berthnasol i sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • tri gweithgaredd addas

Learning focus

Learn how to use language that is appropriate for formal and informal situations.

This lesson includes:

  • three suitable activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Mae deialog yn gwneud storïau yn llawer mwy cyffrous ac yn gadael i ni ddod i adnabod y cymeriadau, sef y bobl sy’n ymddangos mewn stori neu ddrama, yn well. Pan rwyt ti’n mynd ati i ysgrifennu stori fe ddylet ti geisio cynnwys deialog er mwyn gwneud y stori yn fwy hwyliog i'w darllen.

Beth yw pwrpas deialog mewn stori?

  • Mae’n symud y stori yn ei blaen.
  • Mae’n dweud rhywbeth wrthym am y cymeriadau.
  • Mae’n dweud rhywbeth wrthym am berthynas y cymeriadau a’i gilydd.

Beth am i ni edrych yn fanylach ar hyn? Darllena’r darn nesaf o stori.

“Oes rhaid i ni adael i’r crinc yna ddod hefo ni?” Doedd Arwyn ddim wedi cymryd at Iolo o gwbwl.
“O’s. Ma fe’n frawd i fi!” atebodd Gwenno. “Fi ffaelu mynd hebddo fe. A paid galw fe’n ’na!”
“Yn be?”
“Crinc... beth yffach ma’na fod i feddwl beth bynnag?” Roedd Iolo wedi clywed y cyfan.
“Peidwch dechre nawr. Ni’n tri yn mynd i’r parti ’ma i gael laff! Dewch, sa’i moyn bod yn hwyr.”
Roedd Gwenno’n edrych ymlaen a doedd hi ddim am adael i’r ddau yma ddifetha’r noson.

Darllena’r darn yma eto.

Mae'r lliwiau yn y ddeialog yn cyfateb i'r pwyntiau pwysig nesaf. Edrycha ar y darnau o'r ddeialog sy'n cyfateb o ran lliw.

Mae deialog yn bwysig iawn felly. Cofia - pan rwyt ti’n creu deialog, mae'n bwysig bod y ddeialog yn:

  • cyfleu sut mae cymeriadau'n teimlo
  • cyfleu sut mae'r cymeriadau yn teimlo tuag at gymeriad arall
  • naturiol iawn ac yn gweddu i'r cymeriad sy'n siarad

Gweithgaredd 1

Edrycha ar yr olygfa yma o'r opera sebon 'Pobol y Cwm'. Mae un cymeriad o'r de a'r llall o'r gogledd.

P'un yw p'un? Wyt ti'n medru deall y cymeriadau yn y clip?

Clip o 'Pobol y Cwm'

Gweithgaredd 2

Beth am ysgrifennu deialog rhwng bachgen o'r ddinas a merch o'r wlad sy'n cyfarfod am y tro cyntaf? Maen nhw'n trafod y cyfleusterau (ee canolfannau hamdden, siopau, mynyddoedd i'w dringo ac ati).

Efallai y bydd un o dy gymeriadau yn dod o'r de a'r llall yn dod o'r gogledd!

Tafodiaith

Tafodiaith yw'r enw ar y geiriau sy'n perthyn i ardaloedd gwahanol. Mae hyn yn cyfoethogi'r iaith Gymraeg! Fe alli di ddefnyddio tafodiaith mewn deialog. Mae hyn yn dangos bod y cymeriadau'n siarad yn naturiol.

Dyma rai enghreifftiau o eiriau tafodieithol: houl, iste, sbia, dishgled.

Mae iaith hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar y sefyllfa. Mae'n siŵr dy fod ti’n siarad yn wahanol iawn gyda dy ffrindiau i gymharu â'r sgyrsiau rwyt ti’n cael gyda dy athro/athrawes!

Pan mae'r cymeriadau'n siarad yn ein storïau, mae'n bwysig bod y ddeialog yn cael ei hysgrifennu mewn ffordd ffurfiol neu anffurfiol, ond mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar y sefyllfa! Dyma enghreifftiau:

Iaith ffurfiol

Mae iaith ffurfiol yn addas pan rydyn ni mewn sefyllfa ffurfiol, sef sefyllfa bwysig, ee mewn cyfarfod. Er enghraifft:

Penderfynwyd anfon y bachgen adref oherwydd salwch.

Iaith anffurfiol

Mae iaith anffurfiol yn cael ei defnyddio mewn sefyllfa llai ffurfiol, ee wrth siarad â ffrind. Er enghraifft:

Mi ddudodd y prif wrth y bachgen am 'i gwadnu hi adre os oedd o'n teimlo'n giami.

Bratiaith

Bratiaith yw’r enw ar iaith sy'n cynnwys geiriau Saesneg ac iaith anghywir. Er enghraifft:

Desidodd yr Head i ala'r crwt gartre cos o'dd e'n sick.

Gweithgaredd 3

Gwranda ar y ddeialog yma ar wefan BBC Radio Cymru. Mae’r cyflwynydd Aled Hughes yn siarad â Dilwyn Morgan sydd wedi cyhoeddi fideos ar y we am ganu’r piano.

  • Ydy'r iaith yn ffurfiol neu'n anffurfiol?
  • Ydyn nhw'n defnyddio geiriau neu ymadroddion sy'n wahanol i dy rai di?
  • Ydyn nhw’n dod o’r gogledd neu’r de?

Berfau

Mae defnyddio berfau diddorol yn bwysig. Berf yw gair sy’n golygu bod person yn gwneud rhywbeth, ee rhedeg, dringo. Mae defnyddio 'meddai' fel berf yn gallu bod yn ddiflas os wyt ti'n defnyddio'r gair dro ar ôl tro.

Darllena’r brawddegau nesaf, sy'n defnyddio berfau gwahanol:

  • "Jiw, jiw fechgyn. A'th y bêl 'na'n uchel tu hwnt!" bloeddiodd Miss Jenkins.
  • "Nefi bliw! Mae Mari wedi newid lliw ei gwallt! Mae o rwan yn biws!" chwarddodd Dafydd.
  • "O NA! Dim prawf mathemateg arall!" gwaeddodd y plant.

Cofia ddefnyddio amrywiaeth o ferfau mewn deialog. Er enghraifft:

  • bloeddiodd
  • chwarddodd
  • ebychodd
  • atebodd
  • gwaeddodd

Adferfau

Gallet ddisgrifio'r ferf gan ddefnyddio adferf ddiddorol. Adferf yw gair sy’n disgrifio berf (ee ‘rhedeg yn gyflym’). Mae hyn yn disgrifio'r ffordd mae'r person neu'r cymeriad (gair am berson sy’n ymddangos mewn stori neu ddrama) yn dweud yr hyn sydd ganddo i'w ddweud. Er enghraifft:

  • bloeddiodd yn groch
  • chwarddodd yn uchel
  • ebychodd yn anghwrtais

Sut a beth?

Gallet ychwanegu at yr adferf drwy ddisgrifio beth mae'r cymeriad yn ei wneud tra'i fod yn siarad. Gofynna sut? a beth? er mwyn disgrifio beth mae'r person neu'r cymeriad yn ei wneud tra'i fod yn siarad a sut mae'n gwneud hynny. Er enghraifft:

  • Bloeddiodd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr.

  • Chwarddodd yn uchel gan wenu o glust i glust.

  • Ebychodd yn anghwrtais gan rythu yn gas.

Atalnodi

Mae defnyddio'r gofynnod (marc ‘?’ sy’n cael ei ddefnyddio i ddangos fod cwestiwn wedi ei ofyn) yn bwysig pan mae cymeriad yn gofyn cwestiwn. Er enghraifft:

"Ble mae fy esgidiau pêl-droed, Mam?" gofynnodd Teifi.

Mae defnyddio'r ebychnod (atalnod ‘!’ sy’n cael ei ddefnyddio ar ddiwedd ebychiad) yn bwysig hefyd er mwyn dangos syndod neu er mwyn pwysleisio ffaith arbennig, er enghraifft:

"Paid â gwneud hynny byth eto! Mae'n beryglus tu hwnt!" bloeddiodd Dad.

Gwna’n siŵr fod y bobl neu'r cymeriadau sy'n siarad yn ymateb i'w gilydd. Er enghraifft:

  • "Dw i eisiau'r losin 'na nawr," bloeddiodd Dafydd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr.
  • "Dwyt ti ddim yn ei gael e' a dyna ddiwedd arni," sibrydodd ei fam yn dawel.
  • "O, dw i wedi cael llond fy mol," dywedodd Dafydd yn anghwrtais gan rythu ar ei fam fel tarw.

Gallet ddefnyddio dy ddeialog i ddangos y berthynas rhwng dy gymeriadau. Er enghraifft:

  • "Dw i ddim yn credu bod hyn yn ddigon da!" awgrymodd Rhian yn swrth.
  • "Pam? Dw i wedi gwneud pob dim dw i'n ei allu. Wir!" holodd Steffan yn ymbilgar.
  • "Na! Dyna fy mhenderfyniad ola'!" mynnodd Rhian yn grac.
  • "Dw i ddim yn mynd i wneud dim byd i ti byth eto! Rwyt ti wedi fy ngadael i lawr unwaith yn ormod y tro hwn!" gwaeddodd Steffan yn groch gan gau'r drws yn glep ar ei ôl.

Dialogue makes stories much more exciting and allows us to get to know the characters – the people who appear in a story or drama – better. When writing a story, you should try to include some dialogue to make the story more entertaining to read.

What is the purpose of dialogue in a story?

  • It drives the story forward.
  • It says something about the characters.
  • It tells us something about the characters’ relationships with each other.

Let’s look at this in more detail. Read the following extract from a story.

“Oes rhaid i ni adael i’r crinc yna ddod hefo ni?” Doedd Arwyn ddim wedi cymryd at Iolo o gwbwl.
“O’s. Ma fe’n frawd i fi!” atebodd Gwenno. “Fi ffaelu mynd hebddo fe. A paid galw fe’n ’na!”
“Yn be?”
“Crinc... beth yffach ma’na fod i feddwl beth bynnag?” Roedd Iolo wedi clywed y cyfan.
“Peidwch dechre nawr. Ni’n tri yn mynd i’r parti ’ma i gael laff! Dewch, sa’i moyn bod yn hwyr.”
Roedd Gwenno’n edrych ymlaen a doedd hi ddim am adael i’r ddau yma ddifetha’r noson.

Read this extract again.

The colours in the dialogue correspond to the next important points. Look at the parts of the dialogue which correspond in terms of colour.

So, dialogue is very important. Remember - when creating dialogue, it’s important that it:

  • conveys how the characters are feeling
  • conveys how the characters feel towards other characters
  • is very natural and suits the nature of the character who's speaking

Activity 1

Look at this scene from the soap opera 'Pobol y Cwm'. One character is from south Wales and the other from north Wales.

Which is which? Can you understand both characters in the clip?

Clip from 'Pobol y Cwm'

Activity 2

Why not write a dialogue between a boy from the city and a girl from the country, who meet for the first time? They discuss the facilities (eg leisure centres, shops, mountains to climb etc).

Maybe one of your characters will come from the south and the other from the north!

Dialect

Dialect is the term for words that belong to different areas. This enriches the Welsh language! You can use dialect in dialogues. This shows that the characters speak naturally.

Here are some examples of words from certain dialects: houl (sun), iste (sit), sbia (look), dishgled (cuppa).

The language also varies depending on the situation. How you speak with your friends is probably very different to how you speak with your teacher.

When characters speak in our stories, it's important that the dialogue is written in a formal or informal way, but this depends on the situation of course. Here are some examples:

Formal language

Formal language is appropriate when we are in a formal or important situation, eg in a meeting. For example:

Penderfynwyd anfon y bachgen adref oherwydd salwch.

(A decision was made to send the boy home because he was ill.)

Informal language

Informal language is used in a less formal situation, eg when speaking to a friend. For example:

Mi ddudodd y prif wrth y bachgen am 'i gwadnu hi adre os oedd o'n teimlo'n giami.

(The Head told the boy to head on home if he felt poorly.)

Slang

Slang is the term for using casual or incorrect language when speaking and, in Wales, when you use English words when speaking Welsh. For example:

Desidodd yr Head i ala'r crwt gartre cos o'dd e'n sick.

(The Head decided to send the lad home ’cos he was sick.)

Activity 3

Listen to this dialogue on BBC Radio Cymru's website. Presenter Aled Hughes chats to Dilwyn Morgan who's published videos online about playing the piano.

  • Is the language formal or informal?
  • Do they use different words or expressions from the ones you would use?
  • Do they come from north or south Wales?

Verbs

Using interesting verbs is important. A verb is a word that means a person is doing something, eg rhedeg (running), dringo (climbing).Using 'meddai' (‘said’) as a verb can be boring if you use it time after time.

Read the following sentences, which use different verbs:

  • "Jiw, jiw fechgyn. A'th y bêl 'na'n uchel tu hwnt!" bloeddiodd Miss Jenkins.

(“Well, well, boys. That ball went very high!” Miss Jenkins bellowed.)

  • "Nefi bliw! Mae Mari wedi newid lliw ei gwallt! Mae o rwan yn biws!" chwarddodd Dafydd.

(“Goodness me! Mari has changed the colour of her hair! It’s purple now!" Dafydd laughed.)

  • "O NA! Dim prawf mathemateg arall!" gwaeddodd y plant.

(“OH NO! Not another maths test!" the children shouted.)

Remember to use a variety of verbs in a dialogue. For example:

  • bloeddiodd (bellowed)
  • chwarddodd (laughed)
  • ebychodd (exclaimed)
  • atebodd (replied)
  • gwaeddodd (shouted)

Adverbs

You could describe the verb by using an interesting adverb. An adverb is a word that describes a verb (eg ‘running quickly’). This describes how a person or character (a word for a person who appears in a story or drama) says what they have to say. For example:

  • bloeddiodd yn groch (bellowed fiercely)
  • chwarddodd yn uchel (laughed loudly)
  • ebychodd yn anghwrtais (exclaimed rudely)

How and what?

You could add to the adverb by describing what the character is doing whilst speaking. Ask sut? ( how?) and beth? ( what?) in order to describe what the person or character does whilst speaking, and how they do that. For example:

  • Bloeddiodd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr. (He bellowed fiercely whilst jumping up and down.)
  • Chwarddodd yn uchel gan wenu o glust i glust. (She laughed loudly with a wide grin.)
  • Ebychodd yn anghwrtais gan rythu yn gas. (He exclaimed rudely while glaring angrily.)

Punctuation

Using a question mark (the ‘?’ symbol used to show a question is being asked) is important when a character asks a question. For example:

"Ble mae fy esgidiau pêl-droed, Mam?" gofynnodd Teifi.
("Where are my football boots, Mum?" Teifi asked.)

Using an exclamation mark (the ‘!’ symbol used after an exclamation) is also important to convey shock or to emphasise a certain fact, for example:

"Paid â gwneud hynny byth eto! Mae'n beryglus tu hwnt!" bloeddiodd Dad.
(“Don’t ever do that again! It’s extremely dangerous!” Dad bellowed.)

Make sure the people or characters speaking respond to each other. For example:

  • "Dw i eisiau'r losin 'na nawr," bloeddiodd Dafydd yn groch gan neidio i fyny ac i lawr. ("I want those sweets now," Dafydd bellowed fiercely whilst jumping up and down.)
  • "Dwyt ti ddim yn ei gael e' a dyna ddiwedd arni," sibrydodd ei fam yn dawel. ("You’re not getting any and that's that," his mother whispered quietly.)
  • "O, dw i wedi cael llond fy mol," dywedodd Dafydd yn anghwrtais gan rythu ar ei fam fel tarw. ("Oh, I’m fed up," Dafydd said rudely, glaring at his mother like a bull.)

You could use your dialogue to show the relationship between your characters. For example:

  • "Dw i ddim yn credu bod hyn yn ddigon da!" awgrymodd Rhian yn swrth. (“I don’t think this is good enough!” Rhian suggested sourly.)
  • "Pam? Dw i wedi gwneud pob dim dw i'n ei allu. Wir!" holodd Steffan yn ymbilgar. (“Why? I’ve done all I can. Really, I have!” Steffan pleaded hopelessly.)
  • "Na! Dyna fy mhenderfyniad ola'!" mynnodd Rhian yn grac. (“No! That's my final decision!” Rhian insisted angrily.)
  • "Dw i ddim yn mynd i wneud dim byd i ti byth eto! Rwyt ti wedi fy ngadael i lawr unwaith yn ormod y tro hwn!" gwaeddodd Steffan yn groch gan gau'r drws yn glep ar ei ôl. (“I’m not going to do anything for you ever again! You’ve let me down one too many times now!” Steffan shouted loudly, slamming the door behind him.)
Hafan BBC Bitesize
Cynnwys y tymor hwn
TGAU