BBC HomeExplore the BBC

3 December 2009
Accessibility help
Text only
South WestPoetry

BBC Homepage
Wales Home

Wales SW Mid SE NE NW
»

Local BBC Sites

Neighbouring Sites

 

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 

Cyngor i feirdd

Anfonwch eich cerddi atom Mae'r bardd gwobrwyol o Gymru, Grahame Davies, yn rhoi cyngor ar sut i wella'ch arddull a gweld eich gwaith mewn print...


Mae awydd arnoch chi fod yn fardd, felly?
'Does 'na ddim ffordd gyflym o wneud hyn. Ac ni fyddwch yn dod yn gyfoethog drwy fod yn fardd. O leia, nid yn nhermau ariannol. Ond mae 'na foddhad i'w gael drwy allu dweud beth rydych chi yn dymuno ei ddweud yn y ffordd fwyaf effeithiol - peth amhrisiadwy yw hwnna.Dyma 10 awgrym sut i gychwyn ar fod yn fardd.

  • 1.Darllenwch
  • 2. Meddyliwch beth hoffech ei ddweud
  • 3. Ymarferwch
  • 4. Paratowch
  • 5. Peidiwch â dweud - dangoswch
  • 6. Trosiadau a chymariaethau
  • 7. Dewiswch eich ffurf
  • 8. Cyhoeddi eich gwaith
  • 9. Peidiwch â thalu i weld eich gwaith mewn print
  • 10. Mwy o wybodaeth

    1) Darllenwch
    Yn gyntaf oll, darllennwch. Darllennwch waith beirdd yr ydych yn eu hedmygu. Mae llawer i'w ddysgu gan feistri eu crefft. Ceisiwch feddwl, beth rydych chi'n ei hoffi amdanyn nhw? Pa dechnegau maen nhw'n eu defnyddio?

    Mae rhai pobl yn ofni darllen gwaith beirdd eraill rhag ofn bod arddull y bardd enwog yn effeithio ar eu harddull nhw - maen nhw'n poeni na fyddan nhw'n gallu mynegi eu hunain. Peidiwch â phoeni am hyn - os ydych chi'n ddigon o fardd i swnio fel bardd enwog mi fyddwch chi'n ddigon da maes o law i ddod o hyd i'ch llais eich hun.

    Felly, ceisiwch gopïo eich hoff feirdd. Astudiwch eu harddull a'u tricau. Os ydych chi'n lwcus, ar ôl llawer iawn o waith, fe fydd eich cerddi yn dechrau swnio fel eu cerddi nhw. Os ydych chi'n lwcus IAWN, ac ar ôl lot FAWR IAWN o waith, mi fyddwch chi'n dechrau swnio fel chi eich hun.

  • Yn ôl i'r dechrau

    2) Meddyliwch beth hoffech ei ddweud.
    'Dyw emosiwn ddim yn ddigon i greu barddoniaeth dda. Rydych chi angen disgyblaeth a gwaith caled hefyd os ydych am fynegi'r emosiwn hwnnw yn effeithiol. Ond os nad oes gennych chi rywbeth rydych chi wir eisiau ei ddweud - p'un ai i fynegi dicter, ofn, cariad neu beth bynnag - yna peidiwch â thrafferthu ceisio sgwennu, achos fydd y sbarc ddim yno.

  • Yn ôl i'r dechrau

    3) Ymarferwch
    Os am fod yn fardd cyhoeddiedig mae'n rhaid ichi fod yn barod am lawer iawn o waith paratoi. Mae fel chwarae pêl-droed neu wneud athletau, neu fel chwarae offeryn cerddorol - hyd yn oed os oes dawn naturiol gennych chi, mae'n dal rhaid ichi ymarfer. Mae'n rhaid ichi fod yn barod i wneud yr ymdrech - yn ysgrifennu, yn newid, yn taflu'r gwaith i ffwrdd, yn ysgrifennu eto.

  • Yn ôl i'r dechrau

    4) Byddwch yn barod i ddysgu.
    Rhannwch eich gwaith gyda rhywun arall - athro neu athrawes yr ydych yn ymddired ynddyn nhw, neu lenor profiadol. Gwrandewch ar eu beirniadaeth - a fydd yn adeiladol, gobeithio - ac yna gweithredwch arni. Mae dosbarthiadau ysgrifennu creadigol yn ffordd wych o ddatblygu eich talent. Maen nhw ar gael yn y rhan fwyaf o drefi a cholegau. Neu mi allwch chi ofyn i'r Academi Gymreig, y sefydliad sy'n helpu llenorion yng Nghymru: www.academi.org

  • Yn ôl i'r dechrau

    5) Peidiwch â dweud - dangoswch.
    Peidiwch ag esbonio popeth gan ddefnyddio ansoddeiriau. Mae'n anodd iawn i ddod o hyd i ansoddeiriau sydd heb eu defnyddio o'r blaen. Yn lle ansoddeiriau, rhowch gynnig ar feddwl mewn delweddau - trosiadau, cymariaethau.

    Er enghraifft, pan roedd Gruffudd ab yr Ynad Goch yn eisiau mynegi ei ofid wrth glywed am farwolaeth tywysgog Cymru, Llywelyn ap Gruffudd, yn 1282, ni ddibynodd ar ansoddeiriau i fynegi'r peth. Ni ddywedodd "Rwy'n drist, yn ofnus, yn ofidus, yn chwerw, yn anobeithiol, yn ddig". Mae'r ansoddeiriau hynny i gyd yn ddilys, maen nhw i gyd yn berthnasol, ond maen nhw i gyd yn swnio'n rhy gyfarwydd. 'Does dim newydd-deb yn perthyn iddyn nhw.

    Beth wnaeth Gruffudd oedd dweud fod byd natur mewn anrhefn: "Oni welwch goed derw'n ymdaro?....Oni welwch chi'r sêr wedi syrthio?" Does dim ansoddair yn agos at y peth, ond mae'r gyfres o ddelweddau yn dangos natur yn cwympo'n ddarnau yn cyfleu anobaith y bardd, ei siom a'i ofn. A hynny mewn ffordd lawer mwy cofiadwy nag y byddai rhyw res o ansoddeiriau.

  • Yn ôl i'r dechrau

    6) Trosiadau a chymariaethau.
    Ceisiwch feddwl am drosiadau a chymariaethau sy'n cyfleu ystyr yr hyn yr ydych yn ceisio ei ddweud. Wedyn, gweithiwch yn galed i gysylltu'r delweddau ac i'w datblygu fel bod un yn arwain ymlaen at yr un nesaf. Gallech gael cerdd lle mae'r delweddau i gyd yn sôn am fwyd, neu am y môr, neu am bêl-droed, neu beth bynnag.

  • Yn ôl i'r dechrau

    7) Dewiswch eich ffurf.
    Mae odl yn gallu bod yn ffordd wych o gynorthwyo eich mynegiant, ond os ydych chi'n dewis y geiriau yn unig am eu bod yn odli, yna bydd yr odl yn rheoli'r gerdd, nid y ffordd arall. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei ddweud, yna ewch i chwilio am yr odlau.

    Neu beth am ysgrifennu heb odl? Mae'n haws mewn un ffordd - a bydd yr odl ddim yn rheoli'r gerdd - ond mae'n rhaid ichi weithio'n galetach i wneud i'r gerdd swnio'n drawiadol. 'Dyw hwn ddim yn ddewis hawdd. Mae cyfyngiadau hyd yn oed i ryddid.

  • Yn ôl i'r dechrau

    8) Cyhoeddi eich gwaith.
    O ran cyhoeddi eich gwaith, 'dyw hon ddim yn dasg hawdd chwaith. Hwyrach y byddwch chi'n synnu faint o ddarpar-feirdd sydd i'w cael yn y byd! Nid yw cyhoeddwyr yn brin o waith sy'n cael ei anfon atyn nhw gan bobl a fyddai'n hoffi bod yn feirdd.

    Y syniad gorau yw i dargedu cylchgronau sy'n ymddangos fel petaen nhw'n cyhoeddi deunydd o'r math yr ydych chi yn ei ysgrifennu. Ond byddwch yn barod i gael eich gwrthod lawer tro! Byddai'n syniad da i gael cyngor llenor profiadol neu arweinydd eich grwp ysgrifennu creadigol wrth geisio cyhoeddi.

  • Yn ôl i'r dechrau

    9) O, a pheidiwch â thalu i weld eich gwaith mewn print.
    Mae 'na rai pobl sy'n gwneud arian allan o ecsbloetio ysfa pobl i ymddangos rhwng dau glawr.

    Os gwelwch hysbyseb am feirdd, gofynnwch i chi'ch hun: ydy Manchester United yn hysbysebu am chwaraewyr newydd? Ydy Hollywood yn hysbysebu am sêr newydd? Nac ydynt. 'Dyw cyhoeddwyr go-iawn ddim yn gwneud hynny chwaith. 'Does dim prinder darpar-feirdd arnyn nhw, ac maen nhw'n cael cyflenwad cyson o dalent gan golegau a chyrsiau ysgrifennu creadigol.

    Yn aml iawn, mae hysbysebiadau ar gyfer beirdd yn cuddio rhyw gais am arian. Bydd rhai hysbysebwyr yn anfon nodyn at bob un cyfrannwr - waeth pa mor anobeithiol yw eu gwaith - yn dweud wrthyn nhw fod eu gwaith yn wych ac y bydd yn ymddangos mewn cyfrol gain a hardd.

    Wel, dyna'r cyfrannwr wrth ei fodd, wrth gwrs, ac yn talu yn llawen am gopi o'r llyfr. Y tric yw bod pris y llyfr yn llawer drutach na'r gost o'i gynhyrchu. A dyna'r "cyhoeddwr" yn chwerthin yr holl ffordd i'r banc. Mae cyhoeddwyr go-iawn yn talu eu beirdd ac yn rhoi copïau o'r llyfrau iddyn nhw am ddim. Felly gan bwyll - mae 'na ddigon o siarcod yn y môr!

  • Yn ôl i'r dechrau

    10) Mwy o wybodaeth
    Yn olaf, os ydych chi wedi darllen mor bell â hyn, maen rhaid eich bod o ddifri' ynglyn â bod yn fardd. Felly dyma'r cyngor olaf un, yr un yr ydym wedi ei gadw yn unig ar gyfer y rhai sydd wir yn ymroddedig iawn. Cliciwch ar y linc yma: http://dspace.dial.pipex.com/peter.finch/advice.htm Dyma safle sy'n cael ei redeg gan Peter Finch, bardd o fri a phrif weithredwr yr Academi Gymreig. Mae ganddo bopeth yr ydych chi ei angen ei wybod ynglyn â chyhoeddi eich gwaith.

    Pob lwc!

  • Yn ôl i'r dechrau

  • have your say

    Anfonwch eich barddoniaeth at y wefan - cliciwch yma.


    Send a dedication to the one you love!

    related www links

    The BBC is not responsible for the content of external websites

    more from South West Wales

    Music

    Haverfordwest Male Voice Choir
    Choirs in action

    Find harmony with information and images of local choirs.

    Nature

    Image shows a sea lavender flower
    Flowering of Burry Port

    Explore a rich diversity of wild flowers which migrated here.

    Outdoors

    Great Gower

    Get out and about on Gower before the winter arrives.


    Lleol
    Ysgol Gyfun Gwyr

    Ysgol Gyfun Gwyr yn 25 oed!

    Nodi achlysur Ysgol Gyfun Gwyr yn Abertawe yn 25 oed.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy