Gwrthdaro milain,
Ymladd ffyrnig.
Brawd a chwaer.
Crio,
Rhegi,
Casineb, casau.
Pob munud,
Pob eiliad,
Fel ci a chath
Paffio,
Cicio, creulondeb, casau.
Anifeiliaid gwyllt.
Yn rhuo, brathu, ymosod.
Lladd.
Dim heddwch,
Dim llonyddwch, dim ond
Poen.
Pethau pitw yn achosi poen.
Pam?
Dim rheswm.
Gwrthdaro di-angen,
Pan mae pobl
Yn marw,
Yn dioddef,
Yn byw mewn poen.