BBC HomeExplore the BBC
Just to let you know, we're no longer updating this site. More information here

4 July 2009
Accessibility help
Text only
BBC Wales coalhouse

BBC Homepage
Wales home
Wales history

Contact Us

Like this page?
Send it to a friend!

 

Ynglŷn â Coal House

Bydd cyfres newydd o Coal House yn dechrau ym mis Hydref 2008. Y tro hwn bydd y rhaglen wedi ei seilio yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn yr 1940au.

Os ydych chi wedi ymgeisio i fod yn rhan o'r ail gyfres, efallai y bydd y tîm cynhyrchu mewn cysylltiad dros yr wythnosau nesaf.

Y gyfres gyntaf

Ym mis Hydref 2007, anfonwyd tri theulu yn ôl i byllau glo de Cymru yn y 1920au ar gyfer Coal House, cyfres hanes byw ar BBC1 Wales.

Am bedair wythnos roedd yn rhaid i'r teuluoedd ymdopi â bywyd fel yr oedd yn y cymunedau glofaol 80 mlynedd yn ôl - blwyddyn ar ôl streic gyffredinol 1926 a chyn i'r pyllau glo gael eu gwladoli.

Rhowch eich atgofion ar y map

Fel rhan o'r cywaith cyffrous hwn, rydym yn gofyn am eich help i gasglu hanes y rhai fu'n byw ac yn gweithio mewn cymunedau glo ar draws Cymru yn ystod y gan mlynedd ddiwethaf.

Oes gennych chi straeon o fywyd yn ardaloedd y pyllau glo yng Nghymru? Efallai fod gennych brofiadau personol o'r cyfnod, straeon teuluol neu lluniau o bobl, llefydd neu ddigwyddiadau sy'n adlewyrchu bywyd yn y gymuned.

Cysylltwch â ni trwy lenwi un o'r ffurflenni ar y dde neu ffoniwch 08703 500 700 a rhowch eich atgofion ar y map.

Hyd at 8c y funud yw cost galwadau o linell BT (gall amrywio gyda chwmnïau eraill a ffonau symudol) a gellir eu recordio at ddibenion hyfforddi

Bydd eich cyfraniadau'n ymddangos ar fap ymhlith cyfraniadau Saesneg a deunydd o archif y BBC. Cliciwch yma i weld y map.

Mae deunydd allai ysgogi'ch atgofion ar gael ar wefannau Cymru'r Byd a Lleol i Mi - dyma rai dolenni defnyddiol:

Straeon
Sain a fideo


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy