Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn defnyddio'r BBC a minnau y tu allan i'r DU?

Diweddarwyd y dudalen: 20 Ionawr 2017

Efallai y bydd yn edrych ychydig yn wahanol i’r arfer.

Mae fersiynau rhyngwladol o’r canlynol ar gael:

- Tudalen hafan y BBC
- Newyddion y BBC
- Chwaraeon y BBC
- Y tudalennau ar gyfer rhaglenni teledu a radio y BBC

Darllenwch pam mae gennyn ni fersiynau rhyngwladol yma. (Dolen Saesneg)

Hefyd, os nad ydych chi yn y DU, fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio BBC iPlayer, CBBC na CBeebies. Mae’n ddrwg iawn gennym ond dyna’r rheolau.

accessing_the_bbc_outside_the_uk_v1.png

Pam mae hysbysebion i'w gweld ar y BBC?

Efallai y byddwch yn gweld hysbysebion ar rai rhannau o’r BBC os ydych chi y tu allan i’r DU.

Mae rhagor o wybodaeth am hysbysebu rhyngwladol ar gael yma. (Dolen Saesneg)

Newid iaith: EnglishGàidhlig