Sut mae apiau a dyfeisiau yn cymryd fy nata?

Diweddarwyd y dudalen: 25 Ionawr 2017

Mae unrhyw apiau BBC y byddwch yn eu lawrlwytho i’ch dyfais symudol neu deledu yn gallu cael mynediad at rai mathau o ddata ar eich dyfais.

Mae rhywfaint o ddata’n cael ei gasglu’n awtomatig fel:

  • Y math o ddyfais symudol rydych yn ei ddefnyddio
  • “Dynodwr unigryw” (fel ID y ddyfais neu gyfeiriad IP)
  • Gwybodaeth am sut mae ein apiau yn cael eu defnyddio.

Mae hyn yn fodd i'r ap eich cofio chi a rhoi i chi ba bynnag gynnwys rydych wedi gofyn amdano. Er enghraifft, mae ap Tywydd y BBC yn defnyddio lleoliad eich dyfais i roi'r tywydd lleol i chi.

How do apps capture my data?

Er mwyn bod yn ddiogel

Cofiwch ddarllen adran caniatâd unrhyw ap cyn ei lawrlwytho. Dyma’r ffordd orau o ddeall yn union ba ddata y bydd yn ei gymryd.

Gall apiau storio gwybodaeth ar eich dyfais hefyd...

Er enghraifft, os byddwch yn lawrlwytho rhaglen yn ap symudol iPlayer, bydd yn cael ei storio ar eich dyfais.

Newid iaith: EnglishGàidhlig