-
Tlysau o Gaerllion
Dyma gasgliad arbennig o 88 o dlysau Rhufeinig a gafodd eu darganfod gan archaeolegwyr ar safle Baddondai Rhufeinig Caerllion yn ne Cymru.
Mae’r tlysau wedi cael eu hengrafio â lluniau bach manwl o dduwiau a gwahanol symbolau oedd yn bwysig i’r Rhufeiniaid. Yn wreiddiol, byddai tlysau fel hyn wedi cael eu gosod ar fodrwyau a'u defnyddio fel seliau, swyndlysau neu dalismonau.
Mae'r tlysau'n cynnwys gemau fel iasbis coch, cornelianau ac amaethystau.
-
Masnachu'r Rhufeiniaid
Credir bod llawer iawn o'r tlysau yn y casgliad hwn wedi dod o wledydd fel Cyprus, Yr Aifft, India a Sri Lanca. Bydden nhw wedi cael eu torri a'u hengrafio gan grefftwyr mewn canolfannau torri tlysau ar hyd y prif lwybrau masnach.
Roedd masnachu yn bwysig iawn i'r Rhufeiniaid, ac roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn llawn llwybrau masnach di-ben-draw. Un o'r prif resymau yr adeiladodd y Rhufeiniaid cymaint o ffyrdd oedd er mwyn medru masnachu'n rhwydd gyda gwledydd eraill. Bydden nhw hefyd yn defnyddio llongau cargo enfawr er mwyn symud nwyddau o un rhan o'r Ymerodraeth i'r llall.
Roedd y Rhufeiniaid yn prynu pob mathau o nwyddau - gwlân, sebon, mêl, crochenwaith, sidan, sbeisys, tlysau gwerthfawr, haearn, plwm, lledr, halen, cotwm, caethweision, ac anifeiliaid gwyllt fel llewod, hyd yn oed - o wledydd fel Sbaen, Ffrainc, Yr Almaen, Prydain, Groeg, Twrci, Y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Pell.
Roedden nhw hefyd yn gwerthu nwyddau fel gwin, olew olewydd a chrochenwaith i wledydd eraill.
Roedd perlau o Geufor Persia yn boblogaidd yng nghyfnod y Rhufeiniaid, yn ogystal ag emrald ac eurfaen o'r Aifft, camelia, iaspis, glasfaen ac onics o Bersia, ambr o Gdansk, a saffir glas a thopas o India neu Sri Lanca.
-
Caer Rufeinig Caerleon
Cafodd y tlysau hyn eu darganfod gan archaeolegwyr ar waelod draen mawr o dan neuadd oer y baddondai yng Nghaerllion.
Credir bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn berchen i'r llengfilwyr a anfonwyd yno rhwng y 1af ganrif a'r 3edd ganrif OC, ond mae'n bosibl iddyn nhw gael eu colli hefyd gan rai o'r dinasyddion a'r merched a fyddai wedi defnyddio'r baddondai.
Yr enw Rhufeinig ar Gaerllion oedd 'Isca'. Cafodd y gaer ei hadeiladu gan y Rhufeiniaid yn y flwyddyn 75 OC, ac roedd hi'n un o dair canolfan barhaol y llengfilwyr Rhufeinig ym Mhrydain: y ddwy arall oedd Caer (Deva) ac Efrog (Eberacum).
Roedd y gaer yn gartref i'r Ail Leng Augusta a oedd yn cynnwys dros 5,000 o filwyr. Gadawodd y milwyr Gaerllion ar ddiwedd y 3edd ganrif.
-
Crefydd
Roedd y Rhufeiniaid yn credu mewn llawer o wahanol dduwiau, duwiesau ac ysbrydion. Roedden nhw'n credu fod pob duw yn gyfrifol am wahanol agweddau o fywyd, er enghraifft:
Iau - Brenin y duwiau
Jwno - gwaig Jupiter, duwies menywod
Mawrth - duw rhyfel
Minera - duwies doethineb
Neifion - duw'r môr
Diana - duwies y lleuad a hela
Mercher - negesydd y duwiau
Gwener - duwies cariad a phrydferthwch
Mithras - duw'r haul
Ciwpid - duw cariad
Credai'r Rhufeiniaid bod ysbryd person marw yn croesi'r Afon Styx i isfyd o'r enw Hades (rhyw fath o nefoedd), a bod y fynedfa i Hades yn cael ei warchod gan gi â tri phen! Roedden nhw'n credu hefyd fod pob Ymerawdwr yn dod yn dduw ar ôl iddo farw.
Yn ogystal ag addoli eu duwiau eu hunain, roedd y Rhufeiniaid yn addoli duwiau rhai o'r gwledydd y gwnaethon nhw eu gorchfygu. Fe fydden nhw'n rhoi enwau Rhufeinig i'r duwiau hynny wedyn.
-
Ofergoeliaeth
Roedd y Rhufeiniaid yn ofergoelus dros ben hefyd. Roedden nhw'n credu fod symbolau naturiol, fel haid o adar neu storm fellt a tharannau, yn negeseuon gan y duwiau. Credent yn gryf fod camu dros drothwy drws gyda throed chwith yn gyntaf yn anlwcus. Roedd tywallt gwin, dŵr ac olew hefyd yn arwydd o bethau gwael i ddod.
Credai'r Rhufeiniaid fod gan gerrig, coed, ffynhonnau, ogofâu, llynnoedd, mynyddoedd a hyd yn oed anifeiliaid eu hysbrydion eu hunan.
Roedden nhw'n gwisgo bulla, sef pwrs lledr bychan, yn llawn cerrig a thlysau lwcus o gwmpas eu gyddfau er mwyn cadw ysbrydion drwg draw.
Credai'r Rhufeiniaid hefyd fod gan rai tlysau penodol, fel y iasbis coch a welir yn y casgliad hwn, bwerau goruwchnaturiol.
Mae llawer o'r gemau yn y casgliad tlysau hwn o Faddondai Caerllion yn cynnwys lluniau a symbolau crefyddol ac ofergoelus.

