Primary History

Hanes Prydain: Cwmpawd Gwedd´o Mwslimaidd

  • Cwmpawd Gweddïo Mwslimaidd

    Mae'r cwmpawd gweddïo hwn yn wrthrych cyfredol sy'n cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, a dyma un o'r gwrthrychau Mwslimaidd cyntaf i'r amgueddfa ei gasglu.

    Cafodd aelodau o wahanol gymunedau ffydd ar draws Cymru eu gwahodd i roi gwrthrychau i Sain Ffagan a rhannu stor´au er mwyn cynrychioli eu crefydd.

    Cafodd y cwmpawd gwedd´o hwn ei ddewis gan Najma Ali, merch ifanc o Abertawe. Roedd hi'n credu ei fod yn wrthrych pwysig iawn iddi hi yn ei bywyd bob dydd fel Mwslim yng Nghymru.

    Yn y gorffennol, doedd casgliadau Sain Ffagan ddim yn adlewyrchu'r amrywiaeth o grefyddau sy'n bodoli yng Nghymru heddiw, a phenderfynwyd bod angen casglu gwrthrychau mwy amrywiol oedd yn cynrychioli llawer o wahanol grefyddau.

    Top y dudalen

  • Tua Mecca...

    Mae gweddïo yn weithred bwysig dros ben i Fwslimiaid, ac yn un o Bum Piler Islam, sef fframwaith y mae'n rhaid i bod Mwslim ei ddilyn er mwyn byw bywyd da a chyfrifol yn ôl eu ffydd.

    Mae gweddïo yn weithred bwysig dros ben i Fwslimiaid, ac yn un o Bum Piler Islam, sef fframwaith y mae'n rhaid i bob Mwslim ei ddilyn er mwyn byw bywyd da a chyfrifol yn ôl eu ffydd.

    Wrth gwblhau'r Salah (rhan 'gweddïo' Pum Piler Islam), rhaid i bob Mwslim wedd´o ar Allah (Duw) ar adegau penodol pum gwaith y diwrnod. Gallan nhw wedd´o yn unrhyw le, cyn belled Ô'i fod yn le glân. Os nad ydynt yn gweddïo yn y mosg (sef man addoli'r Mwslim) maen nhw'n defnyddio mat gweddïo arbennig er mwyn creu rhyw fath o fan gwedd´o dros dro.

    Pan fyddant yn gwedd´o rhaid i Fwslimiaid wynebu cyfeiriad dinas sanctaidd Mecca yn Sawdi Arabia, ac yn arbennig y cysegr sanctaidd Ka'bah yng nghanol y ddinas. Enw'r cyfeiriad hwn yw quibla. Er mwyn eu cynorthwyo i wynebu'r cyfeiriad cywir wrth wedd´o yn y mosg, ceir mirab, sef math o alcof yn un o waliau'r neuadd weddïo, sy'n dangos cyfeiriad Mecca.

    Os yw Mwslim yn gwedd´o ar fat gweddïo y tu hwnt i furiau'r mosg, bydd cwmpawd bach arbennig yn cael ei gadw mewn poced fechan yng nghefn y mat, er mwyn helpu'r Mwslim i ganfod cyfeiriad Mecca cyn gweddïo. Mae'r cwmpawd wedi ei raglennu'n arbennig i ganfod cyfeiriad Mecca. Gellir hefyd gael cwmpawd symudol a llyfryn bychan sy'n rhoi cyfeiriadau Mecca o wahanol fannau yn y byd mewn waled fechan - tebyg i'r un hwn sydd i'w weld yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

    Top y dudalen

  • Islam

    Mae Mwslimiaid yn dilyn crefydd Islam. Ystyr y gair 'Islam' yw 'heddwch'. Cychwynnodd Islam yn Sawdi Arabia a dyma prif grefydd gwledydd y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica a rhannau mawr o Asia hyd heddiw. Yn y gwledydd hynny, dywedir fod dros hanner y boblogaeth yn dilyn crefydd Islam. Indonesia yw'r wlad lle mae'r ganran fwyaf o Fwslimiaid yn byw erbyn hyn, ond ceir nifer fawr o Fwslimiaid mewn gwledydd eraill ar draws y byd hefyd - tua 3 miliwn yn UDA, tua 1.5 miliwn ym Mhrydain a thua 220,000 yn Awstralia. Dywedir fod dros 1.2 biliwn o boblogaeth y byd erbyn heddiw yn Fwslimiaid. Islam yw ail grefydd fwya'r byd yn dilyn Cristnogaeth, a chredir taw dyma'r grefydd sy'n tyfu fwyaf mewn poblogrwydd.

    Mae Mwslimiaid yn credu taw dim ond un Duw sydd, a'i enw yn yr iaith Arabeg yw Allah. Roedd negeswyr, neu broffwydi, gan Allah - Abraham, Moses, Noa, Iesu a Muhammad oedd rhai ohonynt. Eu gwaith nhw oedd dysgu pobl sut i fyw trwy roi negeseuon iddynt gan Allah.

    Enw llyfr sanctaidd y grefydd Islam yw'r Qur'an. Ynddo mae gair Allah fel y cafodd ei adrodd wrth y proffwyd Muhammad trwy'r Angel Gabriel. Arabeg yw iaith y Qur'an, ac i Fwslimiaid, dyma'r llyfr pwysicaf yn y byd.

    Top y dudalen

  • Mwslimiaid ym Mhrydain a Chymru

    Mae cymunedau o Fwslimiaid wedi byw yng Nghymru ers dros 150 o flynyddoedd, a chredir i'r mosg cyntaf un ym Mhrydain gyfan gael ei sefydlu yn 2, Glynrhondda Street, Caerdydd yn 1860.

    Wrth i borthladdoedd masnachu rhyngwladol prysur de Cymru dyfu yn yr 19eg ganrif daeth nifer fawr o forwyr Mwslimaidd o'r Yemen, Somalia a Bangladesh i'r wlad a mynd ati i ymgartrefu yn ardaloedd dociau dinasoedd Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe.

    Oherwydd rôl porthladd Caerdydd fel porthladd allforio glo mwya'r byd ar un adeg, does dim rhyfedd felly fod llawer iawn o Fwslimiaid wedi ymgartrefu yn y brifddinas yn ystod yr 19eg a'r 20fed ganrif, ac yn naturiol roedd angen mannau addoli arnynt.

    Erbyn 1947 agorwyd 'Peel Street Moqsue', y mosg pwrpasol cyntaf yng Nghymru a Chaerdydd. Yn dilyn y cyfnod hwn cafwyd llif o fewnfudwyr Mwslimaidd i Gymru o wledydd y Gymanwlad oedd wedi brwydro ar ochr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.

    Erbyn heddiw mae bron i 40 mosg a chanolfan Islamaidd ar hyd a lled Cymru a chredir bod tua 30,000 o Fwslimiaid bellach yn byw yma. Mwslimiaid o dras Pacistanaidd sydd wedi ymgartrefu'n bennaf yng Nghaerdydd a Chasnewydd yw'r rhan fwyaf ohonynt. Islam yw ail grefydd fwyaf poblogaidd Prydain a Chymru yn dilyn Cristnogaeth erbyn hyn.

    Top y dudalen

BBC navigation

BBC © 2014 The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.

Jump to: A-D | E-G | H-L | M-O | P-S | T-Z

A to D

 

E to G

 

H to L

 

M to O

 

P to S

 

T to Z