Tynged yr Iaith - Saunders Lewis

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Darlith radio 1962 gan Saunders Lewis a ddewisodd yn destun Tynged yr Iaith.

Tynged yr Iaith

Rhaid imi gychwyn a gorffen sgrifennu'r ddarlith hon cyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a fu y llynedd ar y Cymry Cymraeg yng Nghymru. Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i'r rheini ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg. Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau'r tueddiad presennol, tua dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a rhoi bod dynion ar gael yn Ynys Prydain y pryd hynny.

Dyna felly lwyddo o'r diwedd y polisi a osodwyd yn nod i Lywodraeth Loegr yng Nghymru yn y mesur a elwir yn Ddeddf Uno Cymru a Lloegr yn y flwyddyn 1536. Chwarae teg i'r Llywodraeth, trwy ryw bedair canrif o lywodraethu Cymru, er pob tro ar fyd, er pob newid ar ddull y Senedd a moddion llywodraeth, er pob chwyldro cymdeithasol, ni bu erioed anwadalu ar y polisi hwn o ddiddymu'r iaith Gymraeg yn iaith weinyddol mewn na swydd na llys nac unrhyw ysgrif gyfreithiol. Meddai cyfreithiwr mewn llys barn yn 1773:

"It has always been the policy of the legislature to introduce the English language into Wales."

Meddai Matthew Arnold, arolygydd ysgolion, yn ei adroddiad swyddogol yn 1852:

"It must always be the desire of a Government to render its dominions, as far as possible, homogenous . . . Sooner or later, the difference of language between Wales and England will probably be effaced . . . an event which is socially and politically so desirable."

A hyd yn oed yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y flwyddyn 1952, yn Siarter y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, er yr holl newid a fu yn agwedd a meddwl arweinwyr addysg a diwylliant, fe ofalwyd peidio ag enwi'r iaith Gymraeg yn gynneddf anhepgor ar reolwr a chadeirydd i Gymru.

Nid wyf yn anghofio fod newid dirfawr wedi bod yn yr ysgolion. Heddiw y mae Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg yn noddi'r Gymraeg a'i chymell ar yr ysgolion yn daerach na'r awdurdodau lleol Cymreig. Caf sôn yn nes ymlaen am arwyddocâd hynny. Eithr y tu allan i fyd y plentyn a'r ysgol erys y ffaith mai Saesneg yn unig sy'n angenrheidiol i bob swydd neu offis weinyddol yng Nghymru. Nid yw egwyddor y Ddeddf Uno wedi llaesu dim, er bod newid o bwys yn agwedd meddwl y Llywodraeth.

Sgrifennai Matthew Arnold bedair blynedd wedi cyhoeddi Llyfrau Gleision 1847. Cefnogi argymhellion y Llyfrau Gleision oedd ei fwriad ef, a rhoes bwyslais ar y ffaith mai polisi politicaidd oedd difodi'r Gymraeg. Trown gan hynny at y Cymry eu hunain, rhag bod brycheuyn yn llygad y Sais yn peri na welom y trawst yn llygad y Cymro. Os ddarllenwch chi'r rhan hanesyddol o'r Adroddiad ar Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd, 1927, fe welwch heddiw fod y darlun o'r unfed ganrif ar bymtheg yn camddehongli'n druenus ystyr llawer o achwynion y Dyneiddwyr Cymraeg am gyflwr yr iaith Gymraeg. Ond mae'r dyfyniad o ragymadrodd enwog Morris Kyffin a gwynai am wr eglwysig o Gymro-

"A ddoedodd nad cymwys oedd adel printio math yn y byd ar lyfrau Cymraeg eithr ef a fynne i'r bobl ddysgu Saesoneg a cholli eu Cymraeg."

y mae hynny'n dystiolaeth deg i farn y mwyafrif mawr o'r gwyr eglwysig a'r boneddigion Cymreig ar bolisi'r Tuduriaid. Dywedodd Wiliam Salesbury a'r Esgob Morgan yn debyg. Dywedodd Siôn Tudur hynny ar gywydd. Fe wyddom heddiw nad a ddywedid ar goedd ac ar brint oedd gwir farn amryw byd ddeiliaid Elisabeth y Gyntaf. Gwladwriaeth y siri a'r ysbïwr a'r ceisbwl oedd hi, ac nid a gredai a ddywedai'r call. At hynny, rhaid dehongli geirfa'r Dyneiddwyr.

Mae'n iawn inni gydnabod dwy ffaith. Yn gyntaf, na fu wedi marw Elisabeth hyd at drothwy'r ugeinfed ganrif na chais na bwriad gan neb o bwys yng Nghymru i ddatod dim ar y cwlwm a unodd Gymru wrth Loegr na gwrthwynebiad o unrhyw gyfri i'r egwyddor o deyrnas gyfunol a diwahân. Ar ol 1536 fe beidiodd y syniad o Gymru'n genedl, yn undod hanesyddol, a bod yn atgof na delfryd na ffaith. Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol. Bodlonwyd drwy Gymru gyfan i'w darostyngiad llwyr.

Rhwng y ddwy ffaith hyn y mae cysylltiad clos. Os un deyrnas gwbl unedig yw Lloegr a Chymru - homogenous yw gair Matthew Arnold - yna mae bod iaith Gymraeg hanesyddol yn dramgwydd politicaidd, yn atgo am gyflwr gwahanol, yn berig' i'r undod. Dywedwyd yn union hynny yn y Ddeddf Uno, yn y Llyfrau Gleision, a throeon lawer. Ond ar ol oes Elisabeth y Gyntaf ni ddywedwyd hynny cyn amled yn Gymraeg. Derbyn y naill egwyddor a wnaeth llenyddiaeth Gymraeg, derbyn y Deyrnas Gyfunol. Clasur mawr cyntaf y Deyrnas Gyfunol yn y Gymraeg yw'r Bardd Cwsc. Y frenhines Ann gyda Llyfr Statud Lloegr dan ei naill law a'r Beibl dan y llall yw arwr y clasur hwnnw. Dewch gyda mi i gyfnod llawer nes atom, pan oedd adfywiad cenedlaethol Cymru yn hawlio Datgysylltiad yr Eglwys Wladol yn etholiad cyffredinol 1880. Dyma a ddywedodd hen ewythr i mi, John Thomas, Lerpwl, mewn anerchiad yng Nghaernarfon:

"Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth ... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd."

Yn union yr un safbwynt â Matthew Arnold, ond bod Arnold yn fwy rhesymegol - yn Saesneg y llefarodd ef a mynnai dranc y Gymraeg.

Erbyn y ddeunawfed ganrif ceir digon o dystiolaeth i effeithiau'r Ddeddf Uno ar yr iaith. Dywedodd Thomas Sebastian Price o Lanfyllin mewn llythyr Lladin yn 1700 fod y Gymraeg erbyn hynny wedi peidio â'i harfer oddieithr gan y werin iselradd. Yr oedd Elis Wynne ar y pryd yn gorffen ei gyfieithiad o Reol Buchedd Sanctaidd Jeremy Taylor. Yn y drydedd bennod fe ddaw at drafodaeth ar ddyletswyddau 'y sawl a gâdd eu rhan o'r uchel-swyddau', ac ebr ef:

"Dyletswyddau Brenhinoedd a Barnwyr a Llywodraethwyr Gwledig ac Eglwysig, heb law eu bod yn faith ac yn ddyrus, maent hefyd yn ammherthnasol sywaeth i'r laith Gymraeg."

Byddaf yn bendithio Ellis Wynne am y sywaeth yna, er ei fod yn lawn mor anghyson â John Thomas. Fe gofiwch ei fod ef yn y Bardd Cwsc yn dangos y Gymraeg yn iaith llysgenhadon a llythyrau brenhinoedd. Ond, ysywaeth hefyd, Brenin Uffern ac Angau yw'r brenhinoedd: hwy'n bellach o lywodraethwyr piau'r Gymraeg.

Felly y bu i'r Ddeddf Uno gau'r Gymraeg allan o lysoedd llywodraethwyr a thai bonedd y deyrnas, allan o fyd arweinwyr cymdeithas lle y ceid trafod pob dysg a thechneg a chelfyddyd a gwyddor. Dangosodd Mr Alwyn Prosser fod Williams Pantycelyn yn cwyno'n debyg:

"O'r holl gelfyddydau ag y mae gwledydd eraill yn ei astudio, ac wedi dyfod i Berffeithrwydd mawr ynddynt, nid oes brin Lyfr yn Gymraeg ac sydd yn dangos pa beth yw un o'r Celfyddydau hyn... Pa cyhyd y goddef y Cymru y fath anwybodaeth a hyn?"

Ei oddef a wnaeth y Cymry. Cais arall i edfryd i'r Gymraeg ehangder diddordeb a diwylliant bonedd oedd Gosodedigaethau Cymdeithas y Cymmrodorion, 1755. Dywedodd Richard Morris amdanynt mewn llythyr at William Vaughan:

"Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen laith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt."

Ond ei siomi a'i chwerwi a gafodd Richard Morris yntau. Methodd gan y Cymmrodorion fagu dosbarth canol diwylliedig Cymraeg. A'r ddogfen bwysig nesaf ynghylch sefyllfa a dylanwad y Gymraeg yw adran fawr R W Lingen yn Llyfrau Gleision 1847. Brad y Llyfrau Gleision yw'r enw a roddwyd ar yr adroddiad hwn yng Nghymru. Deil Syr Reginald Coupland yn ei gyfrol Welsh and Scottish Nationalism mai Brad y Llyfrau Gleision a frathodd i fywyd genedlaetholdeb Cymreig. Coupland yn wir yw'r unig hanesydd sy wedi trafod yr adroddiad yn deg a chytbwys. Prin fod neb awdwr o Gymro eto wedi cydnabod yr hyn sy'n wir, mai'r Llyfrau Gleision hyn yw'r ddogfen hanesyddol bwysicaf a feddwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a bod ynddi stôr o wybodaeth nas defnyddiwyd eto. Ni wnaf i'n awr ond dyfynnu tudalen sydd yn olyniaeth Ellis Wynne a Richard Morris a Williams Pantycelyn, ond bod Lingen yn sgrifennu yng nghanol y chwyldro diwydiannol yn Neau Cymru pan oedd cymoedd y glo a'r haearn yn gyrchfa i filoedd o dlodion amaethyddol ardaloedd gwledig Cymru:

"My district exhibits the phenomenon of a peculiar language- [ystyr peculiar yw priodol, iaith neilltuol i'r bobl hynny]-isolating the mass from the upper portion of society; and as a further phenomenon, it exhibits this mass engaged upon the most opposite occupations at points not very distant from each other; being, on the one side, rude and primitive agriculturists living poorly and thinly scattered; on the other, smelters and miners, wantoning in plenty, and congregated in the densest accumulations. An incessant tide of immigration sets in from the former extreme to the latter ... Externally it would be impossible to exhibit a greater contrast ... than by comparing the country between the rivers Towi and Teifi with Merthyr, Dowlais, Aberdare, Maesteg, Cwm Afon . . Yet the familes which are daily passing from the one scene to other do not thereby change their relative position in society. A new field is opened to them, but not a wider. They are never masters ... It is still the same people. Whether in the country or among the furnaces, the Welsh element is never found at the top of the social scale ... Equally in his new as in his old home, the language keeps him under the hatches, being one in which he can neither acquire nor communicate the necessary information. It is a language of old- fashioned agriculture, of theology, and of simple rustic life, while all the world about him is English ... He is left to live in an underworld of his own, and the march of society goes ... completely over his head. "

Cywirdeb a chraffter Lingen sy'n ein taro ni heddiw. Ychydig dros hanner canrif yn ddiweddarach aeth Mr D J Williams Yn Chwech ar Hugain Oed i'r pyllau glo yng Nghwm Rhondda. Nid oes dim yn y darlun a ddyry ef o Ferndale ar gychwyn yr ugeinfed ganrif sy'n groes i'r darlun cyffredinol a gafwyd gan Lingen yn 1847. Nid yw'r amgylchiadau na'r cyflwr byw na'r dulliau byw wedi newid fawr. Y mae disgrifiad Lingen o nos Sadwrn a nos Sul ym Merthyr yn rhyfedd o debyg yn ei hanfodion i ddisgrifiad D J Williams o'r nosau hynny yn Ferndale. Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod. Dweud y gwir llym am a welodd ac y glywodd a wnaeth Lingen a dangos tynged anesgor yr iaith Gymraeg a'r gymdeithas a siaradai Gymraeg wedi tair canrif o'u cadw gyda'r

diawl o dan yr hatsus
Yn sownd co bach dan glo.

Yn ddiweddar bu'r Athro Brinley Thomas yn dangos mai'r chwyldro diwydiannol a gadwodd yr iaith Gymraeg yn fyw yn ail hanner y ganrif ddiwethaf. Heb gymoedd glo a gweithiau'r Deheudir troesai'r dylifiad pobl o Gymru wledig yn dranc i'r Gymraeg megis y bu'r newyn yn Iwerddon yn dranc i'r Wyddeleg. Erbyn 1911 yr oedd llawer rhagor na hanner poblogaeth Gymraeg Cymru yn ardaloedd y glo, 'wantoning in plenty' chwedl Lingen, a dyna sut y llwyddodd Gwyddoniadur Thomas Gee a'r cyhoeddi helaeth Cymraeg. Eisoes yn 1847 yr oedd Lingen wedi sylwi ar hyn a rhagweld ychwaneg. Nid oedd gan y Cymry, ebr ef, ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas. Dyna, mi dybiaf i, ddolen gyswllt â'r cywyddau brud a brwydr Bosworth, a phropaganda beirdd Rhyfeloedd y Rhos a ddug Harri Tudur i Lundain. Ewch yn iach, Sieffre o Fynwy, clywsom atsain olaf eich Brut. Ar un wedd dyna ddatguddiad rhyfeddaf a mwyaf cyffrous y Llyfrau Gleision. Ond am wleidyddiaeth gyfoes dywedodd Lingen mai Saeson o Loegr a ddygai bob cyffro gwleidyddol i'r meysydd glo Cymreig, a dyna ragweld y Seisnigo ar y mudiad Llafur a oedd i ddwyn Keir Hardie o Glasgow i fod yn arweinydd y Cymry. Ni chyfrannodd yr ardaloedd diwydiannol ddim newydd chwaith i'r bywyd cymdeithasol Cymreig nac i lenyddiaeth yr eisteddfodau. Trefnasant eu bywyd yn y cymoedd poblog ar lun a delw y bywyd gwledig a'r capel yn ganolfan iddo. Yr oedd Anghydffurfiaeth Gymraeg yn clymu'n undod wlad a thref. A'r un pryd yn eu cadw yn eu hunfan.

Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu. Er cymaint y digofaint a'r cynddaredd a gyffroisant, er cymaint y protestio pybyr oblegid eu darlun du o Anghydffurfiaeth Cymru, yn rhyfedd iawn fe fabwysiadodd Cymru gyfan, Angyhydffurfiaeth Cymru'n arbennig, holl bolisi a phrif argymhellion yr adroddiad enbyd. Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl. Casglwyd arian y gweithiwr o Gymro at y colegau prifysgol. 'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru. Diau fod gwir yn hynny; nid yw ond yn chwerwi'r trasiedi. Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru, ffrwyth pennaf deffroad cenedlaethol y werin Gymreig a Chymraeg.

Edrychwch ar Brifysgol Jerwsalem heddiw a'r Hebraeg a oedd yn iaith farw hir oesoedd cyn Crist yn gyfrwng ei holl hyfforddiant yn y gwyddorau mwyaf cyfrwys a modern. Ystyriwch brifysgolion y Swistir, a Ghent a Louvain yng ngwlad Belg. Yna edrychwch ar Brifysgol Cymru gyda'i chwe choleg mwyach. Beth a ddywedwn ni am y Cymro Cymraeg yn y pedwar coleg cyflawn? Beth a ddywedwn ni am yr adrannau Cymraeg eu hunain, er holl gais Bwrdd y Gwybodau Celtaidd i greu geirfaoedd i'r technegau? Ni ellir mewn gwaed oer ond dweud a ddywedodd Lingen yn y Llyfrau Gleision:

Equally in his new as in his old home his language keeps him under the hatches ... His superiors are content simply to ignore his existence. He is left to live in on under-world of his own, and the march of society goes completely over his head.

Dyna'r gwir heddiw am y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru; a Chymru Gymraeg a'i creodd hi, ei chynnal hi, dotio ar ei graddau anrhydeddus hi, a bodloni mai gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi. Y mae Prifysgol Cymru yn fwy cyfrifol nag unrhyw sefydliad arall fod yn amhosibl heddiw i lenyddiaeth Gymraeg fod yn ddarlun cyflawn o fywyd gwareiddiad. Polisi Prifysgol Cymru yw polisi Deddf Uno 1536 a pholisi Matthew Arnold a'r Llyfrau Gleision; ac y mae Cymru Gymraeg yn bodloni.

Trown at weddau politicaidd y deffroad Cymreig yn y ganrif ddiwethaf ac fe welwn yn union yr un diystyru ar y Gymraeg. Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan. Bu gwrthgymreigrwydd esgobion a phersoniaid yr Eglwys Wladol a'u gelyniaeth i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r ddadl o blaid Datgysylltiad, yn rhan hefyd o ddadl y Degwm. Ond testun dychan Emrys ap Iwan oedd Cymru Fydd yn 1891:

Mi a ddylwn ddweud wrthochi fod llawer hyd yn oed o Ddic- Sion-Dafyddion cyn y flwyddyn 1890 wedi ymuno â chymdeithasau Cymreig a fath Kumree Fidd ... yr oeddenw, er mwyn ennill cyhoeddusrwydd, ac er mwyn marchogaeth ar y teimlad Cymreig i bwyllgorau, i gynghorau, ac i'r Senedd, yn ymostwng i ddibennu pob araith trwy ddywedyd mewn Cymraeg go ddyalladwy 'Oes y byd i'r iaith Gymraeg'. Ond dyna'r cwbl.

Efallai mai oherwydd hyn y rhoes Cymdeithasau Cymru Fydd ar eu rhaglen yn 1894 'Penodi swyddogion cyhoeddus a fedrai Gymraeg'. Dwy flynedd wedyn yng nghynhadledd Cymru Fydd cafwyd datganiad gan Iywydd Cymdeithas Ryddfrydol Caerdydd, Sais a gwr busnes o'r enw Bird. Roes Mr T I Ellis ei eiriau ef i Gymraeg: 'Y mae drwy Ddeheubarth Cymru filoedd ar filoedd o Saeson ... poblogaeth gosmopolitan na fydd iddi ymostwng i dra-arglwyddiaeth syniadau Cymreig.' Ar y gair syrthiodd Cymru Fydd i lewyg yn y fan a'r lle; yn fuan wedyn, heb ddadebru a heb stwr, ymadawodd.

A oes o gwbl draddodiad o amddiffyn politicaidd i'r iaith Gymraeg? Nid gofyn yr wyf a oes traddodiad o frolio'r iaith mewn areithiau politicaidd neu gan wleidyddion ar lwyfan eisteddfod. Yn hytrach gweld yr iaith fel y mae Llywodraeth Lloegr wedi ei gweld hi erioed, yn fater politicaidd, ac o'i gweld hi felly ei chodi hi'n faner i frwydr?

Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy. Ond yn llythyrau a cherddi a thraethodau Evan Evans, Ieuan Brydydd Hir, y ceir propoganda pendant yn erbyn y polisi o droi'r eglwysi plwy yn foddion i ddifodi'r Gymraeg. Ofnodd ei gyfeillion amdano ac ebr yntau:

Diau mai rhy flanellym yw'r traethawd yn erbyn yr Esgyb Eingl; a bychan fyddai ganddynt fy nhorri yn ddeuddarn ... Mi a fynnwn yn ddiau fod rhywbeth o'r fath yna wedi ei argraffu ... Y mae un Richardson wedi cyhoeddi llyfr o blaid y Gwyddelod, ag sydd yn cael yr un cam â ninnau ... Y mae gennyf i ryw bapuryn ... wedi ei ysgrifennu yn Lladin . . . Llythyr y Parchedig Dad loan Elphin, Cennad Apostolaidd Cymdeithas yr lesu at y Cymry Pabaidd . . . ym mha un y mae yn mynegi yn helaeth yng nghylch Helynt Crefydd yn y wlad honno ... Y mae hwn yn finiog gethin.

Yn y ganrif wedyn cafwyd arweiniad Michael Jones a'r arbraw arwrol ar Wladfa Gymreig ym Mhatagonia:

Bydd yno gapel ac ysgol o senedd-dy a'r heniaith yn gyfrwng addoli a masnachu, dysgu a llywodraethu. Tyf yno genedl gref mewn cartref Cymreig.

Geiriau chwyldroadol, rhaglen chwyldroadol. Hyd at heddiw mae'n diffyg ni o ymwybyddiaeth cenedl, ein hamddifadrwydd ni o falchter cenedl, yn rhwystro inni amgyffred arwyddocâd ac arwriaeth yr antur ym Mhatagonia. Yn llinach Michael Jones y mae gosod Emrys ap Iwan. Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon. Felly y cafwyd ganddo'r pamffled enwog Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, a thybed nad iawn awgrymu mai'r Tad Ioan Elphin o Gymdeithas yr Iesu yn nychan Ieuan Brydydd Hir a roes i Emrys ap Iwan yntau y syniad am y Tad Morgan o Gymdeithas yr Iesu sy'n rhoi hanes atgyfodiad Cymru Gymraeg yn Breuddwyd Pabydd.

Nid yw Coupland yn sôn am Ieuan Brydydd Hir ond fel un o feirdd cwmni'r Morrisiaid. 'A somewhat eccentric Independent minister' yw Michael Jones ganddo, ac nid oes air am Emrys ap Iwan. Dyna ddangos yn deg mor ddieffaith, mor ddirym, mor ddibwys ym mywyd politicaidd Cymru ac yn natblygiad ei meddwl hi ar faterion cymdeithasol fu traddodiad amddiffyn yr iaith Gymraeg. Pobl od, 'somewhat eccentric', yn dilyn llwybr cul, culni cenedlaetholdeb a chulni iaith, yn lle'r ffordd lydan sy'n arwain i Westminster. Traddodiad o ddioddef dirmyg ac erlid yw traddodiad amddiffyn politicaidd i'r iaith Gymraeg. Yng Nghymru gellir maddau popeth ond bod o ddifri ynglyn â'r iaith. Dyna brofiad Ieuan Brydydd Hir, Michael Jones, ac Emrys ap Iwan. Yr unig beth sy'n ddolen gyswllt rhyngddyn' hwy a mwyafrif enfawr eu cyd-genedl yw'r anthem genedlaethol fwyaf celwyddog yn Ewrop.

Trown felly at y sefyllfa bresennol, argyfwng yr iaith yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae hi'n sefyllfa wan. Bu amser, yng nghyfnod deffroad y werin rhwng 1860 a 1890, y buasai'n ymarferol sefydlu'r Gymraeg yn iaith addysg a'r Brifysgol, yn iaith y cynghorau sir newydd, yn iaith diwydiant. Ni ddaeth y cyfryw beth i feddwl y Cymry. Mi gredais i nad oedd y peth yn amhosibl, gydag amser ac o ddilyn polisi cyson am genhedlaeth neu ddwy, rhwng y ddau rhyfel byd. Heddiw nid yw hynny'n bosibl. Bu cyfnewidiadau cymdeithasol aruthrol yng Nghymru yn y chwarter canrif diwethaf. Iaith ar encil yw'r Gymraeg yng Nghymru mwaych, iaith lleiafrif a lleiafrif sydd eto'n lleihau.

Ystyriwn eto agwedd Llywodraeth Whitehall tuag at y Gymraeg heddiw ac wedyn agwedd pobl yng Nghymru. Y mae agwedd y Llywodraeth wedi newid rhagor nag unrhyw newid a fu yng Nghymru. Bid siwr y mae ymyrraeth Llywodraeth â bywyd cymdeithasol yn y Wladwriaeth Les yn cyrraedd ymhellach nag a ddychmygwyd yn y ganrif ddiwethaf. Nid addysg o bob math a gradd sy dan ofal y Llywodraeth bellach ond llawer math o adloniant oriau hamdden, clybiau a gwersylloedd ienctid, addysg oedolion, theatrau, celfyddyd, darlledu a theledu, sy'n cyrraedd bron i bob aelwyd yn y deyrnas. Y mae diwylliant pob bro a rhanbarth yn wrthrych rhyw gymaint o nodded. Mae'r Cyngor Celfyddydau yn cydnabod - er nad yn hael gydnabod - hawliau diwylliant Cymraeg.

Y canlyniad yw fod y Llywodraeth wedi newid ei safbwynt i raddau helaeth. Nid honiad Matthew Arnold yw credo Whitehall heddiw. Nid ystyrir y Gymraeg mwyach yn dramgwydd politicaidd. Ped ysgrifennid llythyr Cymraeg a'i anfon i unrhyw swyddfa awdurdod lleol Cymreig y mae'n fwy na thebyg mai yn Saesneg y deuai'r ateb. Pes anfonid i unrhyw swyddfa yn Whitehall neu yn Cathays Park, y mae'n fwy na phosib mai yn Gymraeg y deuai'r ateb. Gellir cynnig y Gymraeg ar gyfer arholiad y gwasanaeth sifil. Yn yr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg bellach sy'n cymell y Cymry i dyfu'n genedl ddwy-ieithog, gan ennill y gorau o'r ddau fyd, byd y dec uchaf Seisnig a byd, nid dan yr hatsus yn llwyr, ond ar fwrdd yr ail ddobarth Cymreig. Y mae'r rhan fwyaf o lawer o arweinwyr addysg Cymru, llenorion Cymraeg yn eu plith, yn gweld hyn yn ddelfryd mawrfrydig a theilwng. Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

Gellir tynnu un wers o bwys oddi wrth agwedd y Llywodraeth. Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad. Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol. O Gymru, oddi wrth yr awdurdodau lleol ac oddi wrth eu swyddogion, y deuai'r gwrthwynebiad, yn gras, yn ddialgar, yn chwyrn.

Eithr rhag i'm gweniaith i'r Llywodraeth beri i neb amau fy mod i'n anelu at Dy'r Arglwyddi, a gaf i chwanegu pwynt arall? Nid oes obaith fyth fythoedd i Lywodraeth Whitehall fabwysiadu safbwynt Cymreig. Nid yw'n rhan o dasg y Weinyddiaeth Addysg orfodi'r Gymraeg ar ysgolion Cymru na hyd yn oed orfodi dysgu effeithiol ar y Gymraeg. Cymell, cefnogi, calonogi-purion. Ond digio Cyngor Sir Gaerfyrddin? 'Choelia' i fawr. De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.

Ystyriwch fater Cwm Tryweryn a Chapel Celyn. Pa achos a oedd i bobl Cymru wrthwynebu cynllun Corfforaeth Lerpwl i foddi'r dyffryn a'r pentre a throi'r fro yn gronfa ddwr i ddiwydiannau'r ddinas? Mae'n wir fod yr elw economaidd i Gorfforaeth Lerpwl yn enfawr. Mae'n wir y gallasai cydweithrediad cynghorau sir Gogledd Cymru fod wedi codi trefn well er budd i'w broydd chwarter canrif yn gynt. Arfer cynghorau sir Cymru yw gwrthod cydweithredu â'i gilydd heb eu gorfodi, a gwrthod hyd y gallant bob cais i newid eu cyfansoddiad a'u trefn. Nid hynny chwaith mo'r rheswm dros wrthod cynllun Lerpwl. Yr oedd y cynllun yn chwalu cymdeithas Gymraeg uniaith yn un o ardaloedd gwledig hanesyddol Meirion.

Amddiffyn iaith, amddiffyn cymdeithas ydyw, amddiffyn cartrefi a theuluoedd. Heddiw ni all Cymru fforddio chwalu cartrefi'r iaith Gymraeg. Maen' nhw'n brin ac yn eiddil. Bu cynadleddau o holl awdurdodau lleol Cymru dan lywyddiaeth Arglwydd Faer Caerdydd yn protestio yn erbyn mesur Lerpwl. Aeth y mesur drwy'r Senedd yn rhwydd. Y mae Lerpwl yn ddinas fawr boblog a'i dylanwad politicaidd yn aruthrol. Pa Lywodraeth allai osod cymdeithas fechan wledig dlawd Gymreig yn y glorian yn erbyn buddiannau economaidd Corfforaeth Lerpwl? Nid plentynnaidd, eithr anonest, oedd beio'r Gweinidog dros Gymru am na rwystrodd ef y mesur. Ein mater ni, ein cyfrifoldeb ni, ni'n unig, oedd Tryweryn. Ond 'Nid Gwyddelod mohonom' meddai cylchgrawn y bobl oedd piau'r amddiffyn. A dybiwch chi na chraffwyd ar hynny yn swyddfeydd y Llywodraeth a'i osod yno gyda'r slogan Cymraeg clasurol arall, Bread before beauty? Be' fu'r canlyniad? Y mae Cymru heddiw wedi ei rhwygo'n ddwy ar y Suliau, Cymru Gymraeg a Chymru Saesneg. Nid yw hynny ond praw fod y llywodraeth wedi cymryd mesur eiddilwch Cymru Gymraeg ac nad rhaid mwy ymboeni amdani. Ac y mae Gwylfa a Menai ac Eryri yn awr i'w halogi i borthi trydan Lancashire.

Y mae rheswm arall pam nad rhaid i'r Llywodraeth ymboeni ynghylch Cymru Gymraeg. Gall hi adael hynny i'r awdurdodau lleol Cymreig a'r pleidiau politicaidd yng Nghymru. Rhai ymhlith yr aelodau seneddol Cymreig a wasgodd ar y Llywodraeth nad rhaid wrth Gymraeg hyd yn oed mewn swyddi yn ymwneud â diwylliant Cymreig yng Nghymru. Arwyddocaol dros ben yw ymosodiadau amryw awdurdodau lleol Cymreig yn Neau Cymru ar yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gwrthodant gyfrannu tuag ati neu gyfrannu cil-dwrn tuag ati oblegid mai sefydliad Cymraeg yw hi. Hawliant droi diwrnod o'i phum niwrnod hi yn ddydd Saesneg cyn cyfrannu at ei chynnal hi'n anrhydeddus. Dyna'r math o wyrdroad enaid a meddwl sy'n wynfyd o broblem i'r seiciatrydd, ond y mae'r ysbryd ar gynydd yn Neau Cymru a gall frysio diwedd yr Eisteddfod. Nid sefydliad swyddogol na chyfreithiol na gweinyddol mohoni. Creadigaeth Cymru Gymraeg yw hi, yr unig sumbol sy'n aros o undod hanesyddol cenedl y Cymry, yr unig muthos Cymreig. Ond y mae amryw o arweinwyr y pleidiau politicaidd ac o arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru a chanddynt wenwyn i'r Gymraeg. Ac y mae miloedd ar filoedd o weithwyr dur a glo a neilon a'r crefftau newydd o bob math na wyddan' nhw ddim bellach hyd yn oed fod yr iaith.

Llawn mor fygythiol yw agwedd meddwl cynghorau sir ac awdurdodau lleol y parthau Cymraeg. Nid oes ganddynt ond un ateb i broblem nychdod y broydd gwledig, sef pwyso ar y Llywodraeth am ddwyn iddynt hwythau ffatrïoedd a diwydiannau o Loegr, a gwahodd corfforaethau dinasoedd megis Birmingham i sefydlu maestrefi ym Môn neu Feirion neu Sir Drefaldwyn. Mae'r Gweinidog Materion Cymreig yn gwneud a fedro gyda chymorth adrannau o'r gwasanaeth sifil i hybu'r polisi hwn; nid yn ofer chwaith. Ond dywedodd Arglwydd Brecon ei hun ei bod hi'n drueni na wnai'r ardaloedd Cymraeg fwy i gychwyn diwydiannau eu hunain yn hytrach na galw byth a beunydd am gymorth o'r tu allan. Ni ddywedaf i ond hyn am y polisi yn awr: hoelen arall yw hi yn arch yr iaith Gymraeg. Nid rhaid ychwanegu fod holl duedd economaidd Prydain Fawr gyda'r canoli fwyfwy ar ddiwydiannau yn gwthio'r Gymraeg fel clwt i gornel, yn barod i'w daflu ar y domen.

A ydy'r sefyllfa yn anobeithiol? Ydy', wrth gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio. 'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio. Wedyn gall dyn fynd ymlaen i fwynhau byw.

Y mae traddodiad politicaidd y canrifoedd, y mae holl dueddiadau economaidd y dwthwn hwn, yn erbyn parhad y Gymraeg. Ni all dim newid hynny ond penderfyniad, ewyllys, brwydro, aberth, ymdrech. A gaf i alw eich sylw chi at hanes Mr a Mrs Trefor Beasley. Glowr yw Mr Beasley. Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg. Yn y cyngor gwledig y perthyn Llangennech iddo y mae'r cynghorwyr i gyd yn Gymry Cymraeg: felly hefyd swyddogion y cyngor. Gan hynny, pan ddaeth papur hawlio'r dreth leol atynt oddi wrth The Rural District Council of Llanelly, anfonodd Mrs Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg. Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu'r dreth nes ei gael. Gwysiwyd hi a Mr Beasley dros ddwsin o weithiau gerbron llys yr ustusiaid. Mynnodd Mr a Mrs Beasley fod dwyn y llys ymlaen yn Gymraeg. Tair gwaith bu'r beiliod yn cludo dodrefn o'u ty nhw, a'r dodrefn yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd. Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg. Nid oes gennyf i hawl i ddweud beth a gostiodd hyn oll yn ariannol i Mr a Mrs Beasley. Bu cyfeillion yn lew iawn, gan gynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr. Aeth eu helynt yn destun sylw gwlad, a'r papurau newydd a'r radio a'r teledu yn boen beunyddiol iddynt. Yr oedd yr achosion yn y llys yn ddiddorol a phwysig. Er enghraifft, ateb swyddog y dreth i Mr Wynne Samuel: 'Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y Cyngor i argraffu'r papurau sy'n hawlio'r dreth mewn unrhyw iaith ond Saesneg.'

Yng nghanol y rhyfel diwethaf, yn Hydref 1941, trwy ymdrech bwysicaf Undeb Cymru Fydd cyflwynwyd deiseb i'r Senedd, deiseb y torrodd tua phedwar can mil o Gymry eu henwau wrthi, yn erfyn am ddeddf

A wna'r laith Gymraeg yn unfraint â'r laith Saesneg ym mhob agwedd ar Weinyddiad y Gyfraith a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Ond wedi'r llafur mawr a'r hel enwau a chynadleddau aeth yr aelodau seneddol Cymreig i gyfrinachu â Mr Herbert Morrison, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd. Y canlyniad fu'r Welsh Courts Act, 1942, deddf seneddol a ddiystyrodd holl fwriad y ddeiseb ac a adawodd y Saesneg o hyd yn unig iaith swyddogol y llysoedd cyfraith a'r gwasanaethau cyhoeddus oll. At hynny y cyfeiriodd swyddog y dreth yn Llanelli.

Fe ellir achub y Gymraeg. Y mae Cymru Gymraeg eto'n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw'r lleiafrif eto'n gwbl ddibwys. Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati. Trwy wyth mlynedd ymdrech Mrs Beasley, un Cymro arall yn y dosbarth gwledig a ofynnodd am bapur y dreth yn Gymraeg. Peth na ellir ei wneud yn rhesymol ond yn unig yn y rhannau hynny y mae'r Cymry Cymraeg yn nifer sylweddol o'r boblogaeth yw hyn. Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi'n amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg. Hawlier fod papur y dreth yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg. Rhoi rhybudd i'r Postfeistr Cyffredinol na thelir trwyddedau blynyddol oddieithr eu cael yn Gymraeg. Mynnu fod pob gwys i lys yn Gymraeg. Nid polisi i unigolion, un yma, un acw ar siawns mo hyn. Byddai gofyn ei drefnu a symud o gam i gam gan roi rhybudd a rhoi amser i gyfnewidiadau. Polisi i fudiad yw ef a'r mudiad hwnnw yn yr ardaloedd y mae'r Gymraeg yn iaith lafar feunyddiol ynddynt. Hawlio fod pob papur etholiad a phob ffurflen swyddogol yn ymwneud ag etholiadau lleol neu seneddol yn Gymraeg. Codi'r Gymraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r sir.

Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym. 'Hwyrach eich bod yn iawn. Y cwbl a ddaliaf i yw mai dyna'r unig fater politicaidd y mae'n i Gymro ymboeni ag ef heddiw. Mi wn yr anawsterau. Byddai'n stormydd o bob cyfeiriad. Fe daerid fod y cyfryw ymgyrch yn lladd ein siawns i ddenu ffatrïoedd Seisnig i'r ardaloedd gwledig Cymraeg; a diau mai felly y byddai. Hawdd addo y byddai gwawd a dirmyg y sothach newyddiadurwyr Saesneg yn llaes feunyddiol. Byddai dig swyddogion yr awdurdodau lleol a llawer cyngor sir yn ail i'r bytheirio a fu yn Nosbarth Gwledig Llanelli. Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan. Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd Cymru heddiw. Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Efallai y dygai'r iaith hunan-lywodraeth yn ei sgil: 'wn i ddim. Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth. Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.