Beth ydy Twitter?
Mae Twitter yn eich galluogi i gyhoeddi negeseuon byr i'r byd i gyd cael gweld. Rhywbeth tebyg i negeseuon testun ar eich ffôn symudol.
Mae'n ddull hwylus o gyfathrebu pan nad ydych yn medru cael at eich cyfrifiadur gan fod Twitter hefyd yn medru derbyn negeseuon o'ch ffon symudol.
Sut ma' Twitter yn gweithio?
Mae unrhyw un yn medru defnyddio Twitter wrth fynd i'r wefan a chofrestri.
Wedi gwneud hynny, teipiwch eich neges i'r blwch ar dop y dudalen a ffwrdd a chi. (Cofiwch fod rhaid cadw'r neges hyd at 140 o lythrennau).
Gallwch hefyd osod dyfais er mwyn anfon negeseuon trwy eich ffôn symudol.
Sut allai ddilyn BBC Cymru, Radio Cymru, C2 neu Camp Lawn ar Twitter?
Bydd gohebwyr a newyddiadurwyr BBC Cymru yn anfon negeseuon Twitter yn rheolaidd er mwyn cyfleu'r newyddion a'r straeon diweddaraf.
Gallwch gadw mewn cysylltiad trwy ymuno â Twitter a dewis dilyn BBC Cymru, Radio Cymru, C2 neu Camp Lawn. Trwy wneud hynny, byddwch yn derbyn newyddion a gwybodaeth gennym yn rheolaidd.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Rhys Meirion
Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.
