Advertisement
Tudur Owen

Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf

Ar yr awyr nesaf: Dydd Sadwrn, 12 Rhag 2009, 12:30-13:25

Tudur Owen

Hiwmor ffraeth a sgyrsiau difyr yn ogystal â'r diweddaraf o'r byd chwaraeon gyda'r digrifwr Tudur Owen. Bob dydd Sadwrn, 12.30pm-2.00pm

Ac yntau wedi treulio 20 mlynedd yn chwarae rygbi ar bnawniau Sadwrn, doedd dim byd wedi llwyddo i lenwi'r bwlch ym mhenwythnos Tudur - tan iddo gamu i stiwdio Radio Cymru i gyflwyno'i raglen radio.

"Mae cyflwyno'r rhaglen yn help i fi ddod dros y ffaith mod i'n rhy hen ac yn rhy dew i chwarae rygbi," esbonia Tudur.

"Bydd unrhywun sydd wedi ymddeol o chwaraeon yn gwybod pa mor anodd yw gwylio'r gêm o'r ochr a'r siom yna o wybod nad wyt ti'n un o'r hogia' nac yn rhan o'r tîm bellach."

Mae cyflwyno'r rhaglen yn help i fi ddod dros y ffaith mod i'n rhy hen ac yn rhy dew i chwarae rygbi

Er nad oes 14 o ddynion cryfion wrth ochr Tudur yn y stiwdio, mae'n teimlo cwmnïaeth y gwrandawyr ar draws y tonfeddi.

"Mae cymaint o bobl yn ffonio mewn i wneud ceisiadau ac i roi gwybod be maen nhw'n ei wneud dwi'n teimlo fel petawn yng nghanol bwrlwm.

"Dyma adeg mwyaf cyffrous y penwythnos wrth i dimau chwaraeon baratoi i ddod wyneb yn wyneb a'u gwrthwynebwyr ac mae'r cefnogwyr yn edrych 'mlaen i weiddi a gweld y gêm yn datblygu o'u blaenau.

"Mae'r pili-palod yn chwyrlio yn stumogai'r bobl ifanc wrth iddyn nhw benderfynu beth i'w wisgo a lle i fynd ar gyfer noson allan yn y dre.

"Fel arfer mae gen i gig rhywle ar nos Sadwrn felly mae'r adrenalin yn pwmpio trwy ngwythiennau innau hefyd.

Mae'r comedïwr yn hen gyfarwydd a chael ymateb cynulleidfa fyw wrth berfformio felly mae'n rhaid ei bod hi'n dipyn o newid iddo gyfarch stiwdio wag wrth gyflwyno ar y radio.

"'Roedd hi'n rhyfedd ar y dechrau gan mod i wedi arfer clywed pob chwerthiniad, ebychiad a thwt-twt! Ond gyda'r holl alwadau ffôn a'r bobl sy'n fy stopio i ar y stryd ac yn yr archfarchnad i ddweud eu bod nhw'n mwynhau'r rhaglen dwi'n teimlo'n agos iawn at y gynulleidfa.

"Fedra i ddim meddwl am gwmni gwell ar bnawn Sadwrn!"


Amserlen

Ar yr awyr nawr

10:30 Nia

Busnesu a sgwrsio, chwerthin a chrio - y cyfan ar raglen newydd Nia.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.