Richard Rees
Cerddoriaeth a sgwrs i ddechrau'r dydd.
Ddim ar yr awyr ar hyn o bryd.
Rhaglen gynta'r dydd ar BBC Radio Cymru ydi Richard Rees - bob bore rhwng 5 a 7am. Fe gewch chi'r diweddaraf o'r ystafell newyddion, a'r byd chwaraeon, yn ogystal â gwybodaeth am y tywydd gan Rhian Haf. Bob bore fe fydd Richard hefyd yn sgwrsio hefo aelod o glwb y bobl tywydd ac yn cadw llygad ar gynnwys papurau'r dydd.
Fe fydd gan Richard thema benodol ar gyfer ei sgwrs 6.50am o ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar fore dydd Gwener fe fydd Carwyn John yn darogan y sêr ac yn tanio'r penwythnos!
Hyn i gyd yn ogystal â'r gerddoriaeth orau i'ch helpu chi i ddeffro yn y bore. Mae'r croeso yn un cynnes, felly ymunwch â Richard bob bore rhwng 5 a 7 ar BBC Radio Cymru.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
18:30 Geraint Lloyd
Geraint Lloyd gyda digon o gerddoriaeth, sgwrs a hysbys o stiwdio Aberystwyth.


