Rebels Cymreig - Dr William Price

Cofeb William Price yn Llantrisant

Rhaglen 3 - Dr William Price

Arloeswr neu heretig gwallgof?

Mwy am William Price gan Lyn Ebenezer ar wefan BBC Cymru.

Er mai cefndir confensiynol oedd ganddo ar yr wyneb, cymeriad lliwgar gyda syniadau pendant am batrwm byw oedd Dr William Price.

Bu'n feddyg llwyddiannus a chael enw da am ofal cleifion. Eisoes yn llysieuwr, roedd yn dadlau'n gryf mai rôl meddyg da oedd canfod achosion gwaeledd yn hytrach na thrin y symptomau - adlais o'r feddygaeth holistig a welir mewn therapiau amgen heddiw.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Yn ogystal â bod yn ddoctor, hawliai William Price ei fod wedi etifeddu teitl archdderwydd a bu'n arddel y teitl trwy gydol ei oes. Roedd hefyd son amdano'n lleol yn crwydro'n noeth ar hyd y llechweddau yn ystod dyddiau ei ieuenctid.

Ac os bu iddo ymddwyn yn anghyffredin, gwisgai'n wahanol hefyd. Roedd ei wallt yn blethi hir o dan het o groen llwynog a gwisgai diwnig wen dros drowsus gwyrdd a gwasgod goch.

Serch hynny, roedd ochr ddifrifol iddo a chredai'n gryf yn achos y dyn cyffredin.

Fel un o arweinyddion mudiad y Siartwyr bu'n rhaid iddo ffoi i Baris am gyfnod er mwyn dianc rhag yr awdurdodau.

Cysylltir ef yn bennaf â Deddf Amlosgi 1902 a phan fu farw ym 1893 llosgwyd ei gorff ar fryn uwchlaw Llantrisant o flaen torf o tua ugain mil.

Yn 1982 fe godwyd cerflun ohono gan y cerflunnydd Peter Nicholas yn y Bull Ring, Llantrisant.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.