Rebecca Jones
Cerddoriaeth a sgwrs i ddechrau'r dydd.
Ddim ar yr awyr ar hyn o bryd.
Rhaglen gynta'r dydd ar BBC Radio Cymru ydi Rhaglen Rebecca - bob bore rhwng 5 a 7am. Fe gewch chi'r diweddaraf o'r ystafell newyddion, a'r byd chwaraeon, yn ogystal â gwybodaeth am y tywydd gan Rhian Haf. Mae clwb pobl tywydd Rebecca yn un poblogaidd iawn, a bob bore fe fydd Rebecca yn sgwrsio hefo aelod o'r clwb. Mae Rebecca yn cadw llygad ar gynnwys papurau'r dydd hefyd.
Fe fydd gan Rebecca thema benodol ar gyfer ei sgwrs 6.50am o ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar fore dydd Gwener fe fydd Carwyn John yn darogan y sêr ac yn tanio'r penwythnos!
Hyn i gyd yn ogystal â'r gerddoriaeth orau i'ch helpu chi i ddeffro yn y bore. Mae'r croeso yn un cynnes, felly ymunwch â Rebecca bob bore rhwng 5 a 7 ar BBC Radio Cymru.
Hoffech chi fod yn aelod o Glwb Pobl Tywydd Rebecca? Cysylltwch â ni:
Ebost rhaglenrebecca@bbc.co.uk
Cyfeiriad
Rhaglen Rebecca
BBC Radio Cymru
Canolfan y BBC
Bryn Meirion
Bangor
LL57 2BY
Neu defnyddiwch y ffurflen hon:
Amserlen
Ar yr awyr nawr
06:00 Taro Nodyn
Rhys Jones, cerddoriaeth ysgafn, a bore Sul: cymysgedd heb ei ail.


