Cyfle da i chi ein helpu ni i godi arian ar gyfer Apêl Plant Mewn Angen 2011.
Gwefan Plant Mewn Angen 2011
CD Cân y Babis
Mi fydd cyfle i chi roi eich cynnig trwy'r dydd ar Radio Cymru heddiw, bydd y llinellau ffôn yn agor am 08:30 ac yn cau am 16:45. Yr unig ffordd i roi cynnig ydi drwy ffonio 03703 500 500. Ni fydd posib i chi roi cynnig ar e-bost na thrwy neges destun.
Pecyn Cwpan Rygbi'r Byd
Mae hwn yn cynnwys pêl rygbi Cwpan y Byd wedi ei harwyddo gan garfan Cymru, rhaglen y Rownd Gynderfynol yn erbyn Ffrainc wedi ei harwyddo gan y garfan a phoster o'r garfan wedi'i arwyddo o flaen llaw.
Cynnig llwyddiannus £370

Esgidiau peldroed Aaron Ramsey
Esgidiau peldroed Aaron Ramsey wedi eu harwyddo ganddo.
Cynnig llwyddiannus £400

Crys peldroed wedi ei arwyddo gan dîm Abertawe
Crys peldroed Joe Allen wedi ei arwyddo gan dîm Abertawe.
Cynnig llwyddiannus £350

Rhaglen wreiddiol o gêm Llanelli y Crysau Duon ym 1972
Rhaglen wreiddiol o'r gêm pan gurodd Llanelli y Crysau Duon ym 1972, rhaglen arall wedi ei llofnodi gan y tîm buddugol hwnnw a dau set o docynnau teulu y Scarlets..
Cynnig llwyddiannus £140

Tri Tenor Cymru yn coginio a chanu
Tri Tenor Cymru yn coginio pryd tri chwrs a chanu yn eich cartref. Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins. (lan hyd at 8 o bobol)
Cynnig llwyddiannus £1000

Diwrnod i'r teulu yng Nghanolfan y Llu Awyr Y Fali
Diwrnod i'r teulu yng Nghanolfan y Llu Awyr Y Fali, Ynys Mon..
Cynnig llwyddiannus £200

Englyn gan y prifardd Rhys Iorwerth
Englyn ar gyfer achlysur arbennig gan y prifardd Rhys Iorwerth.
Cynnig llwyddiannus £85

Cân gan Caryl Parry Jones
Cân wedi ei hysgrifennu ar gyfer achlysur arbennig gan Caryl Parry Jones.
Cynnig llwyddiannus £600
Diwrnod pysgota gyda Julian Lewis Jones
Diwrnod allan yn pysgota gyda Julian Lewis Jones.
Cynnig llwyddiannus £270
Arwydd Cwmderi
Arwydd Cwmderi wedi ei arwyddo gan holl gast Pobl y Cwm.
Cynnig llwyddiannus £150

Poster wedi ei arwyddo gan Mason Ryan
Poster wedi ei arwyddo gan y resliwr Mason Ryan.
Cynnig llwyddiannus £50

Safle carafan yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012
Safle carafan efo trydan yn maes Carafanio Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 gwerth £250.
Cynnig llwyddiannus £210

Dwy noson gwely a brecwast
Dwy noson gwely a brecwast i gwpl yng ngwesty'r Kings Head yn Llanymddyfri.
Cynnig llwyddiannus £180
2 docyn i weld Alfie Boe yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2012
Bydd Alfie Boe, sydd fwyaf adnabyddus am bortreadu Jean Valijean yn y sioe gerdd Les Misèrables, yn perfformio ar lwyfan Llangollen am yr eildro ar nos Iau 5 o Orffennaf. Seren Broadway a'r West End fydd hefyd yn lansio'r gystadleuaeth corau sioe yn ogystal a pherfformio gyda'i fand (7.30pm).
Cynnig llwyddiannus £110
Dennis O'Neill
4 tocyn i weld Dennis O'Neill yng Nghapel Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Nos Iau, Tachwedd 24ain am 7:30pm.
Cynnig llwyddiannus £25
Geraint Thomas
Geraint Thomas y beiciwr, crys gwyn enillodd Geraint yn y Tour de France 2011 wedi ei lofnodi.
Cynnig llwyddiannus £425
Rhif ffôn yr ocsiwn
Mi fydd cyfle i chi roi eich cynnig trwy'r dydd ar Radio Cymru heddiw, bydd y llinellau ffôn yn agor am 08:30 ac yn cau am 16:45. Yr unig ffordd i roi cynnig ydi drwy ffonio 03703 500 500. Ni fydd posib i chi roi cynnig ar e-bost na thrwy neges destun.
Rhifau ffôn Plant Mewn Angen
Rhifau ffôn Plant Mewn Angen os ydi bobl yn dymuno rhoi pres:
8am - 7pm: 029 2032 1000
7pm - 2am: 0345 733 2233
(Y rhifau ffôn yma yn weithredol Ddydd Gwener yn unig)
Telerau ac Amodau Arwerthiant Plant Mewn Angen Gorsafoedd Radio'r BBC.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Rhys Meirion
Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.
