John ac Alun
Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf
Ar yr awyr nesaf: Dydd Sul, 6 Rhag 2009, 22:02-00:00
Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf
Y ddau o Ben Draw'r Byd, John Jones ac Alun Roberts, sydd yma bob nos Sul yn cyflwyno cymysgedd unigryw o gerddoriaeth a sgwrs. Rhaglen hwyliog gyda'r ddeuawd o Ben Llŷn.
John ac Alun yn cwrdd â Duffy
Mae'r gantores ifanc Duffy, sy'n wreiddiol o Nefyn ym Mhen Llŷn, wedi cael llwyddiant ysgubol yn ystod 2008, gyda'i sengl 'Mercy' yn cyrraedd brig y siartiau Prydeinig. Pan ddychwelodd i'w hardal leol i berfformio yn ngŵyl Wakestock, aeth John ac Alun i gwrdd â hi am sgwrs.


