Advertisement
Dewi Llwyd

Dewi Llwyd ar Fore Sul

Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf

Ar yr awyr nesaf: Dydd Sul, 13 Rhag 2009, 08:31-10:00

Mae'n wyneb cyfarwydd ar raglen Newyddion BBC Cymru, fel cyflwynydd a reffari ar raglen drafod Pawb a'i Farn ac ar raglenni materion cyfoes eraill yn y gorffennol fel Taro Naw, Maniffesto a Manylu. Ond ar foreau Sul fe fydd Dewi Llwyd yn cadw cwmni i wrandawyr BBC Radio Cymru.

"Amser i ymlacio gyda'r papurau yw bore Sul i lawer ac fe fydd y rhaglen yn sicr yn ceisio bod yn eitha hamddenol," dywed. "Mi fyddai i a'r gwesteion yn pori dros gynnwys y papurau ac yn trafod rhai o ddigwyddiadau mawr y penwythnos, ond fe fydd yna le hefyd i'r digri yn ogystal a'r difyr a'r difrifol."

"Mae gen i ddiddordeb aruthrol mewn chwaraeon felly bydd hi'n braf cael trafod y tudalennau ôl hefyd."

Fe fydd y rhaglen hefyd yn cynnig rhagflas o'r wythnos sydd i ddod ar deledu, radio, ar lwyfan ac ym myd y llyfrau yn ogystal ag adolygiad o ambell sioe, drama, neu raglen sydd eisoes wedi ymddangos.

Mae Dewi yntau yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac er nad yw ar unrhyw gyfri'n gweld ei hunan fel cyw-DJ mae'n edrych ymlaen at gael chwarae caneuon ar y rhaglen.

"Bydd gen i amrywiaeth dda o ran y gerddoriaeth a dwi'n gobeithio bydd 'na rywbeth yno at ddant pawb."

Bob wythnos fe fydd yn croesawu gwestai i'r stiwdio am sgwrs ychydig yn wahanol i'r hyn y mae wedi arfer ag o.

"Mi gai gyfle i holi mewn modd sydd fymryn wahanol i holi pigog y newyddiadurwr, a dwi'n edrych ymlaen yn arw at sgwrs ddifyr bob bore Sul."


Amserlen

Ar yr awyr nawr

23:02 C2: Hefin Thomas

Dwy awr ola darlledu'r dydd yng nghwmni Hefin Thomas.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.