Cystadleuaeth Stori Fer Taliesin a BBC Radio Cymru

cystadleuaeth stori fer

Eleni bydd BBC Radio Cymru mewn cydweithrediad â'r cylchgrawn llenyddol Taliesin yn cynnal cystadleuaeth sgwennu stori fer i ddathlu penblwydd y cylchgrawn yn 50 oed.

Gwobr o £1000 i'r enillydd + Cyfle posib i glywed darllediad o'r gwaith buddugol ynghyd â gweld ei gyhoeddi

Dyddiad Cau: 5pm ddydd Llun 12 Tachwedd 2012

Gwobr: £1000

Nifer Geiriau: Hyd at 5,000 o eiriau

Dylid anfon ceisiadau at: storifer@bbc.co.uk

Wrth anfon cais mae ymgeiswyr yn derbyn Telerau ac Amodau'r gystadleuaeth sydd i'w gweld ar wefan BBC Radio Cymru.

Panel Beirniadu

Mihangel Morgan - Cadeirydd y panel

Lowri Davies - (Golygydd Rhaglenni Cyffredinol BBC Radio Cymru)

Siân Melangell Dafydd (Golygydd Cylchgrawn Taliesin)

Angharad Elen (Golygydd Cylchgrawn Taliesin)

Cyhoeddir y stori fuddugol yng nghylchgrawn Taliesin, Gwanwyn 2013 a threfnir i'r stori fuddugol gael ei darlledu ar BBC Radio Cymru yn ystod y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org

Sut i Gystadlu:

Derbynir ceisiadau tan : 5pm ddydd Llun 12 Tachwedd 2012

Anogir cystadleuwyr i yrru eu ceisiadau ar e-bost: storifer@bbc.co.uk

Darllenwch y Telerau a'r Amodau yn drylwyr i wneud yn siwr bod yr awdur a'i waith yn gymwys i gystadlu. Drwy gynnig, cymerir yn ganiataol eich bod yn derbyn y Telerau a'r Amodau yn llawn.

  • Un cynnig dderbynir gan bob cystadleuydd
  • Rhaid i bob cynnig fod yn Gymraeg
  • Rhaid i bob cynnig fod yn waith gwreiddiol y cystadleuydd ac heb ei gyhoeddi o'r blaen.
  • Caniateir uchafswm o 5,000 o eiriau.
  • Rhaid i bob cynnig fod wedi ei deipio (yn ddelfrydol - Font: Arial, 12pt, inc du, gofod dwbl rhwng y llinellau).
  • Dylai blaenddalen y stori nodi manylion y stori a nifer y geiriau.
  • Dylid gyrru'r stori ar ffurf dogfen Microsoft WORD (.doc neu .docx) gydag enw'r awdur yn rhan o enw'r ffeil, fel yn yr enghraifft ganlynol: Stori Fer - TH Parry-Williams.
  • Rhaid gyrru ffurflen gais gyda phob cynnig.
  • Agorwch y ddogfen PDF uchod gan lenwi eich manylion ym mhob blwch. Safiwch y ddogfen drwy glicio File/Save As gydag enw'r awdur yn nheitl y ffeil, fel yn yr enghraifft ganlynol: Ffurflen Gais - TH Parry-Williams. I sicrhau bod y wybodaeth wedi ei gadw yn gywir ganddoch chi, caewch y ffurflen PDF a'i hail-agor cyn ei gysylltu i'r e-bost.
    *i gael y fersiwn ddiweddara o Adobe Reader ewch i: http://get.adobe.com/uk/reader/
  • Dylai pob cynnig e-bost felly gynnwys dwy ddogfen - y stori (WORD) a ffurflen gais (PDF).
  • E-bostiwch eich cynigion at: storifer@bbc.co.uk
    neu Stori Fer, Ystafell 2001, BBC, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.