Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf
Ar yr awyr nesaf: Dydd Sadwrn, 2 Meh 2012, 09:03-10:00
Dewch i brocio'r cof yng nghwmni John Hardy, wrth i ni edrych ar bob agwedd o fywyd, gŵyl a gwaith trwy archif, sgwrs a chân.
"Yr hyn sy'n arbennig am Cofio yw ein bod yn dod ag ambell i edau o'r gorffennol ac yn ei weu at ei gilydd gan roi'r presennol yn ei gyd-destun a gwneud i ni gofio pa mor ffidys ydan ni," esbonia John.
"Mae sawl cyfweliad yn aros yn y cof ond dwi'n cofio un hen wreigan oedd wedi tystio'r crogi cyhoeddua olaf yn Aberhonddu pan oedd hi'n ferch fach ddeng mlwydd oed. Mae'n amhosib dychmygu'r fath ddigwyddiadau tan i chi glywed yr hanes o lygad y ffynnon, ac yna daw'r cyfan yn fyw.
"Mi ydan ni'n cael dipyn o ymateb i'r rhaglen. Ddaru rhywun ffonio y diwrnod o'r blaen yn dweud ei fod wedi clywed ei daid ar y rhaglen. Doedd dim syniad ganddo fod ei daid wedi recordio'r darn ac yn amlwg mae hynny'n beth braf.
"Yn bersonol, do'n i erioed wedi clywed fy nhaid yn siarad Saesneg a dyma ni'n dod ar draws darn lle roedd o'n darlledu yn Saesneg a doedd gennai ddim syniad am ei fodolaeth o.
"Ar Cofio, cawn gyfle i fwrw ychydig o oleuni ar yr archif sydd gynon ni yng Nghymru gan roi'r siawns i bobl ail glywed rhai o'r clasuron. Maen nhw gyd yn hel llwch ac mae'n dda'u bod nhw'n cael gweld golau dydd eto."
Hanes
Dyma ddiwrnod: Sioe Gorllewin Gwyllt
Ym 1903 cyrhaeddodd Gorllewin Gwyllt America Gymru ym mherson Buffalo Bill a'i sioe oedd yn ymweld â gwahanol rannau o'r wlad yn cynnwys Caerdydd.
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Rhys Meirion
Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.
