Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012

Wedi'n geni i'r gêm

Rhaglenni BBC Radio Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012.

Gwener - 16

Post Cyntaf (0630 - 0830)
Yn cyflwyno o westy Nos Da ac yn trafod dylanwad Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Gaerdydd.

Dafydd a Caryl (0830 - 1030)
Dafydd Du a Caryl Parry jones yn sgwrsio gyda Gerald Davies a Gareth Charles.

Geraint Lloyd (1400 - 1700)
Bydd Geraint Lloyd yn sgwrsio efo Delme Owens, tad Ken Owens.

Yn y Ryc (1800 - 1830)
Gareth Charles a'i westeion Dafydd Emyr a Bethan Gwanas â golwg hwyliog ar Bencampwriaeth y 6 Gwlad. Cawn glywed hanes Gareth Rhys Owen 'tu ôl y llenni' yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod gem Cymru a'r Eidal y penwythnos diwethaf.

Sadwrn - 17

Post Cyntaf (0800 - 0830)
Rhodri Llywelyn a Gwenllian Grigg yn cyflwyno.

Caryl (1230 - 1400)
Caryl Parry Jones yn cyflwyno'n fyw o'r Mochyn Du yng Nghaerdydd ac yn sgwrsio gyda chefnogwyr cyn y gêm.

Camp Lawn (1400 - 1800)
Cymru v FFrainc (KO 1445) gyda Eleri Sion a'i gwestai arbennig Dwayne Peel. Cennydd Davies, Emyr Lewis a Gareth Davies yn sylwebu.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

09:03 Richard Rees

Kevin Davies yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.