Advertisement
Beti George

Gwrandewch ar y rhaglen ddiweddaraf

Ar yr awyr nesaf: Dydd Iau, 3 Rhag 2009, 13:15-14:00

Beti a'i Phobol

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru.

Mae yna ddidwylledd ac agosatrwydd arbennig yn perthyn i'r gyflwynwraig Beti George. Ac mae'n sicr taw'r rhinweddau yma sy'n gwneud i bobol ymlacio a theimlo mor gyfforddus yn ei chwmni wrth rannu rhai o'u profiadau mwyaf dirdynnol ar raglen Beti a'i Phobol.

"Dwi'n credu 'mod i'n berson sy'n teimlo i'r byw wrth glywed pobol yn son am y treialon sy'n eu hwynebu a shwd maen nhw wedi goresgyn yr anawsterau," esbonia Beti.

Dwi'n credu 'mod i'n berson sy'n teimlo i'r byw wrth glywed pobol yn son am y treialon sy'n eu hwnebu

"Mae'r gwesteion yn aml wedi gorfod wynebu dewisiadau anodd, ymladd afiechyd neu ddygymod a cholled a daw'r dagrau'n aml wrth gyfweld a nhw. Yn rhyfedd iawn mae nhw'n gryfach na fi, am eu bod nhw'n gorfod bod.

"Gobeithio hefyd fod gwrandawyr sy'n wynebu'r un anawsterau yn medru cael rhywfaint o oleuni ar eu sefyllfa a chryfder wrth glywed am brofiadau tebyg i'w rhai nhw.

"Dwi'n mwynhau'r gyfres yn fawr iawn ac wedi cael cyfle i gyfweld a Chymry mor amrywiol yn cynnwys arwyr o'r byd chwaraeon, beirdd, cantorion...mae'r rhestr yn ddiddiwedd."

Mae'n wir dweud fod Beti wedi cwrdd â'r rhan fwyaf o arwyr ein cenedl ond petae hi'n cael holi unrhyw un o gwbl, mewn unrhyw iaith, pwy fyddai hwnnw neu honno tybed?

"Baswn i wrth fy modd yn gwahodd ambell i brif weinidog o lywodraeth San Steffan ar y rhaglen a chael cyfle i'w croesholi nhw'n iawn and dwi ddim yn siwr pa mor barod fydden nhw i dderbyn y gwahoddiad!"


Amserlen

Ar yr awyr nawr

22:02 C2: Huw Stephens

Huw Stephens yn cyflwyno'r gerddoriaeth newydd orau o Gymru a thu hwnt.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.