Pigion - 17 Hydref 2011

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

17 Hydref 2011


Yn y Ryc - Sam Warburton

blaenasgellwr
flanker
maeddu
to beat
ar y fainc
on the bench
canmol
to praise
edmygu
to admire
pwyllog
careful
o gwmpas ei bethau
in control
cadarn
solid
uchel ei gloch
loud/self important
ar flaen y gad
leading the fight

"....efo siom bore Sadwrn. Dw i'n siwr ein bod ni i gyd yn hynod o falch o'r hogia. Roedd undeg pedwar Cymru'n llawer gwell na pymtheg Ffrainc, yndoeddden nhw? A dw i'n siwr ein bod ni gyd hefyd yn teimlo dros Sam Warburton. Doedd hi ddim yn gardyn coch , nac oedd hi? A dydy Sam Warbuton ddim yn chwaraewr budr o gwbl. Gaethon ni glywed dipyn am sut berson ydy Sam ar 'Yn y Ryc' pan fuodd Dot Davies yn sgwrsio efo Gwyn Morris, oedd yn arfer bod yn athro ymarfer corff ar Sam. "

Gaynor Davies - Neighbours

nain
mamgu
y gyfres
the series
y cyfnod
the period
tynnu llun
to take a photograph
cefnigenus
jealous
werth pres
valuable

"Wel dyna fo, gobeithio bydd hogia Cymru yn medru codi eu hunain a dangos i'r byd be maen nhw'n medru ei wneud yn erbyn Awstralia dydd Sadwrn nesa. Mynd â ni i Awstralia wnaeth Gaynor Davies ddydd Sul, yn ôl i Mil Naw Wyth Naw pan oedd y rhaglen 'Neighbours' yn boblogaidd iawn. Un o ffans mwya'r rhaglen oedd Sian Peacock o Langefni oedd yn 9 mlwydd oed yn Mil Naw Wyth Naw. Roedd gan nain Lois deulu yn byw yn Awstralia, yn agos at set Ramsey St. Mi aeth Lois a'r teulu i ochr arall y byd a chael mynd ar y set a chyfarfod â sêr y rhaglen... "

Nia Roberts - Aled Hall

dyfarnwr
referee
taflu ar y domen
throw on the heap
twlu
taflu
defnydd
material
melfedaidd
velvet-like
dan fy nghroen i
under my skin
methu'n lan
can't for the life of me

"Dach chi'n cofio'r rhaglen 'na ers stalwm - Room 101 - pan oedd pobl yn dewis rhoi be oeddden nhw ddim yn ei licio yn yr ystafell honno? Mae Nia Roberts yn gwneud rhywbeth tebyg ar ei rhaglen hi ac yn gofyn i bobl enwog be fasen nhw'n ei daflu ar y domen? Be fasech chi'n ei ddewis - dyfarnwr rygbi o Iwerddon falle? Tro un o Dri Tenor Cymru, Aled Hall, oedd dewis yr wythnos yma... "

Dafydd a Caryl - Paul McCartney

hynod
remarkable
yn llwyr
totally
aelod
member
cyfieithiad
translation

"Hmm, dipyn bach gormod o wybodaeth yn fan'na Aled. Wel mae Paul McCartney wedi priodi ei gariad o, ac mi roedd lluniau'r ddau hapus ar dudalennau blaen y papurau newydd wythnos diwetha. Roedd hyn yn ddigon o esgus i finnau a Caryl sôn am ganeuon y Beatles efo Euron Griffiths ddydd Mercher. Wel, be wnaethon ni a dweud y gwir, oedd gwrando ar ambell i fersiwn o ganeuon y Beatles, ac mi gaethon ni rai diddorol iawn... "

Huw Stephens - Bethan Elfyn

dewis cerddorol
musical choice
darganfod
to discover
dim modd
dim yn bosib
chwyldro
revolution
ymgolli
to lose yourself
gyfaill
ffrind
y Cyngor Celfyddadau
The Arts Council
rhwymo
to bind
gwallgo
made
arddegau
teenage years

"Dwedwch y gwir rwan, p'run oeddech chi'n licio ora - y fersiwn o Japan ta fersiwn yr anifeiliaid? Ia, finna hefyd...Gaethon ni ddau DJ am bris un ar raglen Huw Stephens nos Lun wrth i Huw sgwrsio efo Bethan Elfyn am ei hoff recordiau hi. Aeth Bethan â ni yn ôl i mil naw naw dau, ac i gân arbennig gan Ifor ap Glyn a'r band Llwybr Llaethog... "

Geraint Lloyd - Parot

cefndir
background
torri ar draws
to interrupt
chwerthin
to laugh
gwatsiad
edrych
dweud pethau mawr
to swear
pobl ddiarth
strangers/visitors
sdim dal
there's no telling
yn ei gwsg
in his sleep

"Mae Caryl a finnau yn aml iawn yn cael sgwrs ar y ffôn efo gwrandawyr, a dan ni weithiau'n clywed sŵn yn y cefndir. Babi, plentyn neu ffrindiau swnllyd sy 'na fel arfer, ond sŵn gwahanol iawn oedd yn torri ar draws sgwrs Geraint Lloyd ac Eluned Williams ddydd Llun - sŵn parot... "

Eleri Sion - Dafydd Davies

Pencampwr
champion
mynychu
to attend
mab fferm
farmer's son
olwyn
wheel
yn hytrach
rather
ifanca
fenga
berwi
to boil
menyw
dynes
cyfuno
to combine

"Erbyn yr adeg hyn yr wythnos nesa mi fyddwn ni'n gwybod pwy ydy Pencampwyr Rygbi'r Byd. Er be ddigwyddodd yn SEland newydd, rhaid i ni beidio ag anghofio bod gynnon ni nifer o bencampwyr yma yng Nghymru. Mi gafodd Eleri Sion sgwrs efo un ohonyn nhw nos Fercher. Dafydd Davies o Bonthirwaun, wrth ymyl Aberteifi ydy'r enw a dim ond deuddeg oed ydy. Rasio beiciau ""quad"" ydy ei gamp ac fel y raswyr eraill fel Lewis Hamilton a Jenson Button, mae o'n hoff iawn o gael merched del o'i gwmpas..."

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Rhys Meirion

Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.