Advertisement

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Beth yw podlediad?

Cofio - Grav

yn ei chôl
in her lap
ar fy ngliniau
on my knees

Y llynedd bu farw Ray Gravell, oedd yn gyn-chwaraewr rygbi dros Gymru ac oedd hefyd yn gwneud llawer o waith i Radio Cymru. Ar Cofio yr wythnos diwethaf cawson ni flas ar gymeriad arbennig Grav wrth iddo fe fynd am dro i dafarn y Red Lion yn Llandyfaelog. Roedd e yno i gwrdd â Harri - y ci oedd yn gallu canu. Dych chi ddim yn fy nghredu i? Wel gwrandwch ar hyn - Harri yn canu 'penblwydd hapus' i Monique.

Jonsi - gwyliau

Arglwydd mawr!
Good Lord!
hanner y ddynas
half the woman
yn boethach byth
even hotter
y fenga
yr ifanca

Dych chi wedi trefnu eich gwyliau eto? Chi'n edrych ymlaen at y tywydd braf a'r bwyd a'r diod gwahanol? Wel dydy pawb ddim mor hawdd i'w plesio. Dyma Jonsi ddydd Mercher yn siarad gyda Elizabeth Griffiths o Benmachno am ei gwyliau hi.

Nia - amlosgfa

amlosgfa
crematorium
menyw
dynes
faint o alw?
how much of a demand?
casglu'r llwch
collect the ashes
bob yn ail
every other
crochen
urn
gwasgaru
to disperse

Oes anifeiliaid anwes gyda chi? Os oes, dw i'n siwr bod lle arbennig iddyn nhw yn eich bywyd chi. Clywon ni ar raglen Nia fore Mercher bod llawer iawn o bobl y dyddiau hyn yn mynd a'u hanifeiliaid i'r amlosgfa ar ôl iddyn nhw farw. Buodd Nia yn siarad gyda Michawl Watts o Cross Hands sy'n rhedeg amlosgfa arbennig i anifeiliaid anwes.

Eleri a Daf - Cadw'n heini

cadw'n heini
to keep fit
nôl ymlaen
back and forth
ymdrech
effort
taflu
to throw

Beth dych chi'n feddwl o'r rhein fel syniadau cadw'n heini- brwsio dannedd am hanner awr, sychu eich gwallt a newid sianeli ar y teledu? Dyna tua dau gant o galoriau yn ôl Guto Williams ar raglen Eleri a Daf fore Mawrth. I fod yn deg, mae e'n dweud hefyd dylech chi wneud dipyn yn fwy na hynny os am gadw'n heini...

Dewi Llwyd - Emyr Wyn

mewn bodolaeth
in existence
cyfweliad
interview
diflannodd
he disappeared
darlledu
to broadcast

Mae'r actor Emyr Wyn wedi bod ar llawer iawn o raglenni teledu. Ond mae'n bosib bydd llawer ohonoch chi yn ei nabod fel Dai Scaffaldau o Bobol y Cwm. Ar raglen Dewi Llwyd dydd Sul clywon ni am yr adeg pan ddaeth Dai yn ôl i Gwm Deri ar ôl bod i ffwrdd am undeg wyth o flynyddoedd.

Cofio - Ceffyl

esgeulus
negligent
cnydau
crops
gambo
cart
sboner
cariad
dadlwytho
unload
arferiad
habit
llwyr ymwrthodwr
tee-totaller
cath mas o'r cwd
cat out of the bag

Mae na ddywediad Cymraeg ' gan y gwirion ceir y gwir' a gwirion yn yr ystyr 'innocent' nid 'silly'. Wel dyma brofi'r dywediad hwn yn stori hon gan Nansy Selway o Benderyn yn dweud hanes ei thad. Doedd e, yn ôl pob sôn, ddim yn yfed alcohol. Ond os felly, pam oedd ceffyl ei thad wastad yn stopio wrth y dafarn ar y ffordd yn ôl o'r farchnad?

Blas - Wisgi'r Bala

diferyn
a drop/sip
buddsoddi
to invest
addas
suitable
diwestwyr
temperance movement
liw nos
dark of night
haidd
barley
penderfynol
determined
aeddfedu
to mature
cyflogi
to employ
methdalwr
bankrupt

Gymerwch chi wisgi bach yn y Bala adeg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni? Oeddech chi'n gwybod bod wisgi malt sengl wedi cael ei wneud a'i botelu yn y Bala flynyddoedd yn ôl? Wel na, don i ddim yn gwybod chwaith, nes i mi glywed Mair Penri o'r Bala yn sôn am yr hanes ar 'Blas' fore Sadwrn. Dyma ddiferyn bach o'r sgwrs i chi...

Amserlen

Ar yr awyr nawr

10:30 Nia

Busnesu a sgwrsio, chwerthin a chrio - y cyfan ar raglen newydd Nia.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.