Cacen Siocled Jonsi
Os ydach chi'n mwynhau cacen siocled, mi rydach chi yn y lle iawn!
29 Medi 2008
Cacen Siocled Dorothy Williams
Ar ddydd Mawrth Ionawr 27, sef Diwrnod Cenedlaethol y Gacen Siocled fe gafodd Jonsi sgwrs gyda Dorothy Williams o Lambed sy'n arbenigwraig ar wneud cacennau siocled, a dyma ei rysáit hi am gacen siocled perffaith!
Cynhwysion
- 5 owns/125g o flawd codi (self raising)
- 1 owns/25g o bowdwr siocled
- 6 owns/150g o siwgr brown neu caster
- 4 owns/100g margarine neu fenyn
- 2 wy
- Ychydig o laeth
Dull
- Cymysgwch y cyfan a'i roi mewn tun yn y popty ar 180 C am dri chwarter awr.
- Tynnwch y tun allan a gadael iddi oeri.
- Toddwch siocled a'i roi dros dop y gacen.
- Neu, torrwch y gacen yn ei hanner a rhoi hufen ffres yn y canol.
- Mwynhewch!
Os oes ganddoch chi rysáit cacen siocled - cysylltwch â'r rhaglen!
Cacen Siocled Jonsi
Cynhwysion
- 275g blawd plaen
- 3 llwy fwrdd o bowdr coco
- 11⁄2 llwy de o soda pobi
- 11⁄2 llwy de o bowdr codi
- 215g siwgr mân
- 3 llwy fwrdd o driog melyn
- 3 ŵy wedi'u curo
- 225ml olew blodau'r haul
- 225ml llefrith
Eisin
- 450g siocled plaen - mewn darnau
- 200g menyn heb halen
Ffordd Jonsi
- Ira 2 dun 20cm crwn a'u leinio efo papur pobi. Cynhesa'r popty i 160C/325F/Marc Nwy 3.
- Hidla'r blawd, y powdr coco, y soda pobi a'r powdr codi i bowlen fawr. Ychwanega'r siwgr. Cymysga'r cyfan yn dda.
- Gwna dwll yng nghanol y cynhwysion ac ychwanega'r triog melyn, yr wyau, yr olew a'r llefrith. Cymysga dda efo llwy bren cyn tywallt y gymysgedd i'r tuniau.
- Coginia am tua 35 mun, tan fod y cacennau wedi codi - yna rho nhw i oeri. Torra'r cacennau yn eu hanner drwy'r canol.
- Rho'r siocled mewn powlen dros sosban o ddˆwr berwedig. Ychwanega'r menyn unwaith y bydd y siocled wedi toddi.
- Rho'r eisin rhwng haenau'r gacen cyn tywallt y gweddill dros y gacen gyfan. Defnyddia gyllell i lyfnhau'r eisin.
- Rho dy draed i fyny - a mwynha!


