1. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y Deyrnas Gyfunol, yn cynnwys Ynysoedd y Sianel ag eithrio'r rhai sy'n gweithio i'r BBC, eu perthnasau ac unrhyw un sy'n gysylltiedig a'r gystadleuaeth.
2. Gellir cystadlu drwy ffonio y rhif yma: 03703 500 500. Dim ond ar y ffôn y bydd modd cystadlu. Bydd côst galwadau yn unol a chyfraddau daearyddol a gallai galwadau gael eu cynnwys ym mhecyn galwadau eich darparwr telecom. Gall côst galwad o ffôn symudol fod yn fwy.
3. Bydd y gystadleuaeth, fel arfer, yn cael ei chynnal yn ddyddiol ar raglen Jonsi Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 2.00pm a 5.00pm. Bydd modd cystadlu rhwng 2.00pm a phan fydd y cystadleuydd olaf wedi ei ddewis. Y gystadleuaeth yw dyfalu gair neu eiriau coll mewn brawddeg sy'n cael ei hadrodd gan berson adnabyddus. Er mwyn cael dyfalu beth yw'r gair coll, bydd rhaid i'r sawl sy'n galw ateb cwestiwn yn gywir ar bwnc sydd yn y newyddion y diwrnod hwnnw. Bydd cwestiwn gwahanol yn cael ei osod bob dydd. Bydd y gwrandawyr sydd wedi ateb y cwestiwn gwybodaeth gyffredinol yn gywir, o bosib, yn cael cyflwyno eu hymgais ar gyfer gair coll y frawddeg ar y rhaglen.
4. Bydd cystadleuwyr yn cael eu dewis i fynd ar y rhaglen ar y sail eu bod yn gallu sgwrsio yn ddifyr gyda Jonsi ar yr awyr.
5. Bydd rhaid i bob cystadleuydd roi eu henw, cyfeiriad a rhif ffôn. Ni fydd y BBC yn defnyddio gwybodaeth bersonol i unrhyw bwrpas arall heblaw gweinyddu'r gystadleuaeth. Ni fydd y BBC yn cyhoeddi manylion personol nag yn eu darparu i unrhyw un arall heb ganiatad yr unigolyn dan sylw.
6. Dim ond un ymgais y dydd fydd yn cael ei derbyn gan bob cystadleuydd.
7. Yr enillydd yw'r cystadleuydd cyntaf i gael ei ddewis i fynd ar yr awyr - ar ôl ateb y cwestiwn gwybodaeth gyffredinol yn gywir - a dyfalu'n gywir beth yw'r gair neu eiriau coll yn fyw ar yr awyr. Mae'n rhaid i'r ymgais lwyddianus gyfateb yn union i'r gair neu eiriau coll.
8. Bydd y gwobrau yn amrywio mewn gwerth, gan ddechrau gyda nwyddau gwerth £100 hyd at gyfanswm nwyddau gwerth £500. Bydd gwerth y gwobrau yn cynyddu fesul £10 ar ol pob ymgais anghywir. Bydd yr enillydd yn cael dewis nwyddau sy'n cyfateb i'r cyfanswm fydd wedi ei gyrraedd pan fyddent ar y rhaglen. (Gweler manylion pellach isod).
9. Os nad ydi'r enillydd yn dewis gwobr sy'n union y gwerth hwnnw, ni fydd modd talu'r gwahaniaeth. Ni fydd modd dewis eitem sy'n werth mwy na'r swm gyrhaeddwyd ar yr awyr. Dim ond un eitem fydd yr enillydd yn cael ei ddewis. Pe bydd yr enillydd o dan 16 bydd angen cydsyniad y rhieni.
10. Bydd y gwobrau ar gael o gatalog gan ffynhonell sy'n dderbyniol gan y BBC. Bydd amrywiaeth eang o nwyddau ar gael.
11. Bydd yr enillydd yn cael pythefnos i ddewis gwobr a hysbysu'r BBC o'u dewis. Bydd y nwyddau yn cael eu danfon at yr enillydd.
12. Mae penderfyniad y BBC ynglŷn â phwy yw'r enillydd yn derfynol. Ni fyddwn yn llythyru ynglŷn a'r penderfyniad.
13. Os nad oes modd cysylltu a'r enillydd yna mae'r BBC yn neilltuo'r hawl i gadw'r wobr.
14. Gall cystadleuwyr wrthod bod yn rhan o unrhyw gyhoeddusrwydd sydd ynghlwm wrth y gystadleuaeth.
15. Ni fydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael cystadlu eto am gyfnod o 6 mis.
16. Mae'r BBC yn neilltuo'r hawl i newid neu ganslo'r gystadleuaeth pe byddai angen gwneud hynny (ym marn y BBC) neu oherwydd amgylchiadau tu hwnt i reolaeth y BBC.
17. Drwy gystadlu bydd cystadleuwyr yn derbyn ac yn ymrwymo i reolau'r gystadleuaeth.
18. Mae'r BBC yn neilltuo'r hawl i wahardd unrhyw gystadleuydd sydd dan amheuaeth o dwyllo.
Gwobrau
Byddwn yn cynnig gwobr o nwydd sy'n cynyddu'n ei werth hyd at yr uchafswm o £500. Bydd y wobr yn dechrau ar £100 ac yn cynyddu fesul £10 ar ol bob cynnig, hyd at yr uchafswm o £500.
Nwydd yw pob gwobr, ond nwydd hyd at y gwerth ariannol sydd wedi ei gyrraedd. Bydd y wobr yn rhewi ar £500 tan y bydd rhywun yn dyfalu yn gywir felly fydd dim nwydd sydd werth mwy na £500 ar gael. Dim ond ar ôl ennill y bydd y nwydd yn cael ei ddewis ac mi fydd yn amrywio yn ôl dewis personol yr enillydd.
Os nad ydi'r enillydd yn dewis gwobr sy'n union £300, ni fydd modd talu'r gwahaniaeth. Fydd dim modd dewis eitem sydd werth mwy na'r swm sydd wedi ei gyrraedd ar yr awyr. Mae nwyddau eang ar gael o ffynhonnellau cymeradwy gan y BBC.
Os na fydd y nwyddau ar gael o'r ffynonellau hynny mae modd defynddio cwmniau megis Argos, Tesco, Littlewoods neu gwmniau cyffelyb.
Ni fyddwn yn rhoi gwyliau, ceir nag anifeiliaid yn wobrau.


