Advertisement

Cacen Siocled 5 Munud


Cynhwysion


  • 4 Llwy fwrdd o flawd
  • 4 llwy fwrdd o siwgr
  • 2 lwy fwrdd o cocoa
  • 1 wy
  • 3 llwy fwrdd o laeth
  • 3 llwy fwrdd o olew
  • 3 llwy fwrdd o ddarnau siocled bach
  • Diferion o vanilla
  • 1 mwg coffi mawr

Dull

Ychwanegwch y cynhwysion sych i'ch myg coffi mwya a'i gymysgu'n dda. Ychwanegwch yr wy a'i gymysgu. Tywallt y llaeth ar olew a'u cymysgu. Ychwanegwch y darnau bach o siocled a'r vanilla, gan gymysgu'r cyfan.

Cacen Siocled

Rhowch eich myg yn y meicrodon a'i goginio am 3 munud ar 1000 watt (tymheredd uchel). Mi fydd y gacen yn codi dros ymyl y myg.

Cacen Siocled

Gadwch iddo oeri a'i roi ar blat.

Cacen Siocled

Bwytewch a byddwch lawen !! Ychwanegwch hufen ffresh neu hufen ia fel y dymunwch.

Cacen Siocled

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.