Rhaglenni

Cymru Werdd

26 Tachwedd 2009

Manylu - Dydd Llun 7 Rhag, 6pm

cymru werdd

Ar ôl yr holl drafod a'r paratoi, y dyfalu a'r darogan mae'r byd wedi ymgynull yn Copenhagen ar gyfer yr uwch-gynhadledd amgylcheddol. Yn y rhaglen arbennig hon o Manylu Rhun ap Iowerth sydd yn holi panel o arbenigwyr os ydi cytundeb yn bosib.

Gwrandewch ar BBC iPlayer

Manylu - Dydd Llun 30 Tach, 6pm

cymru werdd

Catrin Gerallt yn cyflwyno rhaglen arbennig o Manylu yn edrych ar sut allai'r gynhadledd yn Copenhagen effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.

Wrth i weinidogion amgylchedd o 192 o wledydd gwahanol geisio ffurfio cytundeb byd-eang i daclo newid hinsawdd, a ydyn ni'n fodlon talu'r pris?

Taro'r Post - Dydd Llun 30 Tach, 12pm

cymru werdd

Wrth i wleidyddion baratoi i deithio i Copenhagen i drafod newid hinsawdd a dyfodol y byd, ma Taro'r Post yn symud allan o'r stiwdio a dod yn fyw o Ysgol Uwchradd Botwnog ac yn gofyn i'r disgyblion yno pa mor wyrdd ydyn nhw.

Rhiannon, Hedydd ac Alice yn trafod pa mor wyrdd ydyn nhw

Drama Nhw - Dydd Sul 29 Tach, 2pm

cymru werdd

Drama ddadleuol wedi ei gosod ddeugain mlynedd yn y dyfodol yw Nhw gan yr awduron Nic Ros a Manon Steffan Ros.

Mae'r byd bellach yn dioddef o achos newid hinsawdd ac mae hynny o dir sydd ar ôl dan ei sang gyda phoblogaeth symudol.

Ceir cip ar drafferthion all wynebu ffermwyr y dyfodol wrth i Jo (Dewi Rhys) a Marian (Rhian Cadwaladr), amaethwyr o ogledd Cymru, geisio dygymod â'r newid yn ein byd.

Hefyd i ddod...

Dros yr wythnosau nesaf bydd rhaglen Nia hefyd yn edrych ar beth allwn ni ei wneud i gael Nadolig gwyrdd, Galwad Cynnar yn bwrw golwg ar y newid ym myd natur, Post Cyntaf yn mynd ar daith werdd o gwmpas Cymru ac C2 yn tanio ambell i drafodaeth gyda'r hwyr.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.