Advertisement

Sut i wrando ar Radio Cymru

Gallwch wrando ar Radio Cymru lle bynnag y boch yn y byd. Ac mae 'na sawl ffordd i wneud hynny.

02 Hydref 2008

Arlein

Mae gwasanaeth Radio Cymru ar BBC iPlayer yn rhoi cynnig arall i chi wrando ar raglenni Radio Cymru hyd at wythnos ar ôl y darllediad gwreiddiol. Gallwch hefyd wrando'n fyw.

Radio FM

Mae Radio Cymru'n cael ei ddarlledu ar donfeddi o 92 i 105 FM ar draws Cymru, gan gynnwys y brif drosglwyddyddion canlynol:

  • 93.1 MHz (Gorllewin Cymru)
  • 93.5 MHz (Canolbarth)
  • 93.7 MHz (De Orllewin Cymru)
  • 94.2 MHz (Gogledd Cymru)
  • 96.8 MHz (De Cymru)
  • 104.2 MHz (De Ddwyrain Cymru)
  • 104.3 MHz (Gogledd Ddwyrain Cymru)
  • 104.6 MHz (Canolbarth)
  • Rhestr lawn o holl donfeddi FM Radio Cymru

Radio Digidol (DAB)

Gallwch wrando ar Radio Cymru yn ddigidol gyda set radio DAB yn ardaloedd Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

Teledu Digidol Daearol (Freeview)

Mewn ardaloedd sydd â derbyniad Freeview, gallwch ddod o hyd i Radio Cymru ar sianel 720 (yng Nghymru yn unig). Gwiriwch eich bod yn gallu derbyn Freeview ar wefan Digital UK.

Teledu Lloeren Digidol

Mae Radio Cymru ar gael ar draws gwledydd Prydain ar loeren digidol, ar sianel 0154 (Sky) neu 715 (Freesat). Ni fydd angen tanysgrifiad na cherdyn gwylio i wrando ar yr orsaf.

Teledu Cebl

Gallwch wrando ar Radio Cymru trwy eich cysylltiad cebl digidol gan VirginTV (NTL gynt) -- trowch i sianel 936.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

17:00 Post Prynhawn

Y newyddion diweddara o Gymru a'r byd.

Amserlen llawn

Gwrando

BBC iPlayer

BBC iPlayer

Cyfle i fwynhau rhaglenni Radio Cymru o'r saith diwrnod diwethaf.

Mwy

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.