Dyma gofnod o enillwyr lwcus yng Nghystadleuaeth 'Y frawddeg'.Rhowch gynnig arni!
Brawddeg Meirion Macintyre Huws
" Dros y blynyddoedd, dwi wedi dod yn gyfarwydd a sawl math o......."
Ateb CywirFfont
EnillyddIwan Roberts o Nantglyn
Brawddeg Arwel Jones
"Ar ôl treulio'r rhan helaeth o fy mywyd ynghanol swn cerddoriaeth, mae'n rhaid i mi gyfaddef mae'r swn sy'n fy nghyffroi i fwyaf ydi swn ......."
Ateb CywirMwyalchen
EnillyddEirwen Jones, Y Bala
Brawddeg Courtenay Hamilton
"Pob tro i fi'n canu yn y stiwdio yn recordio ma'n raid i fi wisgo......."
Ateb CywirSlipers
EnillyddAngharad Lewis o Gaerdydd
Brawddeg Dylan Ebenezer
"Y lle mwya anhygoel dwi 'di gweld y sêr yn glir yn y nos, oedd ar ôl diodde toriad trydan ynghanol........"
Ateb CywirPARC CENEDLAETHOL YOSEMITE
EnillyddEuros Healy o Aberaeron
Brawddeg Dot avies
" Doe's dim llawer o bethau 'wi'n ei ofni, ond 'wi wirioneddol ofn........"
Ateb CywirCEILIOGOD
EnillyddHeledd Glyn, Ysbyty Ifan
Brawddeg Stifyn Parri
"Blynyddoedd maith yn ôl nes i ffeindio fy hun yn dawnsio ym mhriodas Catherine Zeta Jones, ag mi wnaeth fy llaw ddigwydd taro pen ol ........"
Ateb CywirGOLDIE HAWN
EnillyddGlenys Jones o Abergele
Brawddeg Arwel Wyn Roberts
"Diolch i gelwydd Mam a Dad, d'oeddwn i ddim yn ymwybodol nes oeddwn i yn fy arddegau, bod posib cael gwahanol fathau o ........"
Ateb CywirCIG
EnillyddAneurin Davies o Lanbed
Brawddeg Ffion Dafis
"Un Peth dwi'n ddifaru pan o ni yn blentyn bach oedd bod ar faes y Steddfod ac mi nes i wrthod rhoi sws i ........"
strong>Ateb CywirCALEB MIRI MAWR
EnillyddSian Vaughan Jones o Bontrobert
Brawddeg Mici Plwm
"Tom Mix, Lash Larue, Roy Rogers, Buck Jones, Kit Carson - dyna chi rai o gowbois poblogaidd o'm mhlentyndod - ond, heb os, fy ffefryn i oedd........"
Ateb CywirGABBY HAYES
EnillyddJohn Jones o Cemlyn, Ynys Môn
Brawddeg Meinir Gwilym
"T'aswn i'n medru, bob pryd bob dydd, mi faswn i'n bwyta........
Ateb CywirBRECHDAN GAWS A MAYONNAISE
EnillyddMargaret Hughes o Abererch
Brawddeg Chris Jones
"Dros yr ugain mlynedd diwethaf fi 'di gwneud bwletinau tywydd mewn ambell i le rhyfedd iawn, ond y lle rhyfedda, mae'n debyg, yw mewn...........
Ateb CywirCWRWGL
Enillydd Dafydd Jenkins o Lanelli
Brawddeg Sian Thomas
"Un o'r pethau anodda dwi di trio wneud erioed yw.........
Ateb Cywir DAWNSIO TAP
Enillydd Christine Rhisiart o Drawsfynydd
Brawddeg Alun Elidyr
Y peth pwysica yn fy mywyd i ydi Catrin, Elan a Mam - ond wyddoch chi be, dwi ddim yn credu fyswn i'n gallu byw yn hapus am hir heb...................
EnillyddElin Davies o Ysbyty Ifan
Brawddeg Annette Bryn Parri
Yr actores 'swn i wrth fy modd yn ei chyfarfod fydda....................
Ateb Cywir MERYL STREEP
Enillydd Arwel Jones o Benygroes
Brawddeg Elfed Morgan Morris
Pan oeddwn i'n blentyn, yr hyn oeddwn i'n ei gasau ei fwyta i ginio yn yr ysgol oedd ....................
Ateb Cywir RAVIOLI
EnillyddMelfyn Jones o Houston, Texas
Brawddeg Ifan Evans
Ers i mi ddechrau cyflwyno o'n i byth yn meddwl y bydde raid i mi ....................
Ateb CywirWAXIO FY NGHOESAU
EnillyddLiz Thomas o Bontarddulais
Brawddeg Alwyn Humphreys
Y diwrnod o'r blaen mi driais i rywbeth am y tro cynta erioed, a rwan dwi wrth fy modd efo ..................
Ateb Cywir PILATES
EnillyddSioned Jones o Dinmael ger Corwen
Brawddeg Nigel Owens
Cyn bob gem mi fyddai'n gwneud yn siwr fy mod i yn gwrando ar..................
Ateb CywirMOR FAWR WYT TI
EnillyddLyn Edwards o Drawsfynydd
Brawddeg Huw Stephens
Un o fy arwyr cynhara fi oedd Paul Daniels ag o'n i'n methu credu fy lwc pan nes i gwrdd ag e yn.................
Ateb Cywir PORT TALBOT
EnillyddEireen Stephens o Gwm Llynfell
Brawddeg Bethan Gwanas
Un peth dwi'n ei gasau ydi .......................
Ateb Cywir CACEN GOFFI
Enillydd Eryl Parry o Lanfair, Harlech
Brawddeg Morgan Jones
Heb ddweud wrth mam a dad, nes i gynilo 5 ceiniog o fy mhres poced bob wythnos, ac ar ol hanner blwyddyn oedd gen i ddigon i brynu______________"
Ateb Cywir CYLLELL BOCED
Enillydd Wil Phillips, Llansawel
Brawddeg Tudur Owen
Dim llawer o bethau sy'n codi ofn arna i, ond mae genai wir ofn____________"
Ateb Cywir CEFFYLAU
Enillydd Brenda Roberts, Llithfaen
Brawddeg Richard Lynch
Y lle mwya anghysbell 'wi di bod ynddo yw ______________"
Ateb Cywir SIKKIM
Enillydd Mary Roberts o Nant Peris
Brawddeg Gilian Elisa
Mae popeth yn wahanol pan dwi'n treulio'n amser yn y __________"
Ateb Cywir motorhome
Enillydd Les Evans o Bencader
Brawddeg John Hardy
Wrth grwydro'r byd ma yr embaras mwya ges i rioed, oedd cael fy nhaflu allan o __________"
Ateb Cywir Llysgenhadaeth Tunisia
Enillydd Nan Jones o Goedpoeth
Brawddeg Gareth Lewis
Mae mab i fab fy nghefnder i yn byw yn yr Alban, ac mae o'n __________"
Ateb Cywir Mynach
Enillydd Jen Eynon, Wrecsam
Brawddeg Daloni Metcalfe
Yr anrheg Nadolig orau ges i 'rioed oedd....""
Ateb Cywir Moch bach
Enillydd Doris Jones, Capel Isaac
Brawddeg Gareth Roberts
Yr un swn sy'n mynd dan fy nghroen i yw swn ........
Ateb Cywir Gwylanod
Enillydd Steffan Evans, Caerfyrddin.
Brawddeg Rhys Meirion
"Pan o'n i'n hogyn ysgol gynradd yn y 70au, un o'n arwyr pennaf i oedd...........
Ateb Cywir Stuart Pearson
Enillydd Sion Jones, Pwllheli
Brawddeg Mari Grug
"Un peth sy'n codi ofn arna i ar y teledu yw gweld ____________"
Ateb Cywir Llygoden Fawr
Enillydd Dewi Lewis, Llanddarog
Brawddeg Idris Charles
Y person mwyaf enwog erioed i mi ysgwyd llaw gyda oedd ...
Ateb Cywir Bob Hope
Enillydd John Lee, Rhostrehwfa
Brawddeg Nest Williams
Dw i'n mynd a nifer o bethau i ngwaith efo fi bob dydd, ond mae'n hanfodol mod i'n cofio...
Ateb CywirContact Lenses
EnillyddCynrig Hughes o Dalysarn
Brawddeg Dudley Newberry
Yn ddiweddar fe ges i brofiad annarferol iawn, nes i 'rioed ddychmygu y bydde'n i'n gorfod...
Ateb CywirLlyncu Tan
Enillydd Menna Lewis Griffiths o Landdewi Brefi
Brawddeg Steffan Rhodri
"Y lle cynta i mi berfformio dramor oedd yn ............... "
Ateb Cywir Roskilde (Tref yn Nenmarc ydi Roskilde)
Enillydd Catrin Alun o Bontlliw
Brawddeg Brawddeg Nia Parry
"Sa'm byd yn neud i mi wenu mwy na gweld ............... "
Ateb Cywir Enfys
Enillydd Owen Pritchard, Manceinion
Brawddeg Gary Slaymaker
""Dwi'n ffan o dim peldroed Caerdydd ac ar un adeg arbennig drois i lan i weld gem yn gwisgo............... "
Ateb Cywir Tuxedo
Enillydd Sion Wynne, Dinbych
Brawddeg Lucy Owen
"Mi ges i fy ngeni yng Nghaerdydd, ond roedd fy nhaid yn dod o ......."
Ateb Cywir Lithuania
Enillydd - Catrin Jones, Mynytho
Brawddeg Dylan Parry
'Pan oeddwn i'n gweithio yn Hong Kong flynyddoedd yn ol, ddaru mi gyfarfod a person oedd yn deud mai ei swydd ddiwetha fo oedd ......"
Ateb Cywir -Crogi
Enillydd - Dafydd Roberts, Llanfair, Harlech
Brawddeg Bethan Ellis Owen
'"Fydda i byth yn gadael y ty heb............"
Ateb Cywir -Dental Floss
Enillydd - Nesta Jones, Llandysul
Brawddeg Rhun ap Iorwerth
'"Gesh i sioc unwaith, pan ddaeth gwleidydd i'r stiwdio ar gyfer cyfweliad teledu, a be oedd on wisgo oedd" .........
Ateb Cywir -Crys Peldroed Manchester United
Enillydd - Trefor Huws, Windsford
Brawddeg Gwyneth Glyn
'"Y gan gynta i mi ddysgu'n hun i chwarae ar y gitar oedd" .........
Ateb Cywir -Blackbird
Enillydd - Alwena Jones, Porthmadog
Brawddeg Bryn Terfel
'Nes i wir fwynhau canu a pherfformio yn....'
Ateb Cywir - Margret River
Enillydd - Jean Williams, Abersoch.
Brawddeg Sian Lloyd
''Pan fyddai'n gweithio yn y stiwdio yma'n Llundain, yn gwneud y tywydd, 'wy'n prynu'r un peth pob amser cinio yn ddi-ffael, sudd oren fresh a ...."
Ateb Cywir - Sushi
Enillydd - Carys Davies, Caerfyrddin
Brawddeg Dewi Rhys
Yr anrheg mwyaf defnyddiol a gefais gan fy nghyfneither oedd....
Ateb Cywir- Set Ty bach
Enilydd- Gladys Jones o Gellilydan
Diweddaraf
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00 Rhys Meirion
Rhys Meirion fydd yn diddanu ar fore Sul gyda chaneuon clasurol gan gynnwys ei ffefrynnau personol a'i hoff artisitiaid.
