Bob wythnos mae gwrandawyr yn cael dewis o bedair cân. Fe wahoddir y gwrandawyr i bleidleisio am eu hoff gân. Wedi i'r pleidleisio gau, fe fydd y gân sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei chwarae, ar ei hyd, cyn ddiwedd y rhaglen.
Canllawiau Cyffredinol Pleidleisio
- Gellir cael golwg ar Gôd Ymddygiad y BBC ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisiau yma
- Gallwch bleidleidio trwy'r dulliau canlynol:
Ebost i eleriadaf@bbc.co.uk
Ffôn - 08703 500 500 (cost galwad leol arferol ond fe all cost galwad o ffôn symudol fod yn llawer uwch)
Neges destun o ffôn symudol i 67500 (cost arferol eich darparwr) - Wedi i'r holl ganeuon gael eu cyhoeddi fe all y gwrandawyr bleidleisio hyd nes y cyhoeddir diwedd y cyfnod pleidleisio. (tua 9:05 mewn rhaglen arferol)
- Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ganslo neu atal pleidleisiau unrhyw adeg.a chyflwyno dull arall o ddethol yn ol eu doethineb.
- Dim ond un bleidlais fydd yn cael ei chaniatau o'r un cyfeiriad ebost neu rif ffon. Mae gan y BBC yr hawl i ddiarddel pleidleisiau os oes amheuaeth bod pleidleisio twyllodrus wedi digwydd neu os yw'n amau bod ymgais wedi bod i drefnu'r pleidleisio.
- Ni all y BBC, ei hisgontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol neu ddiffygion neu unrhyw broblem gydag unrhyw rwydwaith ffôn neu linell, system, gweinyddwr, darparwr neu arall allai arwain at golli pleidlais neu bleidlais heb ei chofnodi.
- Does dim gwobr o ganlyniad i'r bleidlais hon.


